Alexandria Villaseñor

Mae Alexandria Villaseñor (ganwyd 18 Mai 2005) yn ymgyrchydd Americanaidd yn erbyn newid hinsawdd, sy'n byw yn Ninas Efrog Newydd. Yn ddilynwr y mudiad Fridays for Future ac yn gyd-ymgyrchydd gyda Greta Thunberg, [1] mae Villaseñor yn gyd-sylfaenydd Streic Hinsawdd Ieuenctid yr UD ac yn sylfaenydd Earth Uprising.[2]

Alexandria Villaseñor
Ganwyd18 Mai 2005 Edit this on Wikidata
Davis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Brasil Brasil
Galwedigaethdisgybl ysgol, amgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGreta Thunberg Edit this on Wikidata
MudiadAmgylcheddaeth, Fridays for Future, Earth Uprising Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Ganwyd Villaseñor yn 2005 yn Davis, California, lle cafodd ei magu.[3][4] Yn 2018, symudodd y teulu o oddi yno i Efrog Newydd.[5] Ei nod, un diwrnod, yw gweithio i'r Cenhedloedd Unedig.[6]

Ymgyrchu golygu

Sbardunwyd brwydr Villaseñor dros weithredu yn erbyn newid hinsawdd pan gafodd ei dal yng nghanol mwg tan gwyllt gwaethaf Califfornia, erioed, sef Tan Camp Creek Road wyn Nhachwedd 2018, yn ystod ymweliad teuluol. Fel dioddefwr asthma, aeth yn sâl a thra roedd i ffwrdd o'r ysgol, ymchwiliodd i'r newid yn yr hinsawdd a'r codiadau tymheredd a gyfrannodd at ddifrifoldeb y tân. [7] Roedd ei mam, Kristin Hogue, wedi ymrestru mewn cwrs MA ar yr Hinsawdd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Columbia a byddai Villaseñor yn mynychu'r dosbarth gyda'i mam o bryd i'w gilydd, lle dysgodd am wyddoniaeth sylfaenol newid hinsawdd.[8] Yn fuan wedi hynny, ymunodd â grŵp yn Efrog Newydd o'r enw Zero Hour, grŵp o weithredwyr hinsawdd ifanc.

Cymerodd Villaseñor gamau'n erbyn newid hinsawdd tebyg i Thunberg, a’i hysbrydolodd gyda’i sgwrs ar 4 Rhagfyr 2018 yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP24) yn Katowice, Gwlad Pwyl. Ers Rhagfyr 14, 2018 (yn ystod COP24), [9] bu'n chwarae triwant o'r ysgol bob dydd Gwener er mwyn protestio yn erbyn diffyg gweithredu y- o flaen Pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.[10] Nid yw hi bellach yn ymwneud â'r grŵp Streic Hinsawdd Ieuenctid yr Unol Daleithiau [11] oddigerth i'r grŵp Earth Uprising a sefydlodd ei hun.[12]

Ym mis Mai 2019, Villaseñor oedd derbynnydd Gwodr Disruptor, un o'r Tribeca Disruptive Innovation Awards (TDIA), derbyniodd ysgoloriaeth gan sefydliad eiriolaeth gyhoeddus The Common Good,[13][14] a dyfarnwyd iddi wobr Arweinyddiaeth Hinsawdd Ieuenctid gan Earth Day Network.[15]

Pan gyrhaeddodd Thunberg Ddinas Efrog Newydd o’i mordaith cwch hwylio trawsatlantig yn Awst 2019, cyfarchwyd Thunberg gan Villaseñor, Xiye Bastida, ac ymgyrchwyr newid hinsawdd eraill. [16] Erbyn hynny, roeddent eisoes wedi sefydlu cysylltiad â'i gilydd dros y cyfryngau cymdeithasol.[17]

Ar 23 Medi 2019, fe ffeiliodd Villaseñor, ynghyd â 15 o weithredwyr ieuenctid eraill gan gynnwys Greta Thunberg, Catarina Lorenzo, a Carl Smith, gŵyn gyfreithiol gyda’r Cenhedloedd Unedig gan gyhuddo pum gwlad, sef Ffrainc, yr Almaen, Brasil, yr Ariannin, a Thwrci o fethu a chynnal eu targedau lleihau Carbon y gwnaethant ymrwymo iddynt yn eu haddewidion yng Nghytundeb Paris (2016).[18][19]

