Term a ddefnyddir i ddisgrifio'r dylanwad sydd gan Unol Daleithiau America ar ddiwylliannau gwledydd eraill yw Americaneiddio. Mae busnesau a brandiau Americanaidd i'w cael ar draws y byd o ganlyniad i draddodiad cyfalafol yr Unol Daleithiau sydd yn hybu masnach rydd, globaleiddio, a'r cwmni amlwladol. Mae cyfryngau Americanaidd, gan gynnwys cerddoriaeth boblogaidd, rhaglenni teledu, a ffilmiau Hollywood, wedi ymledu nid yn unig i weddill y Saesneg ond ar draws yr holl fyd. Modd o imperialaeth ddiwylliannol neu neowladychiaeth yw Americaneiddio yn ôl rhai, ac mae rhai yn ei weld yn danwydd i wrth-Americaniaeth.

Americaneiddio
MathCymhathiad diwylliannol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bwyty cosher y cwmni Americanaidd McDonald's yn Ashkelon, Israel.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.