Dinas hynafol yng nghanolbarth Irac yw Al Hillah (Arabeg: الحلة; hefyd Al-Hillah, Al Ḩillah; weithiau Hillah neu Hilla). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Ewffrates, 100 km (62 milltir) i'r de o ddinas Baghdad, gyda phoblogaeth o tua 364,700 (ffigwr 1998). Mae'n brifddinas talaith Bābil ac mae'n gorwedd yn agos i safleoedd hen ddinasoedd Babilon, Borsippa a Kish. Fe'i lleolir mewn ardal ffrwythlon, diolch i ddyfroedd yr Ewffrates; tyfud ffrwythau, grawnfwyd a chynhyrchu brethyn yw'r prif ddiwydiannau.

Al Hillah
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth541,034 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1101 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBābil Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Uwch y môr34 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.48°N 44.43°E Edit this on Wikidata
Map

Sedydlwyd y ddinas yn 1101. Yn y gorffennol bu Al Hillah yn ganolfan dysg Islamaidd. Lleolir beddrod honedig y proffwyd Eseciel mewn pentref gerllaw. Roedd yn ganolfan weinyddol dan Ymerodraeth yr Otomaniaid a dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig yn nes ymlaen. Pan gododd pobl Irac mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Prydain yn 1920 cafwyd ymladd ar raddfa sylweddol yno.

Dioddefodd y ddinas yn Rhyfel Irac; gwnaeth Brigâd Medina Gwarchodlu Gweriniaethol Irac wrthsafiad yno yn erbyn yr Americanwyr a bu frwydr fawr. Ers hynny mae'r ddinas wedi dioddef sawl ymosododiad gan fomwyr.