Bardd, ysgrifwr, awdur straeon byrion, a beirniad llenyddol Sbaeneg o Fecsico oedd Alfonso Reyes Ochoa (17 Mai 188927 Rhagfyr 1959) a fu hefyd yn ddiplomydd ac addysgwr. Ystyrir yn un o awduron ac ysgolheigion llenyddol goreuaf Mecsico yn yr 20g, ac yn ffigur pwysig yn llên America Ladin yn gyffredinol. Meddai Jorge Luis Borges amdano, "Reyes heddiw ydy'r prif hombre de letras yn ein America. Ni ddywedaf y prif ysgrifwr, y prif storïwr, na'r prif fardd; dywedaf y prif hombre de letras, hynny yw y prif lenor a'r prif ddarllenwr [...] gyfaill i Montaigne, i Goethe, i Stevenson, ac i Homeros, ni ellir cymharu dim â natur agored ei ysbryd".[1]

Alfonso Reyes
Ganwyd17 Mai 1889 Edit this on Wikidata
Monterrey Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1959 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad Nacional Autónoma de México Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, diplomydd, cyfreithegwr, athronydd, cyfieithydd, bardd-gyfreithiwr, cyfreithiwr, ysgrifennwr, dyneiddiwr Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Mecsico Edit this on Wikidata
TadBernardo Reyes Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg (1889–1913) golygu

Ganwyd Alfonso Reyes Ochia ar 17 Mai 1889 ym Monterrey, Nuevo León, yng ngogledd-ddwyrain Mecsico, yn fab i'r Cadfridog Bernardo Reyes, yr hwn oedd yn wleidydd amlwg yn niwedd y 19g.[2] Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn y papur newydd lleol.[3] Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn Ninas Mecsico cyn iddo astudio'r gyfraith yn y Facultad de Derecho.[4]

Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifddinas, Reyes oedd un o sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909, a chyfranodd at y cyfnodolion Revista moderna a Savia moderna. Ymunodd â'r ymdrechion i ddiwygio cyfundrefn addysg uwch Mecsico, a chafodd ran wrth drawsnewid cyfundrefn ysgolion yr Escuela Nacional Preparatoria a sefydlu'r Escuela de Altos Estudios yn 1910 a'r Universidad Popular yn 1912.[3] Gweithiodd yn ysgrifennydd yn y gyfadran ôl-raddedig, ac yno addysgodd gwrs ar yr iaith Sbaeneg a'i llenyddiaeth.[4] Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) yn 1913.[5]

Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y casgliad o ysgrifau Cuestiones estéticas (1911), ym Mharis. Er yr oedd Reyes dal yn fyfyriwr pan ysgrifennodd y llyfr hwnnw, denodd sylw am ei ysgolheictod gwreiddiol ac am geinder ei arddull. Ymhlith y pynciau llenyddol mae'n eu trafod mae'r cymeriad Electra yn theatr Groeg yr Henfyd, llên Sbaen yn yr Oesoedd Canol a'r Siglo de Oro gan gynnwys astudiaeth o'r bardd Luis de Góngora, dadansoddiad o waith y bardd Ffrangeg Stéphane Mallarmé, ac ymdriniaeth â'r tir ym marddoniaeth Fecsicanaidd y 19g.[3]

Gyrfa ddiplomyddol (1913–39) golygu

Cychwynnodd Reyes ar yrfa yn y gwasanaeth diplomyddol yn Ffrainc yn 1913, yn swydd is-ysgrifennydd y genhadaeth Fecsicanaidd ym Mharis.[4] Cafodd seibiant o'i yrfa newydd i astudio ac addysgu yn y Centro de Estudios Históricos ym Madrid o 1914 i 1919.[5] Gwasanaethodd yn llysgenhadaeth Mecsico yn Sbaen o 1920 i 1924, yn swydd chargé d'affaires (dirprwy lysgennad) o 1922 i 1924, ac yn weinidog Mecsico i Ffrainc yn 1924–27.[4] Penodwyd yn llysgennad i'r Ariannin yn y cyfnodau 1927–30 a 1936–37, ac i Frasil yn 1930–36 a 1938–39. Bu'n aml yn cynrychioli Mecsico mewn cynadleddau diwylliannol rhyngwladol.[4][5]

Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddodd Reyes nifer o weithiau ysgolheigaidd a chreadigol mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys y traethawd ar ffurf cerdd brôs Visión de Anáhuac (1917), y casgliad o ymgomion a brasluniau llenyddol El plano oblicuo (1920) , y gyfrol o gerddi Huellas (1922), a'r ysgrifau Reloj de sol (1926). Ysgrifennodd ragor am lenyddiaeth Roeg glasurol a cheinion llên Sbaen, a chyfieithodd hefyd nifer o weithiau o'r Saesneg a'r Ffrangeg i'r Sbaeneg.

Dychwelyd i Fecsico (1939–59) golygu

Ymddeolodd Reyes o'r gwasanaeth diplomyddol yn 1939 a dychwelodd i'w famwlad i fyw am weddill ei oes. Fe'i penodwyd yn llywydd La Casa de España en México, a ailenwyd yn El Colegio de México yn 1940, a daliodd y swydd honno nes ei farwolaeth.[2] Reyes hefyd oedd un o sefydlwyr academi'r Colegio Nacional yn 1943. Reyes oedd y llenor cyntaf i dderbyn gwobr ieithyddol a llenyddol genedlaethol Mecsico, Premio Nacional de Ciencias y Artes, a hynny yn 1945. Fe wasanaethodd yn llywydd yr Academia Mexicana de la Lengua o 1957 i 1959.[4]

Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth a damcaniaeth lenyddol: La crítica de la edad ateniense (1941), La antigua retórica (1942), La experiencia literaria (1942), ac El deslinde: prolegómenos a la teoría literaria (1944). Yn y cyfnod hwn aeth i'r afael â'i orchest o gyfieithu ac addasu penillion yr Iliad. Llenor hynod o gynhyrchiol oedd Reyes, ac mae ei holl ysgrifeniadau, barddoniaeth, rhyddiaith, ac ysgolheictod, yn llenwi 26 o gyfrolau.[3]

Bu farw yn Ninas Mecsico ar 27 Rhagfyr 1959 yn 70 oed, a fe'i cleddir yn y Rotonda de las Personas Ilustres yn y brifddinas.[4]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

Beirniadaeth, ysgolheictod ac ysgrifau golygu

  • Cuestiones estéticas (Paris: Paul Ollendorff, 1911).
  • Reloj de sol (Madrid: Tipografía artistica, 1926).
  • La crítica de la edad ateniense: 600 a 300 A.C. (Dinas Mecsico: El Colegio de México, 1941).
  • La antigua retórica (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1942).
  • La experiencia literaria (Buenos Aires: Editorial Losada, 1942).
  • El deslinde: prolegómenos a la teoría literaria (Dinas Mecsico: El Colegio de México, 1941).
  • La X en la frente: algunas páginas sobre México (Dinas Mecsico: Porrúa y Obregón, 1952).

Ffuglen golygu

  • El plano oblicuo: Cuentos y diálogos (Madrid: Europa, 1920).

Barddoniaeth golygu

  • Huellas (Dinas Mecsico: Andrés Botas e Hijo, 1922).
  • Romance del Río de Enero (Maastricht: Halcyon, 1933).
  • Yerbas del Tarahumara (Buenos Aires: cyhoeddwr di-enw 1934).
  • Golfo de México (Buenos Aires: Francisco A. Colombo, 1934).
  • Romances (y afines) (Dinas Mecsico: Editorial Stylo, 1945).

Cyfeiriadau golygu

  1. Jorge Luis Borges, "El primer hombre de letras de nuestra América" yn Borges ante el espejo, golygwyd gan Jorge Mejía Prieto a Justo R. Molachino (Dinas Mecsico: Editorial Lectorum, 1995), tt. 35–36.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Roderic Ai Camp, "Reyes Ochoa, Alfonso (1889–1959)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Rafael Olea Franco, "Reyes, Alfonso" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 487–88.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 (Saesneg) "Alfonso Reyes" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Awst 2019.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Alfonso Reyes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2019.

Darllen pellach golygu

  • Barbara Bockus Aponte, Alfonso Reyes and Spain: His dialogue with Unamuno, Valle-Inclán, Ortega y Gasset, Jiménez, and Gómez de la Serna (Austin: University of Texas Press, 1972).
  • Rogelio Arenas Monreal, Alfonso Reyes y los hados de febrero (Mexicali: Universidad Autónoma de Baja California, 2004).
  • Robert T. Conn, The Politics of Philology: Alfonso Reyes and the Invention of the Latin American Literary Tradition (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 2002).
  • E. Mejía Sánchez, La vida en la obra de Alfonso Reyes (Dinas Mecsico: Secretaría de Educación Pública, 1966).
  • Adela Eugenia Pineda Franco ac Ignacio M. Sánchez Prado (gol.), Alfonso Reyes y los estudios latinoamericanos (Pittsburgh, Pennsylvania: Instituto Internacional de Literatura Iberoamericana, Universidad de Pittsburgh, 2004).
  • Pol Popovic Karic, Fidel Chávez Pérez, a Paulette Patout (gol.), Alfonso Reyes, perspectivas críticas: Ensayos inéditos (Monterrey: Tecnológico de Monterrey, Feria Internacional del Libro, 2004).
  • James Willis Robb, El estilo de Alfonso Reyes: Imagen y estructura (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1965).
  • James Willis Robb (gol.), Por los caminos de Alfonso Reyes (Dinas Mecsico: INBA, 1981).
  • James Willis Robb, "Alfonso Reyes" yn Latin American Writers cyfrol 2, golygwyd gan C. A. Solé ac M. I. Abreu (Efrog Newydd: Scribners, 1989), tt. 693–703.