Ahed Tamimi

ymgyrchydd Palesteinaidd

Merch o Balesteina yw Ahed Tamimi (Arabeg: عهد التميمي‘Ahad at-Tamīmī; hefyd Ahd) a aned (2001-01-31) 31 Ionawr 2001 (23 oed) ym mhentref bychan Nabi Salih yn y Lan Orllewinol.[1] Ymgyrcha dros ryddid ei phobl ac yn erbyn bygythiadau gan filwyr arfog Israel yn erbyn ei phobl.

Ahed Tamimi
Ganwyd31 Ionawr 2001 Edit this on Wikidata
Nabi Salih Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Galwedigaethymgyrchydd, amddiffynnwr hawliau dynol Edit this on Wikidata
TadBassem al-Tamimi Edit this on Wikidata
PerthnasauJanna Jihad, Ahlam Tamimi Edit this on Wikidata

Daeth yn enwog pan gwelwyd hi ar y cyfryngau torfol yn herio milwyr arfog Israel pan oedd yn blentyn; dros amser daeth yn symbol o obaith i'w phobol yn erbyn Israel a feddiannodd ei thir yn 1948. Cred Ahed Tamimi y dylai Palesteina fod yn wlad annibynnol. Yn Rhagfyr 2017 fe'i charcharwyd gan awdurdodau Israel, heb iddi ymddangos mewn llys barn.

Magwraeth golygu

Ei rhieni yw Bassem a Nariman Tamimi ac fe'i ganed yn Nabi Salih, oddeutu 20 cilometr (12.4 millt.) i'r gogledd-orllewin o Ramallah yn y Lan Orllewinol[1] Daeth ei theulu'n wreiddiol o Hebron yn y 1600au.[2][3]

Defyll yn erbyn yr awdurdodau golygu

Oherwydd fod awdurdodau Israel yn mynnu cymryd tiroedd y Palesteiniaid i'w pobl eu hunain (gan gynnwys yr tiroedd Ein al-Qawsby ble mae teulu Ahed Tamimi wedi byw ers cenedlaethau, cafwyd protestiadau yn erbyn hyn. Ymatebodd milwyr Israel droeon yn Nabi Saleh gyda nwy dagrau, arfau skunk, pwer canonau dŵr,[4] bwledi rwber a bwledi arferol.[4]. Dywedir bod 3 o'r pentref wedi'u lladd ganddynt ac eraill gydag anabledd parhaol. Lladdwyd ei ewyrth, Rushdie, ac anafwyd cannoedd.[4][5][6]

Yn ferch ifanc, dywedodd ei bod yn bwriadu bod yn gyfreithwraig[6] ac o'r herwydd dywedd ei theulu fod awdurdodau Israel yn ei thargedu.[4] nodwyd y byddai'r ardal ble saif cartre'r teulu'n cael ei ddymchwel ac ers hynny mae'r milwyr wedi ymweld a'i theulu oddeutu 150 o weithiau gan eu bygwth.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 McNeill, Sophie (17 Ionawr 2018). "Israeli court orders detention of Palestinian teen Ahed Tamimi until end of her assault trial". ABC News. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
  2. Eglash, Ruth (19 Rhagfyr 2017). "Israelis call her 'Shirley Temper.' Palestinians call her a hero". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd December 30, 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Ahed Tamimi's Family Mocks Israel for Launching Secret Probe to Check if They Aren't Actors, Ha'aretz, 25 Ionawr 2018
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Jaclynn Ashly, 'Nabi Saleh: 'It's a silent ethnic cleansing',' Al-Jazeera 4 Medi 2017.
  5. Matthew Gindin 'Who Is Ahed Tamimi?,' The Forward 4 Ionawr 2018:’ The next generation of Palestinians, born to parents born to Occupation, reared on checkpoints and violent protest, anger, and humiliation, relatives maimed or imprisoned or killed and waking from PTSD dreams — how should Israel deal with these children?’
  6. 6.0 6.1 Sherwood, Harriet (January 2, 2018). "Palestinian 16-year-old Ahed Tamimi is the latest child victim of Israel's occupation". The Guardian. Cyrchwyd 4 Ionawr 2018.