Amgylcheddwr, cadwraethwr, coedwigwr ac awdur Americanaidd oedd Rand Aldo Leopold (11 Ionawr 188721 Ebrill 1948).[1] Fe'i ystyrir yn aml yn un o dadau'r mudiad amgylchedol ac yn sefydlydd y gyfundrefn ardaloedd gwyllt yn yr Unol Daleithiau.

Aldo Leopold
Ganwyd11 Ionawr 1887 Edit this on Wikidata
Burlington, Iowa Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Baraboo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Yale School of Forestry and Environmental Studies
  • Lawrenceville School
  • Prifysgol Yale
  • Sheffield Scientific School Edit this on Wikidata
Galwedigaethecolegydd, academydd, gwyddonydd coedwigaeth, academydd, casglwr botanegol, amgylcheddwr, athronydd, naturiaethydd, coedwigwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Wisconsin–Madison
  • United States Forest Service
  • University of Wisconsin–Madison Arboretum Edit this on Wikidata
Adnabyddus amA Sand County Almanac Edit this on Wikidata
PlantNina Leopold Bradley, Estella Leopold, Luna Leopold, A. Carl Leopold, A. Starker Leopold Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal John Burroughs Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd yn Burlington, Iowa. Treuliodd ei fachgendod yn arsylwi ar fyd natur ac yn cadw dyddiadur a llyfr braslunio. Astudiodd yn yr Ysgol Goedwigaeth ym Mhrifysgol Yale. Wedi iddo ennill ei radd yn 1909, gweithiodd i Wasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau hyd at 1928, yn bennaf yn nhaleithiau Arizona a New Mexico.

Cafodd ei benodi'n oruchwyliwr Coedwig Genedlaethol Carson yn New Mexico yn 1911. Leopold oedd un o arweinwyr y cynllun i reoli Coedwig Genedlaethol Gila, New Mexico, fel ardal naturiol, a daeth yn ardal wyllt gyntaf yr Unol Daleithiau yn 1924. Y flwyddyn honno, cafodd Leopold ei drosglwyddo i Madison, Wisconsin, i weithio yn swydd cyfarwyddwr cyswllt yn Labordy Cynnyrch Coedwig Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.[2] Yn 1933, derbyniodd swydd athro rheolaeth helfilod ym Mhrifysgol Wisconsin, y gadair gyntaf o'i fath yn yr Unol Daleithiau, a bu'n addysgu yno nes 1948. Gwasanaethodd yn gyfarwyddwr yr Audubon Society, ac yn 1935 ef oedd un o sefydlwyr y Wilderness Society.

 
Leopold a'i deulu y tu allan i'r Shack.

Yn 1935, prynodd Leopold hen fferm ar lannau Afon Wisconsin, ger Baraboo yn Swydd Sauk, Wisconsin, ac enwodd yr hen gut ieir yn the Shack. Treuliodd ei deulu y penwythnos yn plannu miloedd o binwydd ac yn ceisio adfer y paith. O ganlyniad i'r arbrawf ecolegol hwn, adfywiodd y bywyd gwyllt ar y tir. Cydnabuwyd Fferm a Chaban Leopold yn Dirnod Hanesyddol Cenedlaethol gan y Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yn 2009.[3]

Bu farw yn 61 oed o drawiad ar y galon. Mae ei ferch, Estella Leopold, yn baleobotanegydd.

Syniadaeth amgylcheddol golygu

 
Leopold ar un o'i deithiau i ranbarth Rio Gavilan yng ngogledd y Sierra Madre (1936–7).

Arddelai "moeseg y tir" gan Leopold: dadleuodd bod yn rhaid i bob unigolyn fod yn stiward, ac i ymddwyn yn rhan o gyfundrefn bywyd yn hytrach na rheolwr dros yr amgylchedd.

Ei ysgrifeniadau golygu

Ysgrifennod Leopold nifer fawr o erthyglau ar gyfer cyfnodolion academaidd a chylchgronau poblogaidd. Leopold oedd awdur y llyfr cyntaf ar bwnc rheolaeth bywyd gwyllt, Game Management, a gyhoeddwyd yn 1933. Ym 1949, wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd A Sand County Almanac, casgliad o'i ysgrifau sy'n galw am gadwraeth ecosystemau. Eglurodd gred Leopold y dylai dynolryw ddal mwy o barch moesol tuag at yr amgyclhedd a'i fod yn anfoesol i'w niweidio. Cyfeirir at y llyfr weithiau fel y llyfr mwyaf dylanwadol ar gadwraeth.

Ei etifeddiaeth golygu

 
Leopold (trydydd o'r chwith) a sefydlwyr eraill y Wilderness Society.

Cafodd ei ynydu i'r Wisconsin Conservation Hall of Fame yn 1985.[2] Ers 2015, dethlir wythnos gyntaf mis Mawrth yn Iowa er cof amdano.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Aldo Leopold. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Ionawr 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Aldo Leopold", The Wisconsin Conservation Hall of Fame. Adalwyd ar 31 Ionawr 2019.
  3. (Saesneg) "The Shack", Aldo Leopold Foundation. Adalwyd ar 31 Ionawr 2019.
  4. (Saesneg) "Aldo Leopold Week", Adran Weithredol Talaith Iowa (11 Awst 2014). Adalwyd ar 31 Ionawr 2019.