Altneuland

nofel wleidyddol Seionistaidd gan Theodore Herzl

Mae Altneuland yn nofel iwtopaidd, dyfodoliaeth gan y newyddiadurwr a'r ymgyrchydd Seionistaidd Iddewig, Theodor Herzl (1860-1904), a gyhoeddwyd gyntaf yn yr Almaeneg 1902 yn Leipzig.[1] Cafodd cyfieithiad Iddew-Almaeneg a chyfieithiad Hebraeg gan Nahum Sokolow dan y teitl Tel Aviv תֵּל־אָבִיב eu cyhoeddi yn yr un flwyddyn, ill ddau yn Warsaw.[2] Cyhoeddwyd fel The Old New Land yn y Saesneg yn 1902

Altneuland
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurTheodor Herzl Edit this on Wikidata
GwladAwstria-Hwngari Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1902 Edit this on Wikidata
Tudalennau343 Edit this on Wikidata
Genrenofel Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithPalesteina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Herzl oedd un o brif ladmeryddion Seioniaeth wleidyddol. Cyhoeddwyd Altneuland chwe blynedd ar ôl ei lyfr ffeithiol a chysyniadol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig") ar sut oedd creu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina (neu man arall).

Y dyfyniad enwog o'r llyfr yw:

Wenn ihr wollt, ist es kein Märchen - "Gyda'ch ewyllys nid yw'n freuddwyd"

Stori golygu

 
Theodor Herzl

Mae'r nofel yn adrodd hanes Friedrich Löwenberg, deallusyn a chyfreithiwr ifanc Iddewig yn Fienna sydd wedi blino â bywyd ffals, llesg Ewrop ac yn penderfynu ymuno ag uchelwr Prwsiaidd Americanaidd o'r enw Kingscourt sy'n edrych am gwmni gydag ef (gyda'r holl dreuliau wedi eu talu) iddo ymddeol i ynys o bellennig y Môr Tawel (fe'i crybwyllir yn benodol fel rhan o'r Ynysoedd Cook, ger Rarotonga) ym 1902. Mae Löwenberg yn gwerthu ei eiddo ac yn rhoi hynny o arian sydd ganddo yn gardod i Iddew ifanc dlawd, David Littwak a gwrddodd mewn caffe.

Wrth deithio i'r Dwyrain mae Löwenberg a Kingscourt yn galw ym mhorthladd Jaffa ym Mhalesteina, oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid (ac fel gwnaeth Herzl ei hun yn 1898). Maent yn canfod Palesteina yn wlad diffrwyth, dlawd, fel y gwnaeth i Herzl yn ystod ei ymweliad.

Mae Löwenberg a Kingscourt yn treulio'r ugain mlynedd ganlynol ar yr ynys, yn fwriadol wedi eu dad-gysylltu oddi wrth wareiddiad. Wrth ddychwelyd i'r Gorllewin maent, unwaith eto'n galw ym Mhalesteina a hynny am fod camlas newydd wedi ei hagor drwyddi gan danseilio pwysigrwydd Camlas Suez. Mae hi bellach yn 1923 ac maent yn canfod ym Mhalesteina gwlad wedi'i drawsnewid yn sylweddol.

Mae gwladwriaeth Iddewig, a enwir yn swyddogol y "Gymdeithas Newydd", wedi codi ers i Iddewon Ewrop ail-ddarganfod ac ail-fywio yn eu 'Altneuland' ("hen wlad newydd"), gan adennill eu hunan barch eu hunain yn eu tir ei hunain, Israel. Yn y wlad, y mae ei Löwenberg yn bwrw ar hen gydnabod o Fienna, megis Littwak y cardotyn. Maent, fel gweddill y trigolion bellach yn ffyniannus ac yn boblogaidd, yn ymfalchïo mewn diwydiant cydweithredol ffyniannus yn seiliedig ar dechnoleg ddiweddaraf, ac mae'n gartref i gymdeithas fodern, rydd a chosmopolitan. Mae gan yr Arabiaid hawliau cyfartal llawn gydag Iddewon, gyda pheiriannydd Arabaidd ymysg arweinwyr y Gymdeithas Newydd, ac mae'r rhan fwyaf o fasnachwyr yn y wlad yn Armeniaid, Groegiaid ac aelodau o grwpiau ethnig eraill. Mae'r deuawd yn cyrraedd adeg ymgyrch etholiad cyffredinol, lle mae rabbi ffasiynol yn sefydlu llwyfan gwleidyddol yn dadlau bod y wlad yn perthyn i Iddewon yn unig ac yn gofyn i ddinasyddion nad ydynt yn Iddewon gael eu hamddifadu o'u hawliau pleidleisio, ond yn cael eu trechu yn y pen draw.

Themâu golygu

 
Tudalen o Altneuland

Fel pob nofel iwtopaidd, cerbyd yw'r stori ar gyfer cyflwyno agenda wleidyddol a chymdeithasol. Mae'r cymeriadau, at ei gilydd, yn gymeriadau stoc heb fod llawer o ots am eu datblygiad fel bodau llawn. Prif bwrpas y llyfr, fel Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis yw cyflwyno agenda a maniffesto ar ffurf haws a mwy phoblogaidd i'w darllen ar gyfer aelodau'r cyhoedd na fyddai fel rheol yn darllen pamffledi gwleidyddol. Mae'r ffaith mai ffuglen yw'r nofel hefyd yn rhoi rhyddid i'r awdur, yn wahanol i'w waith flaenorol, Der Judenstaat i beidio gorfod cyfiawnhau pob polisi neu ddyhead. Nofel iwtopaidd yw hi wedi'r cyfan.

Cig y nofel yw disgrfio'r Gymdeithas Newydd gan ddangos yr hyn gall yr Iddewon ei gyflawni wrth sefydlu gwladwriaeth yn Israel ac fel ffenest siop i'r darllenydd Iddewig a chenedl-ddyn y byddai sefydlu gwladwriaeth o'r fath o les i bawb a heb fod yn fygythiad i drefn y byd na buddiannau llywodraethau na phobl yn fyd-eang nac yn lleol.

Y "Gymdeithas Newydd" golygu

Rho Herzl ran helaeth o'r nofel i geisio disgrifio cystal peth fyddai sefydlu Gwladwrieth Iddewig ym Mhalesteina. Efallai, gyda llygad ar ddryswch a chymhlethdod y fenter, mae'n galw'r fenter yn 'Gymdeithas Newydd' yn hytrach na'r 'Judenstaat'.

Mae rhan helaeth o'r nofel yn disgrifio'r seilwaith a'r strwythur cymdeithasol. Mae'r Neue Gesellschaft für die Kolonisierung von Palästina ("Cymdeithas Newydd ar gyfer Gwladychu Palesteina") yn rheoleiddio mewnfudo a goruchwilio busnes a rheoli cynllunio trefol, addysg, diogelwch mewnol a gofal iechyd. Fodd bynnag, nid yw'n wladwriaeth sofran ond yn hytrach yn debycach i gorfforaeth fawr sy'n gweithredu mewn modd cydweithredol ac sydd wedi dod i gytundeb gyda'r Ymerodraeth Otomanaidd ac sy'n talu treth flynyddol i'r llywodraeth yn Istanbul i gael yr hawl i weithredu. Dewisodd Herzl y drefn hon ar ôl i ddysgu am amheuon a phryder y llywodraethwyr Otomaniaidd oherwydd gwrthwynebiad y boblogaeth Arabaidd i wladwriaeth Iddewig ym Mhalestina yn ystod ei ymweliad.

Economi golygu

Mae'r economaidd yn seiliedig yn sylfaenol ar eiddo preifat a'r farchnad rydd, sy'n bennaf wedi eu nodweddu gan gwmnïau mawr a chwmnïau cydweithredol. Fodd bynnag, mae'r tir yn eiddo'n unig i'r "Gymdeithas Newydd" a gall gan y perchnogion ond ddal y tir am hanner can mlynedd (sy'n debyg gysyniad y Jiwbilî yn yr Hen Destament). Gwneir hyn er mwyn osgoi crynhoi tir ac arian mewn llond llaw o ystadau mawrion gan achosi tlodi.

Mae'r nofel yn amlinellu trefn y gwladychu a datblygu'r economi. Y cyntaf i fudo yw'r gweithwyr di-grefft sydd yn clirio a pharatoi'r tir diffaith o dan arweiniad peirianwyr. Nhw felly sydd wedi sefydlu isadeiledd sylfaenol y wlad. Mae Herzl yn mynd i'r drafferth i nodi yn y llyfr fod coed ewcalyptws wedi sychu'r corsydd malaria. Yr haen nesaf i gyrraedd yw canghennau o gwmnïau siopau cadwyn ac adrannol. Mae'r rhain yn fwy effeithiol ym marn Herzl ac yn cael gwared ar yr angen am fan siopwyr, sydd, efallai'n arwydd o stigma yr Iddew ac aneffeithlonrwydd ym marn Herzl. Yn dilyn wedyn mae haen uchaf y gymdeithas. Dydy Herzl ddim yn bell ohoni y ei drefn heblaw, yn hytrach na gweithwyr di-grefft a gliriodd y tir a'r corsydd, deallusion ifanc (os di-grefft) ac nid gweithwyr di-grefft (llafurwyr) oedd trwch aelodau'r Aliyah cyntaf ac ail.[3]

