Alexander Severus

Marcus Aurelius Severus Alexander (1 Hydref 20819 Mawrth 234), a adnabyddir yn gyffredin fel Alexander Severus, oedd ymerawdwr Rhufain o 222 hyd 234.

Alexander Severus
Ganwyd1 Hydref 208 Edit this on Wikidata
Tell Arqa Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 235 Edit this on Wikidata
Mogontiacum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadUnknown, Heliogabalus, Caracalla Edit this on Wikidata
MamJulia Avita Mamaea Edit this on Wikidata
PriodSallustia Orbiana, Sulpicia Memmia Edit this on Wikidata
LlinachSeveran dynasty Edit this on Wikidata

Ganed Alexander Severus yn ninas Ffenicaidd Arca Cesarea yn Syria. Roedd yn fab i Gessius Marcianus a Julia Mammaea ac yn ŵyr i Julia Maesa. Ei enw gwreiddiol oedd Alexandrus Basianus. Roedd Julia Maesa wedi cynorthwyo i wneud Heliogabalus yn ymerawdwr, ond pan ddaeth yn amlwg na allai hi ei reoli a'i fod yn amhoblogiaidd, dechreuodd Julia weithio i wneud Alexander yn ymerawdwr. Llwyddodd i wneud i Heliogabalus ei enwi fel ei olynydd ar 16 Mehefin 221, a newidiodd Alexander ei enw i Severus Alexander.

Wedi i Heliogabalus gael ei lofruddio yn 222 llwyddodd ei fam a'i nain i berswadio'r Senedd a'r bobl y dylid cyhoeddi Alexander, oedd ddim ond 13 oed, yn ymerawdwr. Ei fam ac yn arbennig ei nain Julia Maesa oedd yn rheoli mewn gwirionedd yn y blynyddoedd cynnar. Llwyddwyd i roi cyllid y wladwriaeth ar seiliau mwy diogel, ond arweiniodd toriadau yn y gyllideb filitaraidd at anesmwythyd yn y fyddin. Alexander oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod a chydymdeimlad a'r Cristnogion, a dywedir ei fod yn meddwl codi temlau iddynt ac addoli Crist fel un o'r duwiau yn y pantheon Rhufeinig.

Priododd Alexander a Sallustia Barbia Orbiana yn 225 neu 226, ond ni bu ganddynt blant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach alltudiwyd Sallustia i Affrica, ar orchymyn Julia Mammaea yn ôl pob tebyg. Yn ystod terynasiad Alexander yr oedd y Sassaniaid, oedd wedi cipio ymerodraeth Persia oddi ar y Parthiaid, yn magu nerth. O 230 ymlaen dechreuasant ymosod ar daleithiau Mesopotamia. Cododd Alexander fyddin i'w gwrthwynebu yn 231, ac wedi colledion enbyd ar y ddwy ochr penderfynodd y brenin Aradshir ddychwelyd y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro.

Y flwyddyn wedyn ymosododd yr Almaenwyr ar ffiniau'r ymerodraeth yn y gogledd. Cychwynodd Alexander yn eu herbyn gyda'i fyddin, ond er mwyn ennill amser gyrrodd roddion i'r Almaenwyr. Teimlai ei filwyr fod hyn yn warth, ac mewn gwersyll gerllaw Maguncia lladdwyd Alexander ganddynt. Cyhoeddodd y llengoedd Maximinus Thrax yn ymerawdwr yn ei le.

Rhagflaenydd:
Heliogabalus
Ymerawdwr Rhufain
222234
Olynydd:
Maximinus Thrax