Cawr seren yw Aldebaran. Gorwedd ryw 65 blwyddyn golau o'r ddaear ac ymddengys yng nghytser y Tarw (Taurus), lle cynrychiola llygad chwith yr anifail. Aldebaran yw seren fwyaf llachar y cytser hwnnw (α Tauri) a'r bedwaredd seren fwyaf llachar ar ddeg yn y ffurfafen[1]. Mae hi, hefyd, yn rhan o seren glwstwr yr Hyades. Dyma un o'r sêr mwyaf amlwg i'w canfod o Gymru gyda maintioli (gweledol) yn amrywio'n afreolaidd yn hanesyddol o 0.95 i 0.75. Dengys ei liw oren (dosbarth K5[2]) bod i'w hwyneb (ffotosffer) dymheredd o 3,910 K (ychydig yn oerach na'r haul - 5778 K). Tua 1.7 gwaith màs yr haul yw Aldebaran, ond oherwydd ei diamedr, tua 44 gwaith un yr haul, mae dros 400 gwaith yn fwy disglair (luminous) na'r haul (dosbarth III). Mae'n troi ar ei hechel bob 520 diwrnod (o'i chymharu â thua 27 diwrnod yr Haul). Ymddengys bod iddi o leiaf un blaned, Aldebaran b, sydd o leiaf 5.8 màs y blaned Iau. Pan fu Aldebaran yn rhan o'r sêr brif ddilyniant (main-sequence) mae'n ymddangos y byddai Aldebaran b wedi bod yn y "Parth Elen Benfelyn" (Parth Cyfannedd) lle y byddai cynnal bywyd yn bosibl. Mae'r seren ei hun, bellach, wedi disbyddu'r tanwydd hydrogen yn ei chraidd ac wedi symud o'r prif ddilyniant i'r gangen cawr coch.

Aldebaran
Enghraifft o'r canlynolseren ddeuol, navigational star Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAlpha Tauri B, Aldébaran Edit this on Wikidata
CytserTaurus Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear65.1 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw golygu

Daw enw traddodiadol Aldebaran o'r Arabeg نير الضبران (Nā᾽ir al Dabarān) "un llachar y dilynwr". Mae'n debyg am ei bod yn "dilyn" seren glwstwr amlwg y Twr Tewdws (y Pleiades) ar draws y ffurfafen[3]. Oherwydd amrywiaeth yn y defnydd, dim ond yn 2016 cytunwyd yn derfynol ar y sillafu swyddogol gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol[4].

 
Lleoliad Aldebaran yng nghyser y Tarw. (Esg.:04h 35m 55.23907s ; Gog.:+16° 30′ 33.4885″)

Arsylliadau golygu

Oherwydd ei ddisgleirdeb, mae'n sicr y sylwyd ar Aldebaran ers y cyfnod cynhanes. Mae sôn amdani yn llenyddiaeth hynafol Tsieina, India a Rhufain. Cytser y Tarw, mae'n rhan amlwg ohono, oedd un o'r cytser gyntaf i'w canfod. O bosib yn dyddio i gyfnod cyn yr Oes Efydd[1]. Ceir disgrifiad o'r lleuad yn ei chuddio (occultation) o Athen yng ngwlad Groeg ar 11 Mawrth 509[5]. Cymharodd y seryddwr o Sais, Edmond Halley (1656-1742)[6], yr arsylliad yma i brofi bod Aldebaran wedi symud ychydig yn y ffurfafen erbyn 1718. Hyn, ynghyd ac ymddygiad tebyg gan y sêr Sirius ac Arcturus, a arweiniodd i ddarganfod bod y sêr yn symud[7]. (Y gred hanesyddol bod y sêr yn "ansefydlog" o'u cymharu â'r planedau a oedd yn "crwydro".)

