Albania Fawr

uno tiroedd Albaniaid mewn un gwlad

Mae'r term Albania Fawr yn cyfeirio at y tiriogaethau sy'n cynnwys holl boblogaeth (neu ardaloedd traddodiadol) lle mae pobl Albaneg yn byw gyda'r bwriad o'u huno mewn un wladwriaeth Albanaidd. Gellir cael amrywiaethau ar yr union ffiniau y dyheuad yma ond mae'n cynnwys y cyfan o wladwriaeth gyfoes Albania, Cosofo, rhannau gorllewinnol Gweriniaeth Macedonia lle mae'r Albaniaid yn byw, rhannau deheuol o Montenegro ac, mewn rhai achosion, rhan ogleddol rhanbarth Epirus yng ngogledd Gwlad Groeg, er bod yr iaith wedi colli tir yno yn ddiweddar.

Albania Fawr
Enghraifft o'r canlynolIredentiaeth, proposed country, proposed administrative territorial entity, great homeland Edit this on Wikidata
Yn cynnwysunification of Albania and Kosovo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map 'Albania Fawr', pyped yr Eidal a'r Almaen yr Ail Ryfel Byd

Terminoleg golygu

Er mai 'Albania Fawr' a ddefnyddir gan amlaf gan wledydd tramor i ddisgrifio'r dyheuad yma, mae'n well gan yr Albaniad ei hunain yn term, 'Albania Ethnig' (Shqipëria Etnike) neu 'Ail-uno Cenedlaethol Albania' (Ribashkimi kombëtar shqiptar).[1] Dadl yr Albaniaid yw bod defnyddio term 'Albani Fawr' yn gamarweiniol a'i fod fel petai rhan o Gymru wedi ei thorri oddi ar Gymru yn erbyn ei hewyllus a bod galw am ail-uno Cymru gysystyr â dyheuad imperialaidd.

Hanes golygu

Ymerodraeth Otomanaidd a Chytuneb Llundain golygu

 
Y Pedwar vilayet Otomanaidd, Cosofo, Scutari, Monastir a Janina fel a gynigiwyd gan Cynghrair Prizren yn 1878 i greu un vilayet Albanaidd o fewn yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Rhanwyd yr Albaniaid rhwng pedwar vilayet o fewn Ymerodraeth Otomanaidd Twrci; Cosofo, Scutari, Monastir a Janina. Ystyrir mai sefydlu Cynghrair Prizren (sef cyngor yn Cosofo) yn 1878 oedd man cychwyn y mudiad cenedlaethol Albanaidd fodern. Galwai'r Albanaid am uno'r Albaniaid o fewn un vilayet o fewn yr Ymerodraeth[2] ac am sicrhau hawliau diwylliannol ac ieithyddol. Roedd hunaniaeth Albanaidd yn dal yn deyrngar i'r Ymerodraeth yn rannol gan mai Mwslemiaid oedd mwyafrif yr Albaniaid.

Gyda Rhyfel y Balcan cwympodd awdurdod yr Ymerodraeth a datganodd Ismail Qemali annibyniaeth Albania ar 28 Tachwedd 1912 yn Vlorë.[3] y brif sbardun dros datgan annibyniaeth oedd i rwystro tiroedd Albanaidd yn cael eu meddiannu gan wlad Groeg a Serbia.[3][4]. Roedd gwrthwynebiad i'r syniad o Albania 'fawr' ar sail creu gwladwriaeth Mwslim yn Ewrop[5]. Tra roedd eraill, megis Awstria a'r Eidal, yn barod i gefnogi rhyw ystym ar wladwriaeth Albanaidd er mwyn rhwystro Serbia (a'i chefnogwyr, Rwsia) rhag cael arfordir lle gallai reoli'r môr Adriatig.[6][7][8][9][10].[11][12][13].

Ysywaith, yn sgil Cytundeb Llundain 1913 er i wladwriaeth newydd Albania gael ei chreu a'i chydnabod roedd tua hanner y tiriogaethau Albaniaidd a 40% o'r boblogaeth y tu allan i ffiniau'r wlad newydd,[14] rhywbeth y mae Albaniaid wedi tueddu i ystyried fel anghyfiawnder a osodir gan y Pwerau Mawr.

Yr Ail Ryfel Byd golygu

Yr unig bryd i'r Albaniaid cael eu huno o fewn un wladwriaeth yn y cyfnod modern yw yn ystod yr Ail Ryfel Byd o dan chydsyniad yr Eidal a'r Almaen.

