Alltwen

pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot

Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw'r Alltwen (hefyd: Allt-wen[1]). Saif ger Pontardawe ar lethrau dwyreiniol Cwm Tawe.

Alltwen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.715°N 3.846°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN7203 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map
Am y bryn yn Sir Conwy o'r un enw, gweler Yr Alltwen.

Magwyd y bardd Gwenallt yn y pentref, a chymerodd ei enw barddol o enw'r pentref. Roedd yr actores Rachel Thomas yn enedigol o Allt-wen.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Enwau Cymru
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  3. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato