Brodor o Tardets-Sorholus yn Zuberoa, Gwlad y Basg Ffrengig, oedd Joseph-Augustin Chaho (10 Hydref 1811 - 23 Hydref 1858) (neu Joseph-Augustin Chaho): dyfeisydd chwedl creadigaeth y Basgiaid, Aitor, awdur y gwaith cenedlaetholgar Voyage en Navarre pendant l’Insurrection des Basques de 1830-1835 (1836) a nifer o astudiaethau ieithyddol mewn Basgeg (Euskara).

Agosti Xaho
Ganwyd10 Hydref 1811 Edit this on Wikidata
Tardets-Sorholus Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 1858 Edit this on Wikidata
Baiona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
llofnod

Gweriniaethwr a radical yn nhraddodiad y Chwyldro Ffrengig oedd Chaho yn y bôn ond cefnogodd y mudiad brehinol traddodiadol Carliaeth yn Sbaen oherwydd ei ymrwymiad i amddiffyn fueros y taleithiau Basgaidd ac annibyniaeth wleidyddol i Euskal Herria. Mewn cyfres o weithiau ac erthyglau yn ei gylchgrawn ei hun, galwodd Chaho am ffederasiwn Basgaidd ar sail hunaniaeth ddaearyddol, ieithyddol a chyfreithiol y Basgiaid a hynny hanner canrif cyn i Sabino Arana ddatblygu syniadau tebyg.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu