Alun Hoddinott

cyfansoddwr a aned yn 1929

Un o brif gyfansoddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g oedd Alun Hoddinott (11 Awst 192912 Mawrth 2008) ac un o’r ychydig i ennill bri rhyngwladol.

Alun Hoddinott
Ganwyd11 Awst 1929 Edit this on Wikidata
Caerffili Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 2008 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPiano Concerto, Concerto ar Gyfer y Delyn, Concerto Rhif 2 ar Gyfer y Piano, Concerto ar Gyfer y Clarinet Edit this on Wikidata
Arddullopera, symffoni, cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Wedi’i eni ym Margoed, dysgodd chwarae’r ffidil a’r fiola yn blentyn ac aeth i Ysgol Ramadeg Tregŵyr gan elwa o’r traddodiad cerddorol cryf yno dan Cynwyd Watkins. Yn 1946 bu’n aelod o gwrs cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd gan raddio yn 1949. Bu’n astudio cyfansoddi yn breifat yn Llundain hefyd, gydag Arthur Benjamin.

Yn 1951 fe’i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yno y bu hyd 1959 pan ymaelododd ag adran gerdd Prifysgol Caerdydd gan gael ei ddyrchafu’n Athro a phennaeth yr adran yn 1967. Yr un flwyddyn sefydlodd Ŵyl Cerddoriaeth yr Ugeinfed Ganrif yng Nghaerdydd gyda’i gyfaill, y pianydd athrylithgar John Ogdon (1937–89), ac am ugain mlynedd a mwy Hoddinott oedd yn llywio bywyd cerddorol y brifddinas i bob pwrpas; roedd ei ddylanwad yn allweddol hefyd yn y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Gŵyl Llandaf a Chyngor y Celfyddydau. Wedi ymddeol o bob cyfrifoldeb swyddogol erbyn 1989 gallodd ganolbwyntio ar gyfansoddi gan ddychwelyd i’w gynefin yn 1997 ac ymgartrefu yn y Crwys ar benrhyn Gŵyr. Cwblhaodd ei waith olaf, Taliesin, yn 2007.

Yn ei gerddoriaeth gynharaf dengys Hoddinott ddylanwad naturiol prif gyfansoddwyr Seisnig ei gyfnod, megis Vaughan Williams, Walton a Berkeley, ond ymwybyddiaeth hefyd o neo-glasuriaeth gyfandirol Hindemith, Bartók a Stravinsky. Roedd ganddo dechneg ystwyth o’r dechrau a chlywir tinc personol hyd yn oed yn y gwaith cyntaf o’i eiddo sy’n cael ei berfformio’n rheolaidd, y Concerto Clarinet Op. 3 (1950), a ddaeth i sylw cenedlaethol yng Ngŵyl Cheltenham yn 1953, gyda Gervase de Peyer yn unawdydd a John Barbirolli yn arwain Cerddorfa Hallé, ac a oedd wedi’i ddarlledu eisoes gan y BBC o Gaerdydd yn 1951 gyda Jack Brymer yn unawdydd. Datblygodd enw Hoddinott yn gyflym a thrwy ennill cytuneb fel cyfansoddwr ‘preswyl’ i Wasg Prifysgol Rhydychen daeth yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth. Erbyn y Concerto Telyn Op. 11, a berfformiodd Osian Ellis yng Ngŵyl Cheltenham 1958, roedd ei arddull wedi datblygu’n rhyfeddol o gyflym trwy hepgor yr elfennau traddodiadol eu natur a chan ddatblygu ieithwedd gliriach a thynnach sy’n fwy personol a modernaidd ei mynegiant.

Er i’w Symffoni Gyntaf Op. 7 gael ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955 gan Gerddorfa Philharmonig Frenhinol Lerpwl, o’r tu hwnt i Gymru y daeth y comisiynau a’r ysgogiad ar gyfer y mwyafrif o lwyddiannau cerddorfaol pwysig Hoddinott rhwng 1959 ac 1973. Cyfansoddodd bedair symffoni bellach ar gyfer cerddorfeydd y BBC a’r Hallé a’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol (RPO), ynghyd â nifer o ddarnau cerddorfaol sylweddol – Variants, Fioriture; maent yn dangos disgleirdeb a chywreinrwydd wrth ymdrin â’r gerddorfa a oedd yn unigryw yn hanes cerddoriaeth Cymru ar y pryd ond a oedd hefyd yn eithriadol ymysg cyfansoddwyr Prydeinig y cyfnod. Ochr yn ochr â’r datblygiad ieithyddol a strwythurol gymhleth a amlygir yn y gweithiau hyn, dangosodd Hoddinott hefyd fod ganddo’r ddawn i gyfansoddi darnau ysgafnach megis y Dawnsiau Cymreig (1959 ac 1966) a Dawnsiau’r Arwisgo (1969), sy’n llwyddo i greu ysbryd Cymreig trwy efelychu patrymau a rhythmau cerddoriaeth werin Cymru heb eu dyfynnu’n uniongyrchol. Roedd wedi meistroli pob genre cerddorol posibl erbyn dechrau’r 1970au, ac eithrio opera – ac roedd hynny hefyd i ddod.

