Gwleidydd Americanaidd oedd Alva Adams (14 Mai, 18501 Tachwedd, 1922). Fe'i ganed yn Adamsville, Wisconsin.[1] Roedd John Adams, ei dad, yn aelod o Gynulliad Talaith Wisconsin a Senedd Talaith Wisconsin. Gwasanaethodd am bedair blynedd a deufis fel pumed, degfed a 14eg Llywodraethwr Colorado rhwng 1887 a 1889, 1897 i 1899, ac am gyfnod fer ym 1905. Parhaodd ei gyfnod olaf fel Llywodraethwr ychydig dros ddau fis. Cyhoeddodd ef a'r Llywodraethwr blaenorol James Peabody eu gilydd yn Llywodraethwr anghyfreithlon, er bod y ddau wedi cyflawni arferion etholiadol anghyfreithlon. Yn y pen draw, diswyddodd y ddeddfwrfa Weriniaethol Adams, gan roi y swydd i Peabody. Ymddiswyddodd Peabody ar unwaith o blaid ei Is-lywodraethwr Jesse Fuller McDonald, a daeth y mater i ben.

Alva Adams
Ganwyd14 Mai 1850 Edit this on Wikidata
Iowa County Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1922 Edit this on Wikidata
Battle Creek, Michigan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddLlywodraethwr Colorado, Llywodraethwr Colorado, Llywodraethwr Colorado, Colorado General Assembly Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJohn Adams Edit this on Wikidata
PlantAlva B. Adams Edit this on Wikidata

Bu farw Adams yn Battle Creek, Michigan yn 72 mlwydd oed.[1]

Mae Adams County, Colorado, wedi’i henwi er anrhydedd i Alva Adams, a chredir bod dinas Alva, Oklahoma wedi ei henwi ar ei ôl hefyd. Gwasanaethodd brawd iau Alva Adams, William Herbert "Billy" Adams hefyd fel Llywodraethwr Colorado rhwng 1927 a 1933. Gwasanaethodd mab Alva Adams, Alva Blanchard Adams, fel Seneddwr yr Unol Daleithiau o Colorado rhwng 1923 a 1925 ac o 1933 i 1941

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Alva Adams, Former Dane County Man, Dies in West [sic]". Wisconsin State Journal. November 7, 1922. t. 7. Cyrchwyd 12 Mai 2018 – drwy Newspapers.com.

Dolen allanol golygu