Yn 1939, aeth y Plaid Ffasgaidd Albania yn blaid llywodraethol Albania o dan reolaeth ffasgaidd yr Eidal. Cytunodd y Prif Weinidog, Shefqet Verlaci, i uno Albania gyda'r Eidal gan ei fod eisiau cefnogaeth yr Eidal i uno Cosofo a'r tiroedd Albanaidd eraill i 'Albania Fawr'. Gwireddwyd y freuddwyd yma wedi i bwerau'r Echel (Axis) feddiannu Iwgoslafia a Groeg ym mis Mai 1941 ac unwyd bron y cyfan o diroedd Albanaidd mewn un talaith.[15][16]. Cefnogwyd y drefn newydd gan y grwp cenedlaetholaidd milwrol, Balli Kombëtar - yr bod y Balli yn erbyn rheolaeth yr Eidal a'r Almaen ar ei tir. O fewn y tiriogaeth gwnaethpwyd Albaneg yn iaith swyddogol ac iaith addysg a defnyddiwyd y Franc Albanaidd fel arian. Roedd y tiriogaeth yn cynnwys y cyfan o Albania, bron y cyfan o Cosofo, rhan o Macedonia a darnau llai o Montenegro. Arhosodd ardal Chameria o dan reolaeth filwrol yr Eidal yng ngwlad Groeg, ac felly, yn dechnegol, yn rhanbarth o Roeg.

Gyda cwymp lluoedd yr Echel yn 1944 yn Iwgoslafia, chwalwyd undod 'Albania Fawr'.

Rhyfeloedd Iwgoslafia 1990au golygu

 
Dosbarthiad yr Albaniaid

Nôd Byddin Rhyddhau Cosofo (KLA) oedd gwahanu Cosofo oddi ar Iwgoslafia gan greu Albania Fawr yn cwmpasu Cosofo, Albania, a lleiafrif ethnig Alanaidd yn Macedonia. Mynnodd Cadlywydd y KLA Sylejman Selimi: "Mae'r genedl Albanaidd yn bodoli, de facto. Y drychineb yw bod pwerau Ewropeaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn penderfynu rhannu'r genedl honno rhwng nifer o wladwriaethau Balcan. Rydym bellach yn ymladd i uno'r wlad, i ryddhau pob Alban, gan gynnwys y rhai yn Macedonia, Montenegro, a rhannau eraill o Serbia. Nid Cosofo yn unig fyddwn ni'n rhyddhau."

Daeth yr ymladd dros annibyniaeth Cosofo oddi wrth Iwgoslafia gyda Chytuneb Kumanovo ar 9 Mehefin 1999. Gydag hynny dechreuwyd y broses o gydnabod Cosofo fel gwladwriaeth annibynnol arwahân i Albania.

Ym mis Chwefror 2001 dechreuwyd gwrthryfel Albanaidd gan yr Byddin Rhyddid Cenedlaethol (Albaneg: Ushtria Çlirimtare Kombëtare - UÇK) dros uno rhannau Albanaidd Macedonia gyda Cosofo. Nôd y UCK oedd ennill hawliau cyfartal i'r Albaniaid o fewn Macedonia Cyf-ffederal.[17] Mynodd uwch swyddogion o fewn y mudiad; "Dydym ni ddim eisiau tanseilio sefydlogrwydd a undod tiriogaethol Macedonia, ond wnawn ni ymladd rhyfel guerrilla nes i ni ennill ein hawliau sylfaenol, nes i ni gael ein derbyn fel pobl gyfartal o fewn Macedonia." [18] Daeth yr ymladd i ben gyda Dealltwriaeth Ohrid ar 13 Awst 2001 pan gytunwyd ar hawliau ieithyddol a chenedlaethol i'r Albaniaid ym Macedonia ond i gadw ffiniau'r wlad.

Irredentiaeth Somali dan reolaeth yr Eidal golygu

Nid tirogaethau yr Albaniaid oedd yr unig tiroedd i'w huno gan luoedd Mussolini yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Unwyd tirogaethau'r Somaliaid o dan reolaeth yr Eidal i wireddu uno Somalia gyfoes, Somaliland, Jibwti, Ogaden (yn Ethiopia gyfoes), gogledd-ddwyrain Cenia eraill i greu Somalia Fawr.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Alternativat e ribashkimit kombëtar të shqiptarëve dhe të Shqipërisë Etnike..!". Gazeta Ditore (yn Albanian). 10 Rhagfyr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2013. Cyrchwyd 1 Ionawr 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Jelavich 1983, tt. 361–365.
  3. 3.0 3.1 Gawrych 2006, tt. 197–200.
  4. Fischer 2007a, t. 19
  5. Volkan 2004, t. 237
  6. Vickers 2011, tt. 69–76.
  7. Tanner 2014, tt. 168–172.
  8. Despot 2012, t. 137.
  9. Kronenbitter 2006, t. 85.
  10. Ker-Lindsay 2009, tt. 8–9.
  11. Jelavich 1983, tt. 100–103.
  12. Guy 2007, t. 453.
  13. Fischer 2007a, t. 21.
  14. Bugajski 2002, t. 675."Roughly half of the predominantly Albanian territories and 40% of the population were left outside the new country's borders"
  15. Zolo 2002, t. 24. "It was under the Italian and German occupation of 1939-1944 that the project of Greater Albania... was conceived."
  16. see map
  17. name="Guardian article"
  18. "BBC News - EUROPE - Who are the rebels?". Cyrchwyd 5 December 2014.