Yn y nofel, mae'r rhan fwyaf o fentrau busnes wedi'u trefnu'n gydweithredol. Felly, ceir papurau newydd perthnasol a "phapurau newydd Ffôn" (rhagflaenydd y radio, gweler théâtrophone) lle mae'r elw yn cael ei dalu yn flynyddol i'w danysgrifwyr. Mae Herzl yn tybio y bydd hyn yn hyrwyddo newyddiaduraeth ddifrifol. Yn ogystal, mae yna bapurau newydd mewn perchnogaeth breifat, ond maent wedi ymrwymo i fuddiannau gwleidyddol arbennig eu perchnogion.

Mae Herzl yn sôn nodi fod gwin a ffrwythau sitrws yn gynhyrchion amaethyddol. Mae twristiaeth hefyd yn chwarae rhan fawr. Mae Herzl yn rhagweld gwlad y dyfodol fel gyrchfan gwyliau poblogaidd, sba a lle gaeafu ar gyfer cymdeithas soffistigedig Canolbarth Ewrop gyda chyfleusterau priodol (sba, gwestai moethus ag ati).

Seilwaith golygu

Mae'r wlad wedi'i chysylltu â rheilffyrdd trydanol a ffyrdd palmantog ac yn gysylltiedig â'r gwledydd cyfagos. Darperir "monorail" i'r dinasoedd mwy. Hyd yn oed dan y strydoedd, mae Herzl eisoes yn gweld pibellau gwag er mwyn gallu gosod llinellau cyflenwad newydd heb fawr o ymdrech yn unol â chynnydd technegol.

Mae piblinellau gorlif yn cyflenwi trydan i'r trefi, yn bennaf o ynni dŵr, gan gynnwys y Camlas y Môr Marw, sy'n defnyddio'r graddiant o Fôr y Canoldir i'r Môr Marw ac yn gweithredu tyrbinau enfawr. Mae cynnydd yn lefel y dŵr yn y Môr Marw yn cael ei ddileu, oherwydd defnyddir yr holl ddŵr yn Afon yr Iorddonen ar gyfer dyfrhau.

Ni ddatblygwyd iwtopia technegol gan Herzl (ac nid dyna bwrpas y nofel chwaith). Mae pob llwyddiannau technegol sy'n disgrifio Herzl yn y nofel, yn fodern yn 1902 ac oedd mewn mannau gwahanol yn cael eu defnyddio neu'n cael eu datblygu.

Cymdeithas golygu

Mae'r "Gymdeithas Newydd", y mae Herzl yn ei ddisgrifio yn y nofel, yn gymdeithas sydd â dylanwad Ewropeaidd; nid yw'n eithrio pobl nad ydynt yn Iddewon, ond yn gweld ei hun yn cosmopolitan. Felly, mae Twrc cyfoethog o'r enw Reschid Bey yn aelod o'r gymdeithas hon a ffrind gorau a chymydog â Littwak yr Iddew tlawd o Fienna gynt. Mae mewnfudiad yn agored i bawb, waeth beth yw eu tarddiad, tras neu grefydd. Mewn gwirionedd, mae'r boblogaeth ar hyn o bryd yn cynnwys bron yn gyfan gwbl o Iddewon. Mae poblogaeth Arabaidd Palesteina wedi bod yn y nofel, yn elwa'n gyfartal o'r gwladychiad oherwydd iddynt elwa o'r datblygiad technegol a chymdeithasegol a ddaw gydag hi. Maent hefyd yn rhydd i ymuno â'r Gymdeithas.

Mae Herzl yn rhoi pwyslais yn y disgrifiad ar iechyd ac addysg. Felly mae'n cyflwyno cyfleusterau sba a dewis helaeth o barciau. Gofal iechyd yw un o brif dasgau'r "Gymdeithas Newydd", ac mae addysg o raddfa ysgol i brifysgolion yn rhad ac am ddim ond yn amrywio ar gyfer bechgyn a merched. Yn y nofel mae Herzl hefyd yn cyflwyno system gosb ddiwygiedig.

