Adwaith alergaidd difrifol yw anaffylacsis neu sioc anaffylactig a ddigwyddir pan mae system imiwnedd y corff yn gorymateb i sylwedd estron y mae'n ei gamgymryd fel bygythiad, a elwir yn alergen. Caiff y corff cyfan ei effeithio, fel rheol o fewn munudau o ddod i gyswllt â'r alergen ond mae'n bosib i'r adwaith ddigwydd ychydig oriau'n ddiweddarach. Mae sioc anaffylactig yn achosi i bwysedd gwaed y corff ostwng yn sydyn iawn ac i'r llwybrau anadlu yn yr ysgyfaint i gulháu.[1]

Anaffylacsis
Dosbarthiad ac adnoddau allanol

Brech ar gefn claf ag anaffylacsis.
ICD-10 T78.2
DiseasesDB 29153
eMedicine med/128
MeSH [1]

Achosion golygu

Mae sioc anaffylactig yn digwydd pan mae'r system imiwnedd yn gorymateb i alergen. Wrth i'r alergen fynd i lif y gwaed, mae hyn yn sbarduno rhyddhau meintiau enfawr o gemegau megis histamin. Mae'r gwaedlestri yn lledu, gan achosi gostyngiad difrifol a sydyn yn y pwysedd gwaed a chulhâd yn llwybrau anadlu yr ysgyfaint.[2] Ymysg yr ystod eang o alergenau a all sbarduno sioc anaffylactig mae cnau daear, cnau, hadau sesame, pysgod, pysgod cregyn, cynnyrch llaeth, wyau, a mefus. Gall anaffylacsis hefyd gael ei achosi gan adwaith alergaidd i bigiadau gan gacwn neu wenyn, latecs naturiol, a chyffuriau penodol megis penisilin.[1]

Symptomau golygu

Gall symptomau anaffylacsis, sy'n digwydd pan ddaw'r claf i gyswllt ag alergen, amrywio o fod yn adwaith ysgafn ar y croen i farwolaeth. Mae symptomau yn cynnwys wyneb, gwefusau, tafod, a gwddf wedi chwyddo; cosi neu flas metelig yn y geg; llygaid poenus, coch ac yn cosi; pwysedd gwaed yn gostwng a'r llwybrau anadlu'n culhau; gwichian ar y frest ac anhawster anadlu a siarad; newidiadau yng nghyfradd curiad y galon; teimlad sydyn o bryder neu ofn eithafol; croen sy'n cosi neu frech y danadl; llewygu, cwympo, neu fynd yn anymwybodol oherwydd pwysedd gwaed isel iawn; crampiau yn yr abdomen, chwydu neu ddolur rhydd; rhan fwy o'r corff yn chwyddo na'r rhan a ddaeth i gyswllt â'r alergen; a chyfog a thwymyn. Gall sioc anaffylactig arwain at farwolaeth oherwydd rhwystr rhag anadlu neu bwysedd gwaed hynod o isel o ganlyniad i symptomau eithafol.[3]

Diagnosis golygu

Mae diagnosis o alergedd sy'n peri risg o achosi adweithiau anaffylactig yn seiliedig ar hanes meddygol y claf ac ar y symptomau a gaiff. Cadarnheir diagnosis drwy brofion gwaed neu groen a all helpu i reoli'r cyflwr yn y dyfodol.[4]

Triniaeth golygu

Gan fod sioc anaffylactig yn gyflwr meddygol difrifol a all arwain at farwolaeth fe gaiff ei thrin fel argyfwng meddygol a chynghorir i alw am ambiwlans a derbyn sylw meddygol proffesiynol cyn gynted ag y tybir bod adwaith difrifol. Trinnir anaffylacsis â phigiad o epinephrine sydd yn codi pwysedd gwaed, lliniaru unrhyw anawsterau anadlu, a lleihau chwyddo yng ngorff y claf; rhoddir ail bigiad os nad oes gwelliant ymhen 5-10 munud, ac yn y blaen nes bod y cyflwr yn gwella. Os yw'r claf yn rhoi'r gorau i anadlu rhaid defnyddio'r dechneg adfywio cardiopwlmonari (CPR). Hyd yn oed os rhoddir epinephrine mae'n debyg y bydd angen i glaf aros yn ysbyty am hyd at 24 awr oherwydd weithiau gall y symptomau ail-ymddangos rai oriau wedi sioc anaffylactig. Os yw'r symptomau'n dychwelyd gall bigiad gwrth-histamin neu gorticosteroid gael ei roi gyda hylif drwy ddiferiad mewnwythiennol.[5]

Cynghorir i unigolion sy'n dioddef o alergedd difrifol a all achosi sioc anaffylactig i osgoi unrhyw sylwedd maent yn sensitif iddo, yn enwedig os yw'r alergen hwnna wedi achosi achos o anaffylacsis o'r blaen. Gall epinephrine gael ei ragnodi i'r claf i roi pigiadau i'w hunan gyda chwistrell sydd wedi'i pharatoi o flaen llaw rhag ofn y bydd yn dod i gyswllt â'r alergen. Mae rhai hefyd yn cario cerdyn neu freichled argyfwng sy'n rhoi gwybod i bobl eraill am gyflwr yr unigolyn. Rhoddir cyngor i gleifion gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar leihau'r risg o anaffylacsis.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Anaffylacsis: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  2.  Anaffylacsis: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3.  Anaffylacsis: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4.  Anaffylacsis: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  5. 5.0 5.1  Anaffylacsis: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.