Roedd Allectus (bu farw 296) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o 293 hyd ei farwolaeth.

Allectus
Ganwydc. 3 g Edit this on Wikidata
Bu farw296 Edit this on Wikidata
Britannia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain Edit this on Wikidata

Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.

Ymosododd Constantius arni ym mis Medi 296. Ymddengys i lynges Constantius ei hun gael ei hatal rhag glanio gan y tywydd am gyfnod, ond glaniodd rhan arall o'r llynges dan Asclepiodotus. Gorchfygwyd Allectus mewn brwydr, efallai ger Calleva Atrebatum (Silchester heddiw), a lladdwyd ef.

Ceir cyfeiriad at Allectus yn "hanes" Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae.