Ambiwlans Awyr Cymru

Elusen gofrestredig yw Ambiwlans Awyr Cymru (Saesneg: Wales Air Ambulance) sy'n gweithredu drwy Gymru gyfan ac sy'n "cynnig gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rheini sy'n dioddef salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd."[1] Dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yng ngwledydd Prydain.

Ambiwlans Awyr Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, air medical services organization Edit this on Wikidata
Gweithwyr83, 103, 95, 89, 91 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.walesairambulance.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Ambiwlans Awyr Cymru; 2016.
Un o hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru ar faes glanio Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Cafodd ei sefydlu yn 2001. Erbyn y flwyddyn honno Cymru oedd yr unig wlad yn Ewrop gyfan heb wasanaeth ambiwlans awyr.[2] Erbyn 2016 roedd gan yr eluseun 4 hofrenydd Eurocopter EC135 a 4 criw 'helimed' - peilot a dau barafeddyg wedi eu secondio o'r NHS - wedi'u lleoli yng Nghaernarfon, Y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd i wasanaethu Cymru.[1] ac roedd wedi hedfan cyfanswm o 24,000 o deithiau achub - 1,600 y flwyddyn. Ar gyfartaledd, cafwyd 120 o ddamweiniau fferm bob blwyddyn.

Ariannir y gwasanaeth ambiwlans awyr hwn drwy roddion gan y cyhoedd yn unig; nid yw'n derbyn grantiau'r Loteri Genedlaethol nac unrhyw arian gan y llywodraeth. Cost pob hedfaniad ar gyfartaledd yn 1916 oedd £1,500 a chost y gwasanaeth (Cymru gyfan) oedd £6m. [1] Mae'n ymateb i tua 1,000 o alwadau y flwyddyn ar gost o tua £1,200 yr alwad ar gyfartaledd.[2]

Cyfeiriadau golygu

  • Diweddarwyd yr erthygl yn 2016. Ffynhonnell: erthygl yn y Daily Post', 10 Awst 2016.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.