Datblygiad iwtopaidd arall gan Herzl yw fod pobl yn swyddfeydd uchaf y Gymdeithas Newydd ddim yn cael eu llenwi gan bobl sy'n rhoi eu hunain ger bron etholiad ond yn hytrach cael eu dewis ar sail eu perfformiad a phersonoliaeth. Mae unrhyw un sy'n rhedeg ymgyrch etholiadol neu weithredol hyrwyddo yn ddatgymhwyso ei hun gan y ffaith yma. Ar ddiwedd y nofel felly, gwelir fod David Littwak wedi ei ddewis i Gynulliad y cynrychiolwyr yn y 'Gymdeithas Newydd' yn ei absenoldeb a heb wybod iddo.

O ran iaith y Gymdeithas Newydd, mae Herzl yn cydnabod y bydd yr Iddewon yn siarad Almaeneg, Hebraeg neu Iddeweg a'r gymdeithas yn aml-ieithog ond, nid yw'n glir beth yw'r brif iaith. Mae'r Gymdeithas yn cadw at arferion a 'safonnau' bwrgais dosbarth canol Ewropeaidd gan fynychu'r opera a'r theatr yn gwisgo menig gwynion i'r opera, fel nodir ganddo.

Nid yw crefydd yn chwarae rôl arbennig o flaenllaw yn Hen Wlad Newydd. Er bod Herzl yn gadael y Deml yn Jerwsalem yn cael ei hailadeiladu nid oes fawr o drafod ar y pwnc. Ar wahân i'r deml, ceir synagogau, eglwysi a mosgiau, ac yn y porthladdoedd mawrion hefyd temlau Bwdhaidd a Hindŵaidd. Bydd y Twrc, Reschid Bey yn cymryd rhan yn seremoni Seder yn Littwaks. Ceir cyfeiriad bychan i rôl rabbi gwrth-Seionistaidd a gwrth-Cymdeithas Newydd, sy'n gydnabyddiaeth o'r gwrthwynebiad oedd o du nifer o'r gymuned Iddewig Uniongred i sefydlu gwladfa yn Israel.

Tel Aviv golygu

Cyfieithwyd Altneuland o fewn y flwyddyn i'r Saesneg a'r Hebraeg. Gwnaethpwyd y cyfieithiad Hebraeg gan Nahum Sokolow a rhoddodd i'r nofel y deitl farddol, Tel Aviv (תֵּל־אָבִיב); sef Tel (twmpath aneddiad hynafol) yn sefyll am "hen" ac Aviv (Gwanwyn) am "newydd".[4] Roedd y cyfieithydd yn adnabod yr enw o'r llyfr Beiblaidd Eseciel, lle mae'n cyfeirio at le yn Babylon lle'r oedd yr Iddewon wedi cael ei hailsefydlu (Esec 3:15). Enwyd dinas Tel Aviv, a sefydlwyd ym 1909, ar ôl y llyfr.

Dylanwad ar Gymru golygu

Mae'n nofel dyfodoliaeth yma wedi bod yn sail ac ysbrydoliaeth i nofel wleidyddol genedlaetholgar, Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.[angen ffynhonnell] Ceisiodd Elis bortreadu Cymru y dyfodol iwtopaidd a hefyd Cymru distopiaidd. Fel Herzl, bwriad y nofel oedd hyrwyddo agenda wleidyddol, sef creu gwladwriaeth annibynnol Gymraeg ei hiaith.

Chwaraeir ar ystyr y teitl, 'Hen Wlad Newydd' yn llyfr Judith Maro, Iddewes a symudodd i Gymru yn 1947 wedi iddi fod yn rhan o frwydr annibyniaeth y wlad. Yn y llyfr mae'n cynnig awgrymiadau ar adeiladu y mudiad cenedlaethol yng Nghymru ar sail llwyddiant yr Iddewon yn Israel.[5]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Altneuland" - Cyhoeddiad gyntaf yn Iddeweg - Warsaw, 1902. Kedem Auctions,2018 Archifwyd 2018-06-26 yn y Peiriant Wayback.
  2. "Tel Aviv" - First Hebrew Translation of Theodor Herzl's "Altneuland". Kedem Auctions,2016 Archifwyd 2018-06-26 yn y Peiriant Wayback.
  3. https://www.jewishvirtuallibrary.org/immigration-to-israel
  4. http://www.haaretz.com/jewish/books/zionism-according-to-theodor-herzl-1.24821
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-25. Cyrchwyd 2018-11-07.