Alice Stone Blackwell

Ffeminist a swffragét sosialaidd Americanaidd oedd Alice Stone Blackwell (14 Medi 1857 - 15 Mawrth 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, bardd, cofiannydd, ac awdur yn ogystal ag am ei gwaith dros hawliau menywod a hawliau dynol.[1][1]

Alice Stone Blackwell
Ganwyd14 Medi 1857 Edit this on Wikidata
New Jersey, City of Orange, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 1950 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Boston
  • Chapel Hill – Chauncy Hall School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, bardd, cofiannydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr, swffragét Edit this on Wikidata
TadHenry Browne Blackwell Edit this on Wikidata
MamLucy Stone Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn New Jersey ar 14 Medi 1857; bu farw'n ddall yn Cambridge, Massachusetts yn 92 oed. [2][3][4][5][6]

Magwraeth a choleg golygu

Cafodd Blackwell ei geni yn East Orange, New Jersey i Henry Browne Blackwell a Lucy Stone; roedd y ddau ohonynt yn arweinwyr yn y mudiad dros etholfraint (yr hawl i fenywod bleidleisio) ac ymhlith y rhai a sefydlodd Cymdeithas Etholfraint Menywod America (American Woman Suffrage Association; AWSA). Roedd Alice Blackwell yn i nith Elizabeth Blackwell, meddyg benywaidd cyntaf America.[7]

Cyflwynodd ei mam Susan B Anthony i fudiad hawliau menywod America, a'i mam hefyd oedd y fenyw gyntaf i ennill gradd prifysgol yn Massachusetts, y cyntaf i gadw ei henw ar ôl priodi, a'r cyntaf i siarad am hawliau menywod yn llawn amser.[8]

Addysgwyd Alice Stone Blackwell yn Ysgol Ramadeg Harris yn Dorchester, Ysgol Chauncy yn Boston a'r Abbot Academy yn Andover. Ym Mhrifysgol Boston University, hi oedd llywydd ei dosbarth, a graddiodd yno yn 1881, yn 24 oed.[9]

Gwaith golygu

Ar ôl graddio o Brifysgol Boston, dechreuodd Alice weithio i Woman's Journal, papur a ddechreuwyd gan ei rhieni. Erbyn 1884, roedd ei henw hi ochr yn ochr â'i rhieni fel perchnogion y papur. Ar ôl marwolaeth ei mam yn 1893, cymerodd Alice y cyfrifoldeb llwyr am ei olygu.[10]

 
Arwyddodd Susan B. Anthony & Alice Stone Blackwell y siec hwn gan NAWSA; ysgrifennwyd gan y trysorydd Harriet Taylor Upton.

Ym 1890, helpodd i gymodi dwy gymdeithas, gan eu huno: Cymdeithas Merched Menywod America (the American Woman Suffrage Association) a'r Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Menywod (National Woman Suffrage Association), dau sefydliad a oedd yn cystadlu am aelodau. Bedyddiwyd y corff newydd yn "Gymdeithas Genedlaethol Menywod America" (National American Woman Suffrage Association; NAWSA). Asgwrn y gynnen rhwng y ddau fudiad, cyn hynny, oedd: y graddau y dylai etholfraint merched gael ei chlymu i etholfraint dynion Affro-Americanaidd.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Phi Beta Kappa am rai blynyddoedd.[11]

Cyhoeddiadau golygu

  • Growing Up in Boston's Gilded Age: The Journal of Alice Stone Blackwell, 1872–1874
  • Lucy Stone: Pioneer of Woman's Rights (cyhoeddwyd 1930, ailgyhoeddwyd 1971)
  • Some Spanish-American Poets cyfieithwyd gan Alice Stone Blackwell (cyhoeddwyd 1929 gan D. Appleton & Co.)
  • Armenian Poems translated by Alice Stone Blackwell (cyfrol 1., 1896; ail gyfrol., 1917). OCLC 4561287.
  • Songs of Russia (1906)
  • Songs of Grief and Joy (1908)

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Blackwell, Alice Stone, 1857–1950. Papers in the Woman's Rights Collection, 1885–1950". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-15. Cyrchwyd 2011-08-16. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Alice_Stone_Blackwell. https://www.bartleby.com/library/bios/index2.html.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 14 Mai 2014 Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103
  4. Dyddiad geni: "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Alice_Stone_Blackwell.
  5. Dyddiad marw: "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stone Blackwell". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Alice_Stone_Blackwell.
  7. "Blackwell, Alice Stone 1857–1950". The Cambridge guide to women's writing in English. Cambridge, United Kingdom: Cambridge University Press. 1999.
  8. "Alice Stone Blackwell – Biography". www.armenianhouse.org. Cyrchwyd 2015-11-18.
  9. "Dorchester Atheneum". www.dorchesteratheneum.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-07. Cyrchwyd 2016-11-06.
  10. "American National Biography Online". www.anb.org. Cyrchwyd 2015-11-06.
  11. "Education & Resources - National Women's History Museum - NWHM". www.nwhm.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-16. Cyrchwyd 2016-11-06.