Ganol fis Hydref 2019, mynychodd Uwchgynhadledd Maer y Byd C40 yn Copenhagen, Denmarc.[20]

Ar 19 Awst 2020, anerchodd Villaseñor y Confensiwn Cenedlaethol Democrataidd fel rhan o’u cylch ar newid hinsawdd.[21]

Gwobrau golygu

Ar 1 Rhagfyr 2020, cafodd ei henwi gan y cylchgrawn Seventeen fel un o "Leisiau’r Flwyddyn 2020". [22]

Cyfeiriadau golygu

  1. Kaplan, Sarah (February 16, 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". The Washington Post. Cyrchwyd June 25, 2019.
  2. "Alexandria Villaseñor". Bulletin of the Atomic Scientists. Cyrchwyd May 4, 2019.
  3. Milman, Oliver (March 12, 2019). "'We won't stop striking': the New York 13 year-old taking a stand over climate change". The Guardian. Cyrchwyd July 20, 2019.
  4. Kaplan, Sarah (February 16, 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". The Washington Post. Cyrchwyd May 4, 2019.
  5. "Meet Alexandria Villaseñor, the Young Woman Inspiring People to Take Action on the Climate Change Crisis". Glitter Magazine. June 24, 2019. Cyrchwyd July 19, 2019.
  6. Minutaglio, Rose (March 14, 2019). "The World Is Burning. These Girls Are Fighting to Save It". Elle. Cyrchwyd July 20, 2019.
  7. Kaplan, Sarah (February 16, 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". The Washington Post. Cyrchwyd May 4, 2019.Kaplan, Sarah (February 16, 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". The Washington Post. Retrieved May 4, 2019. CS1 maint: discouraged parameter (link)
  8. Borunda, Alejandra (March 13, 2019). "These young activists are striking to save their planet from climate change". National Geographic. Cyrchwyd July 20, 2019.
  9. Kaplan, Sarah (February 16, 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". The Washington Post. Cyrchwyd May 4, 2019.Kaplan, Sarah (February 16, 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". The Washington Post. Retrieved May 4, 2019. CS1 maint: discouraged parameter (link)
  10. Berardelli, Jeff; Ott, Haley (February 22, 2019). "Meet the teens leading a global movement to ditch school and fight climate change". CBS News. Cyrchwyd May 4, 2019.
  11. "Our Co Executive Directors & National Co-Directors". US Youth Climate Strike. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 17, 2019. Cyrchwyd May 8, 2019.
  12. Stuart, Tessa (April 26, 2019). "A New Generation of Activists Is Taking the Lead on Climate Change". Rolling Stone. Cyrchwyd May 8, 2019.
  13. "The Common Good Forum & American Spirit Awards – May 10, 2019". The Common Good. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 25, 2019. Cyrchwyd May 25, 2019.
  14. "Alexandria Villaseñor". The Common Good. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 25, 2019. Cyrchwyd May 25, 2019.
  15. "14-Year-Old Alexandria Villaseñor Has Been Striking Outside UN Headquarters for 5 Months. Here's Why". Earth Day Network. Cyrchwyd May 25, 2019.
  16. Lela Nargi (September 9, 2019). "Greta Thunberg's New York visit inspires young climate activists". Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd September 15, 2019.
  17. Lela Nargi (September 22, 2019). "14-åriga klimataktivisten Alexandria Villaseñor om vänskapen med Greta Thunberg". Expressen (yn Saesneg). Cyrchwyd September 24, 2019.
  18. "Why Teen Climate Activist Alexandria Villaseñor Is Suing the World For Violating Her Rights". Earther. Cyrchwyd September 23, 2019.
  19. "16 children, including Greta Thunberg, file landmark complaint to the United Nations Committee on the Rights of the Child". www.unicef.org (yn Saesneg). Cyrchwyd September 23, 2019.
  20. "Press Conferences" (yn Saesneg). C40 World Mayors Summit. October 10, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-26. Cyrchwyd October 12, 2019.
  21. "Youth Climate Activists to Speak at Democratic National Convention". www.huffpost.com (yn Saesneg). August 19, 2020. Cyrchwyd December 2, 2020.
  22. "15 Teens Who Changed the World". www.seventeen.com (yn Saesneg). December 1, 2020. Cyrchwyd December 2, 2020.