Alcemydd, meddyg ac ysgolfeistr Almaenig oedd Andreas Libavius (c. 155525 Gorffennaf 1616) oedd yn un o'r prif wrthwynebwyr i syniadau Paracelsus. Mae'n nodedig hefyd am gyhoeddi'r gwerslyfr cyntaf ar bwnc cemeg, Alchemia (1597).

Andreas Libavius
Ganwyd1555 Edit this on Wikidata
Halle (Saale) Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1616 Edit this on Wikidata
Coburg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, academydd, meddyg Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganwyd Andreas Libau yn Halle an der Saale, Archesgobaeth Magdeburg, yn fab i wëydd tlawd. Astudiodd ym Mhrifysgol Wittenberg cyn iddo dderbyn doethuriaeth athronyddol o Brifysgol Jena yn 1581. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Brifysgol Basel, a dychwelodd i Jena i addysgu hanes a barddoniaeth yn y cyfnod 1586 91. Gweithiodd fel meddyg y dref ac ysgolfeistr yn Gymnasium Rothenburg, ac yn 1605 sefydlodd y Gymnasium Casimirianum yn Coburg.[1]

Datblygwyd athroniaeth unigryw ganddo, drwy gyfuno elfennau o Ramiaeth, Aristoteliaeth a dyneiddiaeth y Dadeni â'r traddodiad Lwtheraidd, yn bennaf dysgeidiaeth Philip Melanchthon. Bu'n lladd yn aml ar syniadau'r Paracelsiaid, gan gynnwys Oswald Croll, ac yn dilorni'r cyfuniad o Hermetigiaeth a Chalfiniaeth a ddatblygwyd gan y Rhosgroesogion cynnar. Er iddo gredu y gellir trawsnewid metelau cyffredin yn aur, ymwrthododd Libavius â thraddodiad yr alcemyddion drwy arddel cyhoeddi arferion a syniadau cemegol yn hytrach na chyfriniaeth a chêl-wybodaeth. Dadleuodd o blaid meddygaeth gemegol fel maes ategol i'r hen materica medica. Yn ei waith Alchemia mae'r ymdrech gyntaf yn Ewrop i ymdrin â gwyddor cemegion mewn modd systematig a dadansoddol, a'r disgrifiad cyntaf o labordy cemegol.[2]

Ymhlith ei ddarganfyddiadau mae dulliau o baratoi amoniwm sylffad, antimoni sylffid, asid hydroclorig, a thun tetraclorid.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Andreas Libavius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Ebrill 2019.
  2. William E. Burns, The Scientific Revolution: An Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2001), tt. 169–70.

Darllen pellach golygu

  • Bruce T. Moran, Andreas Libavius and the Transformation of Alchemy: Separating Chemical Cultures with Polemical Fire (Sagamore Beach, Massachusetts: Science History Publications, 2007).