Amledd neu amlder ydy pa mor aml yr ailadroddir digwyddiad o fewn hyn-a-hyn o amser.

Amledd
Mathmeintiau sgalar, maint corfforol, hyd dwyochrog Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Diffinnir y gair "cyfnod" fel un troad o gylch o fewn y digwyddiad, ac a ddisgrifir o fewn mathemateg fel "cilydd" yr amledd. Er enghraifft, y "cyfnod" mae'r Ddaear yn ei gymryd i gylchdroi o amgylch yr Haul ydy blwyddyn ac mae'r Ddaear hithau'n cylchdroi o amgylch ei hechel gydag amlder o un diwrnod.[1]

Tonnau sin o wahanol amledd; mae gan y don isel yn y diagram amledd uwch na'r rhai uchod. Mae'r acsis llorweddol yn cynrychioli amser.

Yr uned SI a ddefnyddir wrth gofnodi amlder ydy hertz (Hz), sef un cyfnod yr eiliad.

Cyfeiriadau golygu