Bu i Aldebaran le pwysig arall yn hanes seryddiaeth[8]. Yn yr 1860au adeiladodd y Sais cefnog William Huggins (1824-1910)[9] arsyllfa yn ei ardd yn Tulse Hill, Llundain. Ynghyd a'i gymydog William Allen Miller (1817-1870)[10] (a oedd yn athro Cemeg yng Ngholeg King's Llundain) aeth ati i ddefnyddio technoleg newydd spectrosgopeg i ddadansoddi cemeg y sêr. (Y Sais William Hyde Wollaston (1766-1828)[11] oedd y gyntaf i sylwi ar linellau yn sbectrwm goleuni'r haul, ond Joseph von Fraunhofer (1787-1826)[12] oedd y gyntaf i'w hastudio yn fanwl yn 1814. Tua hanner can mlynedd wedyn cafwyd esboniad ohonynt gan y Sacson Robert Bunsen (1811-1899)[13] a'r Prwsiad Gustav Kirchhoff (1824-1887)[14].) Oherwydd ei disgleirdeb dewisodd Huggins a Miller troi eu telesgop i ddechrau i gyfeiriad Aldebaran. Canfuwyd dros 70 o linellau sbectrwm. Yn dilyn Bunsen a Kirchhoff adnabuwyd tarddiad nifer ohonynt - gan gynnwys naw elfen gemegol; sodiwm, magnesiwm, hydrogen, calsiwm, haearn, bismwth, telwriwm, antimoni ac arian byw. Wrth dangos bod yr elfennau "daearol" yma yn bodoli yn y sêr diflannodd unrhyw amheuaeth nad gwrthrychau tebyg i'r haul oedd y sêr. Aeth Huggins ymlaen i fesur newid Doppler yn llinellau Sirius - y seryddwr gyntaf i wneud hynny. Erbyn diwedd y ganrif, defnyddiwyd y dechneg hon gan Hermann Vogel[15] a Julius Scheiner[16] yn Arsyllfa Potsdam, ger Berlin, i ddangos bod Aldebaran yn symud oddi wrthym ar gyflymdra o 30 milltir yr eiliad[17].

Yn ein hoes ni, defnyddiwyd Aldebaran i gwyro offer Telesgop Gofod Hubble.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Howell, Elizabeth (2013). "Aldebaran: The Star in the Bull's Eye". Space.com. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  2. Allen, Jesse S. "The Classification of Stellar Spectra". Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  3. Allen, Richard H. (1963). Star Names: Their Lore and Meaning. Courier (adargraffiad). ISBN 9780486137667.
  4. "IAU Catalog of Star Names (IAU-CSN)". IAU Division C Working Group on Star Names (WGSN). 21 Ionawr 2021. Cyrchwyd 5 Mai 2021.
  5. Lynn, W.T. (1885). "Occultation of Aldebaran in the sixth century.". The Observatory 8: 86-87. https://ui.adsabs.harvard.edu/abs/1885Obs.....8...86L/abstract.
  6. J J O'Connor; E F Robertson (Ionawr 2000). "Edmond Halley". Prifysgol St. Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  7. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis. t. 183.
  8. Sparrow (2020). A History of the Universe in 21 Stars (and 3 impostors). London: Welbeck. tt. 27–41. ISBN 9781787394650.
  9. Ashworth, Jr., William B. (7 Chwefror 2017). "Scientist of the Day - William Huggins". Linda Hall Library. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  10. Clerke, Agnes Mary (1885–1900). "Miller, William Allen". Dictionary of National Biography. Cyrchwyd 6 Mai 2021.CS1 maint: date format (link)
  11. Usselman, Melvyn C. (18 Rhagfyr 2020). "William Hyde Wollaston". Encyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  12. "Joseph von Fraunhofer". Fraunhofer-Gesellschaft (yn Almaeneg (Cyfieithiad Saesneg ar gael)). Cyrchwyd 6 Mai 2021.CS1 maint: unrecognized language (link)
  13. "Robert Bunsen". Famous Scientists. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  14. J J O'Connor; E F Robertson (Awst 2002). "Gustav Robert Kirchhoff". Prifysgol St.Andrews, Yr Alban. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
  15. MacPherson Jnr, Hector (1907). "Hermann Karl Vogel". The Observatory 30: 403-405. http://articles.adsabs.harvard.edu//full/1907Obs....30..403M/0000403.000.html.
  16. Frost, Edwin B. (1915). "Julius Scheiner". Astrophysical Journal, 41: 1-8. http://adsabs.harvard.edu/full/1915ApJ....41....1F.
  17. Clerke, Agnes Mary (1908). A Popular History of Astronomy During the Nineteenth Century (4ydd ol). Adam & Charles Black. tt. 381–382.