Fforiwr, morlywiwr, a marsiandïwr Eidalaidd oedd Amerigo Vespucci (9 Mawrth 145422 Chwefror 1512)[1] sydd yn nodedig am roi ei enw i America. Mae'n sicr iddo fynd ar ddwy fordaith i'r Byd Newydd yn ystod Oes Aur Fforio, yn gyntaf i arfordir gogledd-ddwyrain De America (1499–1500) ac yn ail ar hyd arfordir dwyreiniol De America (1501–02).

Amerigo Vespucci
Ganwyd9 Mawrth 1454 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1512 Edit this on Wikidata
o malaria Edit this on Wikidata
Sevilla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, masnachwr, mapiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodMaria Cerezo Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar (1454–79) golygu

Ganed Amerigo Vespucci yn Fflorens, Gweriniaeth Fflorens, ar 9 Mawrth 1454.[2] Notari o'r enw Nastagio Vespucci oedd ei dad. Derbyniodd Amerigo addysg ddyneiddiol oddi ar ei ewythr, Giorgio Antonio.

Gyrfa gyda'r Medici (1479–96) golygu

Ym 1479 aeth Amerigo gyda'i gefnder, Guido Antonio Vespucci, ar genhadaeth ddiplomyddol i ymbil ar Louis XI, brenin Ffrainc, am gymorth i'r teulu Medici yn eu rhyfel yn erbyn Teyrnas Napoli. Dychwelasant i Fflorens ym 1481, heb fawr o lwyddiant. Yn sgil marwolaeth Nastagio ym 1482, gweithiodd Amerigo i fanc Lorenzo a Giovanni di Pierfrancesco de’ Medici. Bu un o gynrychiolwyr y brodyr Medici, Giannotto Berardi, yn siandler ac yn darparu gêr a chyflenwadau i longau, gan gynnwys llongau Cristoforo Colombo. Mae'n debyg yr oedd Vespucci yn y porthladd pryd ddychwelodd Colombo o'i fordaith gyntaf i'r Byd Newydd.[3] Yn ddiweddarach, cydweithiodd Vespucci wrth baratoi llongau ar gyfer mordeithiau eraill Colombo i'r Byd Newydd. Yn sgil marwolaeth Berardi yn Rhagfyr 1495, penodwyd Vespucci yn rheolwr ar asiantaeth y Medici yn Sevilla.

Mordeithiau (1497–1504) golygu

Mae dau gorff o ddogfennau yn goroesi sydd yn disgrifio mordeithiau Vespucci dros Gefnfor yr Iwerydd. Ysgrifennodd Vespucci lythyr yn Eidaleg o Lisbon ar 4 Medi 1504, o bosib at gonfalonier (llumanwr neu ynad) Piero Soderini. Argraffwyd y llythyr hwn yn Fflorens ym 1505, a cheir hefyd dau gyfieithiad Lladin ohono, dan y teitlau Quattuor Americi navigationes a Mundus Novus neu Espitola Alberici de Novo Mundo. Mae'r rhain yn disgrifio pedair mordaith gan Vespucci. Mae'r gyfres arall o dystiolaeth yn cynnwys tri llythyr preifat at y Medici. Sonir yma am ddwy fordaith yn unig. Ceir dadl felly ynglŷn ag amseroedd Vespucci ar y môr, ac mae ysgolheigion wedi ymdrechu i gysoni manylion y ddau gorff o dystiolaeth. Yn ôl Alberto Magnaghi, dim ond llythyrau Vespucci at y Medici sydd yn ddibynadwy, ac mae'n debyg bod yr argraffiadau Quattuor Americi navigationes a Mundus Novus yn ffugysgrifeniadau.

Y fordaith honedig gyntaf (1497–98) golygu

Yn ôl y disgrifiad o fordaith honedig gyntaf Vespucci, aeth i fforio Gwlff Mecsico a'r arfordir o Fflorida hyd at Fae Chesapeake.

