Albwm o ddeunydd comig yw albwm comedi. Gall fod yn recordiad o act digrifwr ar ei sefyll, neu'n gasgliad o sgetshis, caneuon comig, ymson ac ymgom, a jôcs.

Mae hanes yr albwm comedi yn dyddio'n ôl i 1897 pan gynhyrchodd Edison Records recordiadau ar silindr o straeon digrif gan Cal Stewart. Ym 1913 rhyddhaodd Joe Hayman y record Cohen on the Telephone, act am fewnfudwr Iddewig sy'n ceisio ymdopi â thechnoleg fodern.[1] Roedd albymau comedi yn boblogaidd iawn yn ystod gwrthddiwylliant y 1960au a'r 1970au, a'r sîn comedi amgen yn y 1980au a'r 1990au. Heddiw mae nifer o ddigrifwyr yn rhyddhau ei actiau ar DVD yn hytrach nag ar albwm sain.

Yn yr Unol Daleithiau mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau a'r Gwyddorau Recordio yn rhoi Gwobr Grammy am yr Albwm Comedi Gorau.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) History: Comedy LPs. Rhan o Make ‘Em Laugh: The Funny Business of America gan Laurence Maslon a Michael Kantor, ar wefan PBS (1 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 27 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddigrifwch neu gomedi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.