Mae An Uhelgoad (Ffrangeg: Huelgoat) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Berrien, Brennilis, La Feuillée, Locmaria-Berrien, Plouie, Poullaouen ac mae ganddi boblogaeth o tua 1,398 (1 Ionawr 2021).

An Uhelgoad
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,398 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBenoît Michel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd14.87 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBerrien, Brenniliz, Ar Fouilhez, Lokmaria-Berrien, Plouie, Poullaouen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.3644°N 3.7447°W Edit this on Wikidata
Cod post29690 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Huelgoat Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBenoît Michel Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Ystyr yr enw ydy "uchel goed".

Poblogaeth golygu

 

Llefydd o ddiddordeb golygu

Mae nifer o hynodion daearegol a cyn hanesyddol i'w gweld drwy ddilyn llwybrau yn, ac o amgylch, y pentref a'r goedwig. Ymhlith y rhain mae:

  • Le Chaos de Rochers, Y Tryblith o Greigiau, yn gymysgedd o gannoedd o glogfeini mawr o dan lyn argae, i'r hwn y mae'r afon yn diflannu..
  • La Roche Tremblante Y Graig sy'n Crynu, clogfaen 137-tunnell gerllaw, wedi ei golynnu mewn modd ei hysgwyd wrth wthio yn ei herbyn.
  • Le Champignon, Y Madarch, craig fawr yn cydbwyso ar un llai.
  • La Mare aux Fees, Pwll y tylwyth teg .
  • La Mare aux Sangliers, Pwll y baedd gwyllt.
  • Le Camp d'Artus, Gwersyll Arthur, bryngaer pentir môr yn seiliedig ar oppidum Galeg, gyda rhagfur llinol murus gallicus. Fe'i defnyddiwyd fel lloches gan y Galiaid Osisme yn erbyn y goresgyniad Rhufeinig ym 57 CC, ac yn ddiweddarach cafoddl llysenw yn cyfeirio at chwedl Arthuraidd. Cloddiwyd y safle gan Syr Mortimer Wheeler.
  • La Grotte d'Artus, neu Ogof Arthur, cysgod naturiol a ffurfiwyd o dan do o greigiau caeth.
  • Mae Ardd Goed Poërop yn ardd goed lleol gyda chasgliad, a gydnabyddir yn genedlaethol, o goed masarn, ymhlith casgliadau sylweddol arall.

Gweler hefyd golygu

Cymunedau Penn-ar-Bed

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: