Amdo wedi'i wneud o lin gyda 'llun' corff dyn (a hwnnw, o bosibl, newydd ei groeshoelio) arno yw Amdo Turin, sy'n cael ei gyfri gan Gatholigion fel crair sanctaidd. Fe'i cedwir yng Nghapel Brenhinol Ioan Fedyddiwr yn Torino, Yr Eidal a chredir gan rai mai hwn oedd yr amdo a roddwyd i lapio corff Iesu Grist yn union wedi iddo gael ei groeshoelio.

Amdo Turin
Enghraifft o'r canlynolshroud, crair sy'n gysylltiedig â'r Iesu, crair Cristnogol Edit this on Wikidata
LleoliadTurin Cathedral, Château de Chambéry, Saint-Hippolyte, Lirey Edit this on Wikidata
Perchennogpab, House of Savoy, Jeanne de Vergy, Geoffroi de Charny Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhan o'r amdo

Un o'r pethau anghyffredin amdano yw fod llun negatif, du-a-gwyn ohono yn llawer cliriach nag ydyw'r olwg naturiol, positif, lliw sepia. Sylwyd ar hyn yn gyntaf ar 28 Mai 1898 gan y ffotograffydd Secondo Pia a bu bron iddo dorri'r plat ffotograffig gan iddo neidio allan o'i groen.[1] Ers hynny (ac yn enwedig yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf) cafwyd dadlau ynglŷn ag oed yr amdo. Datgelodd ymchwiliadau dyddio carbon yn 1988 gan dri grŵp o wyddonwyr annibynnol i'w gilydd mai oddeutu 1300 y tyfodd y llin y gwnaed yr amdo ohono.[2] Yn ddiweddar, fodd bynnag, ceisiwyd profi i'r samplau hynny gael eu cymryd o ochr yr amdo - o ddarn oedd wedi cael ei drwsio yn yr Oesoedd Canol.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Time Magazine, Ebrill 20, 1998". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-14. Cyrchwyd 2009-04-15.
  2. 'Dating the Turin Shroud-An Assessment'
  3. BBC: Ffilm ddogfen am yr amdo

Dolenni allanol golygu