Alan Heusaff

cenedlaetholwr Llydewig

Cenedlaetholwr Llydewig ac ieithydd oedd Alan Heusaff (23 Gorffennaf 1921 - 3 Tachwedd 1999).

Alan Heusaff
Ganwyd23 Gorffennaf 1921 Edit this on Wikidata
Sant-Ivi Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1999 Edit this on Wikidata
Gaillimh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBreton National Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auGorsedd y Beirdd Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Sant-Ivi ger Rosporden, yn Cornouaille. Aeth i École Normale Kemper, ac ymunodd â'r Parti National Breton (PNB) yn 1938. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dewisodd gydweithredu a'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill rhyddid i Lydaw, gan ymuno â Bezen Perrot yn 1943. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid iddo ffoi o Lydaw, a chafodd gymorth rhai o aelodau Plaid Cymru i gyrraedd Iwerddon, lle dechreuodd astudio ym Mhrifysgol Dulyn yn 1950, gan gael gwaith gyda Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol Iwerddon yn ddiweddarach.

Yn 1961, roedd yn un o sylfaenwyr yr Undeb Celtaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllanerchrugog. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol. Ef a gyhoeddodd y geiriadur cyntaf yn Llydaweg yn unig, Geriaoueg Sant-Ivi.

Baner BretagneEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Lydäwr neu Lydawes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.