Agoriadau gwyddbwyll

Cyfres o symudiadau ar ddechrau gem o Wyddbwyll yw Agoriad Gwyddbwyll. Mae symudiadau safonol, cydnabyddedig fel hyn ar ddechrau gem yn cael eu galw'n Amddiffyniad neu Agoriad, ac yn aml yn dwyn enw person, gwlad, disgrifiad o beth sy'n digwydd, neu ddisgrifiad o siap y darnau ar y bwrdd Gwyddbwyll. Mae un agoriad wedi ei enwi ar ôl Cymro, sef Gambit Evans.

Pan fod chwaraewr yn dilyn patrwm cydnabyddedig o symudiadau dywedir ei fod yn gwneud "symudiadau llyfr", ac mae symudiadau anarferol yn yr agoriad yn cael eu disgrifio fel "newydd-deb damcaniaethol". Mae theori agoriadau yn dal i ddatblygu ac esblygu, ac mewn rhai achosion mae chwaraewyr yn cofio hyd at 20 o symudiadau agoriadol safonol mewn agoriad arbennig. I'r rhan fwyaf o chwaraewyr gwyddbwyll gall agoriad bara rhwng 5 a 10 symudiad cyn symud i'r gem ganol. Mae chwaraewyr proffesiynol yn treulio amser hir yn astudio'r agoriadau, gan astudio hefyd agoriadau eu gwrthwynebwyr yn drylwyr i chwilio am gyfleoedd.

Mae gem wyddbwyll fel arfer yn cael ei rhannu yn Agoriad, Gem ganol, a Terfyniad. Mae Agoriadau Gwyddbwyll yn cael eu categoreiddio mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Un ffordd o'u rhannu yw fel hyn:

Nodau mewn agoriad golygu

Gwyn sy'n dechrau gem ac mae ganddo ugain opsiwn wrth wneud hynny. Gall symud un o'i Werinwyr un sgwar neu ddau sgwar, ac mae ganddo ddewis o ddau sgwar yr un i symud ei ddau Farchog. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr yn dueddol o symud naill ai un o'u dau Gwerinwr canolog o d2-d4, neu e2 i e4, neu yn agor drwy symud Marchog i f3 neu c3.

Mae nifer o egwyddorion sylfaenol yn bwysig mewn Agoriad Gwyddbwyll:

  1. Datblygu darnau: Un o brif nodau agoriad yw i osod darn ar sgwar ble fydd yn ddefnyddiol yn y gem. Datblygu darn yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio am symud darn fel hyn. Bydd Marchog fel arfer yn cael ei symud i f3, c3, f6 neu c6, ac weithiau i e2, d2, e7 neu d7). Bydd Gwerinwr ffeiliau d ac e yn cael eu symud i geisio rheoli canol y bwrdd, ac i roi lle i ddatblygu Esgob. Ffordd arall o ddatblygu Esgob yw y Fianchetto. Mae'n nod gan y ddau chwaraewr i ddatblygu darnau'n gyflym, a thrwy hynny i greu amddiffyn cadarn a chyfleoedd ymosodol. Nid yw'r Frenhines fel arfer yn cael ei datblygu yn ystod symudiadau cyntaf yr agoriad.
  2. Rheoli'r Canol: Mewn nifer o agoriadau gwyddbwyll un nod amlwg yw i geisio rheoli'r sgwariau canol, sef d4, d5, e4 ac e5. Drwy rheoli'r rhain mae modd bygwth neu reoli sgwariau pwysig eraill, a symud darnau ar draws y bwrdd yn haws. Yn draddodiadol credwyd mai'r ffordd orau o reoli sgwar canol oedd drwy osod Gwerinwr arno a datblygu Marchogion ac Esgobion i gefnogi'r sgwar ble mae angen. Gelwir y ffordd hon o feddwl am agoriadau gwyddbwyll yn ffordd glasurol, ac mae agoriadau sy'n ceisio rheoli'r canol yn aml yn cael eu digrifio fel Agoriadau Clasurol. Serch hynny mae ffordd gymharol newydd o feddwl am agoriad wedi datblygu yn ystod yr 20g, sef y ffordd hyperfodern.
  3. Diogelu'r Brenin: Gan bod y Brenin yn dechrau gem wyddbwyll ar ganol y bwrdd mewn man cymharol agored mae'n syniad i geisio amddiffyn y Brenin drwy ei symud i fan mwy diogel. Y ffordd mwyaf poblogaidd o wneud hynny yw drwy Castellu, symudiad sy'n rhoi'r Brenin mewn man mwy diogel ac yn datblygu'r Castell.
  4. Strwythur Gwerinwyr: Nod arall mewn Agoriad Gwyddbwyll yw i greu strwythur cadarn i'r Gwerinwyr. Golyga hyn fel arfer ceisio osgoi Gwerinwr wedi ei hynysu, Gwerinwyr wedi dyblu ar ffeil, neu Werinwr ar ôl. Mae strwythur y Gwerinwyr mewn gem yn dylanwadu'n fawr iawn ar strategaeth chwaraewr.

Cyngor pellach wrth agor golygu

  • Cymer ofal wrth symud Gwerinwyr
  • Datblyga dy ddarnau llai yn gynnar
  • Paid cau llwybr dy Esgob gyda Gwerinwr
  • Datblyga'r Marchog am mewn nid am mas, i c3 ac f3 os bosib, nid a3 a h3
  • Cliria dy reng ôl
  • Paid ymosod yn gynnar gyda'r Frenhines
  • Datblyga'r Castell ar ffeil agored
  • Mae'n werth Castellu'n gynnar mewn gem agored
  • Mae'n werth oedi cyn Castellu os yw'n ddiogel i wneud hynny
  • Ceisia atal dy wrthwynebydd rhag Castellu
  • Er nad yw bob amser yn bosib i wneud hynny, ceisia ddilyn yr egwyddor hon: paid symud darn eilwaith nes dy fod wedi wedi symud dy ddarnau i gyd unwaith

Dolenni allanol golygu