Nofelydd, dramodydd ac ysgrifwr Sbaeneg a cherddolegydd o Giwba oedd Alejo Carpentier y Valmont (26 Rhagfyr 190424 Ebrill 1980). Mae'n nodedig fel un o arloeswyr realaeth hudol yn llên America Ladin yng nghanol yr 20g.

Alejo Carpentier
GanwydAlejo Carpentier Valmont Edit this on Wikidata
26 Rhagfyr 1904 Edit this on Wikidata
Lausanne Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ebrill 1980 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
7fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba, Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, awdur ysgrifau, cerddolegydd, beirniad llenyddol, diplomydd, academydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad, cultural attaché Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Kingdom of this World, Explosion in a Cathedral, The Harp and the Shadow Edit this on Wikidata
MudiadSwrealaeth, magic realism Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Miguel de Cervantes, Prix mondial Cino Del Duca, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, prix du meilleur livre étranger Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Lausanne, y Swistir, i Ffrancwr a mam Rwsiaidd. Ymfudodd y teulu i La Habana pan oedd Alejo yn faban. Ffrangeg oedd ei iaith gyntaf, a bu'n siarad Sbaeneg gydag acen Ffrengig. Astudiodd mewn ysgolion preifat ac ym Mhrifysgol La Habana. Yn y 1920au, Carpentier oedd un o arweinwyr y mudiad Affro-Giwbaiadd a geisiodd ymgorffori traddodiadau Affricanaidd yn niwylliant yr avant-garde yng Nghiwba, yn enwedig cerddoriaeth, dawns, a'r theatr. Cyfansoddodd Carpentier sawl libreto opera a bales gyda themâu Affricanaidd-Giwbaiadd. Cyhoeddodd y nofel ¡Ecue-Yamba-O! yn 1933.

Ffoes Carpentier Giwba yn 1928 i ddianc rhag llywodraeth yr unben Gerardo Machado, ac ymsefydlodd ym Mharis. Dychwelodd i La Habana yn 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Symudodd i Caracas, Feneswela, yn 1945. Cyhoeddodd yr astudiaeth gerddorol La música en Cuba yn 1946. Mae ei ffuglen yn genre realaeth hudol yn cynnwys y nofelau El reino de este mundo (1950) a Los pasos perdidos (1953) a'r gyfrol o straeon byrion Guerra del tiempo (1958).

Dychwelodd Carpentier i La Habana yn 1959 yn sgil Chwyldro Ciwba. Gwasanaethodd yn ddiplomydd dan lywodraeth Fidel Castro ym Mharis o ganol y 1960au hyd ddiwedd ei oes. Yng nghyfnod diweddarach ei yrfa lenyddol fe drodd at ffuglen ysgafn, megis Concierto barroco (1974), El recurso del método (1974), ac El arpa y la sombra (1979). Bu farw ym Mharis yn 75 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Alejo Carpentier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2019.