Ali ibn Abi Talib

gwladweinydd, barnwr, bardd (r. 656–661)

Cefnder a mab yng nghyfraith Muhammad, proffwyd olaf Islam, oedd Alī ibn Abī Ṭālib (Arabeg: علي ابن أبي طالب‎; ynganiad: [ʕali]); 15 Medi 601 - 29 Ionawr 661). Ef oedd y pedwerydd califf; rheolodd ei bobl o 656 i 661, ond fe'i hystyrir fel olynydd uniongyrchol y Proffwyd Muhammad gan y Mwslimiaid Shia.[1]

Ali ibn Abi Talib
Ganwydc. 600 Edit this on Wikidata
Mecca Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 661 Edit this on Wikidata
Kufa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRashidun Caliphate Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd, qadi, Islamic jurist, muhaddith, mufassir, barnwr, bardd, Califf Edit this on Wikidata
SwyddRashidun, The Twelve Imams Edit this on Wikidata
TadAbu Talib Ibn ‘abd Al-Muttalib Edit this on Wikidata
MamFatimah bint Asad Edit this on Wikidata
PriodFatima, Umm ul-Banin, Umamah bint Zainab, Asma bint Umays, Khawla al-Hanafiyya, Q87345984, Q94573739, Q61358382 Edit this on Wikidata
PlantHassan Ibn Ali, Husayn ibn Ali, Abbas ibn Ali, Jafar ibn Ali, Muhammad ibn al-Hanafiyyah, Zaynab bint Ali, Umm Kulthum bint Ali ibn Abi Talib, Hilal ibn Ali, Uthman ibn Ali, Umar ibn Alí, Muhsin ibn Ali, Abdullah ibn Ali ibn Abi Talib, Abu Bakr ibn Ali, Ubaidillah bin Ali, Khadija bint Ali, Fatima bint Ali, Ruqayya bint Ali, Q93278653 Edit this on Wikidata
PerthnasauMuhammad Edit this on Wikidata
LlinachBanu Hashim Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef gyda'r enwau Abu Talib a Fatimah bint Asad. Ef yw'r unig berson i'w eni yng nhysegr sanctaidd y Kaaba (Arabeg: كَـعـبَـة‎), ym Mecca, y lle mwyaf sanctaidd yn Islam, yn ôl llawer o Islamaidd clasurol, yn enwedig rhai Shia. Ali oedd y gwryw cyntaf a dderbyniodd Islam, ac yn ôl rhai awduron y Mwslim cyntaf.[2][3][4][5][6][7]

Wedi iddo symud i Medina, priododd ferch Muhammad, sef Fatimah. Penodwyd ef yn galiff gan gyfeillion Muhammad (Sahaba) yn 656, gan olynu Uthman ibn Affan i hwnnw gael ei lofruddio.[8][9] Amddiffynodd Muhammad drwy ei oes, a chymrodd ran mewn sawl brwydr. Yn ystod teyrnasiad Ali yr ymladdwyd y Fitna Cyntaf (yr hyn a elwir yn ryfel cartref). Yn 661, ymosodwyd arno ac fe'i llofruddiwyd deuddydd yn ddiweddarach gan Kharijite tra roedd yn gweddio.[10][11][12][13]

Mae Ali'n allweddol bwysig i'r Shias a'r Sunnis, yn wleidyddol ac yn grefyddol.[14] Cred y ddau enwad fod Ali yn Fwslim i'r carn a'i fod yn bleidiol iawn i Islamiaeth; ceir hefyd mannau lle mae'r ddwy ochr yn anghytuno yn ei gylch.[15]

Cred y Sunnis mai Ali yw'r pedwerydd califf, a'r olaf, ond cred y Mwslimiaid Shia yw mai ef yw'r Imam cyntaf ar ôl Muhammad, oherwydd eu dehongliad o'i bregeth yn Ghadir Khumm. Mae Mwslimiaid Shia hefyd yn credu bod Ali a'r Shia Imams eraill (y mae pob un ohonynt yn aelodau o'r Bayṫ Muhammad) yn ddilynwyr cywir i Muhammad. Yr anghytundeb hwn oedd y maen tramgwydd a rannodd yr Ummah (Arabeg: أمة, Cymuned Mwslimaidd) i'r canghennau Shia a Sunni.

Cyfeiriadau golygu

  1. Al-Islam. "The Life of the Commander of the Faithful Ali Ibn Abu Talib (as)". Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2015.
  2. Biographies of the Prophet's companions and their successors, Ṭabarī, translated by Ella Landau-Tasseron, tt. 37–40, Vol:XXXIX.
  3. Sallabi, Dr Ali M (2011). Ali ibn Abi Talib (volume 1). tt. 52–53.
  4. Sahih Muslim, Llyfr 21, Hadith 57.
  5. Kelen 2001, t. 29.
  6. Watt 1953, t. xii.
  7. The First Muslims www.al-islam.org Retrieved 23 Tachwedd 2017
  8. Ashraf 2005, t. 119 and 120
  9. Madelung 1997, tt. 141–145
  10. Lapidus 2002, t. 47.
  11. Holt, Lambton & Lewis 1970, tt. 70–72.
  12. Tabatabaei 1979, tt. 50–75 and 192.
  13. Razwy, Sayed Ali Asgher. A Restatement of the History of Islam & Muslims. t. 72.
  14. Gleave, Robert M. "Ali ibn Abi Talib". Encyclopaedia of Islam, THREE. Brill Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 2, 2013. Cyrchwyd Mawrth 29, 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. "ĀL-E ʿABĀ". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Hydref 18, 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)