Y fordaith gyntaf (1499–1500) golygu

Ym Mai 1499 cychwynnodd mordaith o bedair llong o Sbaen, dan reolaeth Alonso de Ojeda a than forlywiaeth Vespucci. Gadawodd Vespucci longau eraill Ojeda ger arfordir Gaiana. Trodd i'r de, a chredir iddo ddarganfod aber Afon Amazonas ac i gyrraedd Cabo de Santo Agostinho. Ar ei ffordd yn ôl i'r gogledd, cyrhaeddodd ynys Trinidad ac ysbïodd aber Afon Orinoco cyn iddo hwylio i Hispaniola. Dychwelodd i Sbaen ym Mehefin 1500. Fel Cristoforo Colombo, cred Vespucci taw cyrion dwyreiniol pellaf cyfandir Asia oedd y Byd Newydd, a fe fu'n chwilio am Benrhyn Cattigara fel y'i disgrifir gan Ptolemi yn y Geographia.

Dychwelodd Vespucci ym Mehefin 1500, ac aeth ati i ymofyn cefnogaeth am fordaith arall i gyrraedd Cefnfor India. Fodd bynnag, ni chafodd ei gynlluniau eu derbyn gan y Sbaenwyr, ac yn niwedd 1500 aeth i Bortiwgal.

Yr ail fordaith (1501–02) golygu

Dan nawdd Portiwgal, aeth Vespucci ar ail fordaith o Lisbon ar 13 Mai 1501. Ymwelodd ag ynysoedd Cabo Verde cyn teithio i'r de-orllewin a thuag at Cabo de Santo Agostinho. Hawliodd Vespucci iddo barhau tua'r de, ac mae'n bosib iddo ysbïo Bae Guanabara yn Ionawr 1502 a chyrraedd Río de la Plata ac arfordir Patagonia. Nid oes manylion o lwybr ei daith yn ôl i Bortiwgal. Dychwelodd i Lisbon ar 22 Gorffennaf 1502.

Yr ail fordaith honedig (1503–04) golygu

Yn ôl y disgrifiad o ail fordaith honedig Vespucci, aeth eto dan nawdd Portiwgal a chyda'r fforiwr Gonçalo Coelho.

Diwedd ei oes (1504–12) golygu

Ym 1505 cafodd Vespucci ei alw i lys Sbaen i roi cyngor ar ragor o fordeithiau i'r Byd Newydd, a gweithiodd i Casa de Contratación de las Indias, un o asiantaethau'r goron, yn Sevilla. Fe'i penodwyd yn brif forlywiwr Casa de Contratación ym 1508, ac wrth ei swydd bu'n goruchwylio trwyddedau llyw-wyr a chapteiniaid llongau. Ar gyfer arolwg brenhinol, paratôdd Vespucci fap swyddogol o diroedd newydd eu darganfod a'r môr-lwybrau i'w cyrraedd. Derbyniodd Vespucci ddinasyddiaeth Sbaenaidd am ei wasanaeth i'r goron, a bu yn ei swydd yn Casa de Contratación hyd at ei farwolaeth yn Sevilla ym 1512. Yn sgil ei farwolaeth, derbyniodd ei weddw Maria Cerezo bensiwn.

Enwi'r Amerig golygu

Daeth "y Byd Newydd" yn enw poblogaidd o ganlyniad i Mundus Novus, a briodolir i Vespucci. Ym 1507, ailgyhoeddwyd Quattuor Americi navigationes gan y cartograffwr Martin Waldseemüller yn Saint-Dié, gyda rhagarweiniad dan y teitl Cosmographiae introductio. Awgrymai Waldseemüller roddi enw Amerigo ar y cyfandir newydd, ac ymddengys yr enw America am y tro cyntaf ar blanisffer Waldseemüller i ddisgrifio tir De America. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr enw i gyfeirio at Ogledd America hefyd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Joseph Whitaker (1944). An Almanack for the Year of Our Lord ... (yn Saesneg). J. Whitaker. t. 106.
  2. (Saesneg) Richard Cavendish, "The Birth of Amerigo Vespucci", History Today (Mawrth 2004). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2020.
  3. (Saesneg) Amerigo Vespucci. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2020.