Ac yntau wedi dilyn datblygiad WNO yng Nghaerdydd ers sefydlu’r cwmni yn 1946, roedd hi’n naturiol i Hoddinott droi ei olygon at y ffurf fel cyfansoddwr ac yn 1974 perfformiwyd ei opera gyntaf, The Beach of Falesá, i libreto gan Gwyn Jones yn seiliedig ar stori fer gan Robert Louis Stevenson. Roedd rhan ganolog yn yr opera i’r bariton Geraint Evans a dyma’r opera gyflawn gyntaf i’w chomisiynu yn benodol gan WNO. Yn y degawd dilynol ymserchodd Hoddinott fwyfwy yn y ffurf a chyfansoddodd bedair opera arall cyn 1981 – dwy opera un-act ar gyfer teledu, The Magician (1976) a The Rajah’s Diamond (1979), ac un i gynnwys plant yng Ngŵyl Abergwaun 1977, What the Old Man Does is Always Right, ill tair yn cynnwys rhannau eto i Geraint Evans. Opera dair-act yw The Trumpet Major Op. 103 (1981) i libreto gan Myfanwy Piper (awdur libreto’r ddwy opera flaenorol hefyd), yn seiliedig ar nofel Thomas Hardy o’r un enw; fe’i cyfansoddwyd ar gyfer adnoddau Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion ond fe’i perfformiwyd hefyd yng Nghaerdydd. Nid tan 1999 y cyfansoddodd ei opera olaf, Tower Op. 170, i libreto gan John Owen, yn adrodd hanes prynu glofa’r Tŵr gan Tyrone O’Sullivan a’i weithwyr, a hynny mewn arddull opera-ddogfen i gwmni Opera Box o Abertawe.

Prin fod unrhyw gyfansoddwr clasurol Cymraeg arall wedi cynhyrchu catalog mor faith â Hoddinott gan lwyddo i gynnal safon gyson aruchel drwyddi draw. Un o’i hoff gyfryngau oedd cerddoriaeth siambr a cheir 13 sonata i’r piano, er enghraifft, yn rhedeg fel gwythïen loyw ar hyd ei yrfa o 1959 hyd 2003. Er nad oedd yn bianydd ei hun, roedd ganddo amgyffrediad arbennig o natur cynhenid offeryn ac mae ei sonatas niferus i’r ffliwt, y clarinet, y piano a’r soddgrwth ymysg offerynnau eraill yn amlygu hyn; felly hefyd y concerti sy’n cwmpasu bron pob offeryn cerddorfaol. Câi ei ysbrydoli’n aml gan lenyddiaeth neu gelfyddyd weledol, ac roedd ganddo allu arbennig i gyfleu lliw ac awyrgylch mewn cerddoriaeth. Mae The Heaventree of Stars Op. 102 (1980), i ffidil a cherddorfa, yn un o’r esiamplau gorau o’i ddawn delynegol lesmeiriol, gyda’r teitl yn deillio o waith James Joyce, fel sy’n wir hefyd am The Sun, the great luminary of the universe Op. 76 (1970), i gerddorfa. Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd y gwahoddiad i gyfansoddi gwaith ar gyfer y chwaraewr soddgrwth o Rwsia, Mstislav Rostropovich, a pherfformiwyd Noctis Equi Op. 132 gyda Cherddorfa Symffoni Llundain yn y Barbican i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 60 yn 1989.

Nid oedd Hoddinott yn or-hoff o unrhyw awgrym mai cyfansoddwr ‘Cymreig’ yn benodol ydoedd; cyfeiriai ato’i hun yn syml fel ‘cyfansoddwr sy’n byw yng Nghymru’. Ei ddelfryd gerddorol ar hyd ei oes oedd dwyn y Cymry i ymwybyddiaeth ehangach o’r gorau yn rhyngwladol gan godi safon cerddoriaeth Gymreig hefyd er mwyn teilyngu sylw cyfartal. Datblygodd berthynas agos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi iddi dyfu i’w llawn faint a chyfansoddodd ei symffonïau 6,7,9 a 10 ar ei chyfer, ynghyd â gweithiau meistrolgar megis Star Children, Lizard a Taliesin. Cyn iddo farw cafodd wybod am y penderfyniad i alw cartref newydd y Gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Neuadd Hoddinott a dyma gofeb berffaith bellach i gawr o gyfansoddwr Cymreig.    

Gweithiau cerddorol golygu

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.