Alexander Borodin

Roedd Alexander Porfiryevich Borodin (Rwsieg: Александр Порфирьевич Бородин, Aleksandr Porfir'evič Borodin) (31 Hydref/12 Tachwedd 1833 – 15 Chwefror/27 Chwefror 1887) yn gyfansoddwr clasurol Rwsiaidd o dras Georgiaidd a aned yn St. Petersburg. Roedd yn athro cemeg a ddaliodd sawl swydd academaidd a swyddogol. Sefydlodd Ysgol Meddygon i ferched.

Alexander Borodin
Ganwyd31 Hydref 1833 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1887 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr clasurol, cemegydd, pianydd, ffliwtydd, chwaraewr soddgrwth, meddyg, cyfansoddwr opera, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol St Petersburg Meddygol y Wladwriaeth Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPedwarawd Llinynol Rhif 2, Prince Igor Edit this on Wikidata
Arddullopera, symffoni, cerddoriaeth glasurol, rhamant, cerddoriaeth siambr Edit this on Wikidata
PriodEkaterina Protopopova Edit this on Wikidata
Gwobr/auHonorary Citizen of the Russian Empire Edit this on Wikidata

Datglygasai diddordeb Borodin mewn cerddoriaeth glasurol yn ystod ei lencyndod. Yn hwyr yn ei ddauddegau cyfarfu â Balakiref, un o gyfansoddwyr Rhamantaidd mawr y cyfnod, a daeth yn aelod o grŵp 'Y Pump'. Bu farw'n sydyn mewn parti yn ei ddinas enedigol, yn 53 oed.

Ei waith golygu

Nid yw Borodin yn gyfansoddwr cynhyrchfawr, gyda dim ond 21 o weithiau i'w enw, ond mae ei waith yn cynnwys y "braslun symffonig" Ar wastadeddau Canolbarth Asia a'r opera Y Tywysog Igor a adaelwyd heb ei gorffen ond a gwblheuwyd gan ei gyfeillion Rimsky-Korsakof a Glazunof. Un o'i edmygwyr mawr oedd Liszt.

Cyfeiriadau golygu

  • Percy A. Scholes, The Oxford Companion to Music (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 10fed argraffiad, 1995)