Nofelydd, newyddiadurwr, cymdeithasegydd, hanesydd, gwleidydd a diplomydd Bolifiaidd oedd Alcides Arguedas (15 Gorffennaf 18798 Mai 1946).

Alcides Arguedas
Ganwyd15 Gorffennaf 1879 Edit this on Wikidata
La Paz Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1946, 6 Mai 1946 Edit this on Wikidata
Chulumani Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBolifia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Higher University of San Andrés Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr, hanesydd, diplomydd, historiographer Edit this on Wikidata
Swydddeputy of Bolivia, senator of Bolivia Edit this on Wikidata
Arddullnofel, nofel fer, traethawd Edit this on Wikidata

Ganwyd yn La Paz, Bolifia. Astudiodd gymdeithaseg ym Mharis, a chychwynnodd ar yrfa wleidyddol. Cynrychiolodd ei wlad yn Llundain, Paris, Colombia, a Feneswela, a bu'n arweinydd y Blaid Ryddfrydol ac yn gwasanaethu'n ddirprwy ac yn seneddwr. Fe'i penodwyd yn weinidog amaeth yn 1940. Ysgrifennodd sawl nofel am frodorion Bolifia, gan gynnwys Raza de bronce (1919), un o weithiau cyntaf y mudiad indigenismo. Mae Arguedas hefyd yn nodedig am astudiaethau ysgolheigaidd megis Pueblo enfermo (1909) ac Historia general de Bolivia (1922). Bu farw yn Chulumani yn 66 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Alcides Arguedas. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.