Canwr Cymreig yw Alun Evans sy'n perfformio o dan yr enw Alun Tan Lan.

Alun Tan Lan
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata

Rhyddhaodd y gitarydd, sydd yn dod o Bandy Tudur yn wreiddiol, ei ddau albwm cyntaf ar label RASAL, sef Aderyn Papur (2004) a Distawrwydd (2005). Enillodd Distawrydd gryn glod gan y beirniaid yn cynnwys yr Observer a wnaeth ei gynnwys ar restr y 10 albwm gorau i ddod allan o Gymru yn 2005.[1].

Mae Alun wedi bod yn aelod o'r grŵp syrff-roc Y Niwl.

Gwobrau golygu

Yn 2006 enillodd Wobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am yr Artist Gwrywaidd gorau. Yn 2007 cyhoeddodd albwm arall, Yr Aflonydd ar label o'r enw Aderyn Papur.

Yn 2010 Alun oedd cyfansoddwr y gân fuddugol wnaeth gipio Gwobr Cân i Gymru.

Disgyddiaeth golygu

  • Aderyn Papur, Rasal, 2004
  • Y Distawrwydd, Rasal, 2005
  • Yr Aflonydd, Aderyn Papur, 2007
  • Cymylau, albwm ddwbl ryddhawyd ar soundcloud.com, 2012

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu