Alfred Thomas

barwn Pontypridd

Roedd Alfred Thomas, barwn Pontypridd (16 Medi 1840 - 14 Rhagfyr 1927) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Dwyrain Morgannwg[1]

Alfred Thomas
Ganwyd16 Medi 1840 Edit this on Wikidata
Pen-y-lan Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1927 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadDaniel Thomas Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Alfred Thomas ym 1840 ym Mhen-y-lan, Caerdydd, yn fab i Daniel Thomas ymgymerwr.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Weston, ger Caerfaddon.

Roedd yn ddibriod.

Gyrfa Gwleidyddol golygu

Daeth Thomas yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Bwrdeistref Caerdydd ym 1875 a bu'n Maer y Dref ym 1881-1882. Fel Maer chwaraeodd rhan ganolog yn y penderfyniad i leoli Coleg Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, yn hytrach nag Abertawe. Cafodd ei greu yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Caerdydd ym 1887.

Safodd Thomas yn etholaeth Dwyrain Morgannwg yn enw'r Blaid Ryddfrydol ym 1885 gan gael ei ethol yn Aelod Seneddol a gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd adeg Etholiad Cyffredinol Mis Ragfyr 1910.

Roedd Thomas yn aelod cenedlaetholgar o'r Blaid Ryddfrydol. Fe gyflwynodd yn (aflwyddiannus ) gyda chefnogaethThomas Edward Ellis Mesur Sefydliadau Gwladol (Cymru) i'r senedd ym 1891. Mesur oedd yn ymofyn Prifysgol i Gymru, Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a Senedd i Gymru.[2]

Roedd yn aelod o Gymru Fydd, ac fe fu'n gadeirydd yr ymgyrch i godi cerflun i Evan James a James James awduron Hen Wlad fy Nhadau[3].

Cafodd Thomas ei urddo'n farchog ym 1902, a'i ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Pontypridd ym 1912.

Marwolaeth golygu

Bu farw Arglwydd Pontypridd ym 1927. A gan nad oedd ganddo blant bu farw ei farwniaeth gydag ef.

Cyfeiriadau golygu

  1. Owens, B. G., (1953). THOMAS, ALFRED, barwn Pontypridd (1840 - 1927), o Fronwydd, Caerdydd;. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 7 Awst 2019
  2. Hansard NATIONAL INSTITUTIONS (WALES) BILL [1] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Rhagfyr 2014
  3. NATIONAL MEMORIAL TO THE AUTHORS OF "HEN WLAD FY NHADAU" Carmarthen Weekly Reporter 8 Mai 1914 [2] adalwyd 20 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Dwyrain Morgannwg
18851910
Olynydd:
Allen Clement Edwards