Amhureddu yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at ddefnydd cyffuriau neu ddulliau meddygol eraill er mwyn gwella perfformiad unigolyn mewn chwaraeon. Mae amhureddu wedi cael ei wahardd gan y cyrff sy'n rheoli'r chwaraeon.

Heblaw am gymryd cyffuriau, mae yna ddull meddygol o amhureddu gwaed sy'n golygu derbyn trallwysiad gwaed neu ddefnyddio'r hormon erythropoietin (EPO). Ystyrir y defnydd o gyffuriau i fod yn anfoesol gan y rhan fwyaf o gyrff llywodraethu chwaraeon yn fyd eang, yn arbennig gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, er fod rhai yn dadlau nad yw'n wahanol i ddefnyddio gwisgoedd neu offer â technoleg newydd sy'n rhoi cymorth i'r perfformiad a rhoi mantais i'r cystadleuwyr sy'n eu defnyddio. Caiff amhureddu ei wahardd oherwydd yr effeithiau negyddol a welir oherwydd y cyffuriau ac amhureddu ar iechyd ac ar y gymdeithas, ac er mwyn cael cydraddoldeb a thegwch yn y maes chwaraeon.

Mae amhureddu hefyd yn digwydd mewn chwaraeon sy'n cynnwys anifeiliaid, ac nid bodau dynol yn unig, megis rasio ceffylau neu milgwn.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.