Andreja Pejić

model Awstralaidd

Model deuryw Awstralaidd a aned ym Mosnia-Hertsegofina yw Andreja Pejić (ganwyd 28 Awst 1991).[1] Yn sioeau ffasiwn Paris yn Ionawr 2011 modelodd ddillad dynion a menywod ar gyfer Jean-Paul Gaultier a dillad dynion ar gyfer Marc Jacobs.

Andreja Pejić
GanwydAndrej Pejic Edit this on Wikidata
28 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Tuzla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwch Prifysgol Melbourne Edit this on Wikidata
Galwedigaethmodel, actor Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata

Ym mis Mai 2011 ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn Americanaidd Dossier Journal yn noeth ei brest, gan beri'r siopau llyfrau Barnes & Noble a Borders i guddio'r clawr. Enillodd safle 98 ar restr FHM o'r 100 o Fenywod Mwyaf Rhywiol y Byd, ond cafodd yr adroddiad am y digwyddiad hwn ei ddileu o wefan y cylchgrawn yn dilyn cyhuddiadau bod yr hyn a ysgrifennwyd amdani yn wrth-drawsrywedd.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Delany, Max (2010-12-14). "Melbourne's gender-bender model Andrej Pejic is red hot". Herald Sun. Cyrchwyd 2011-12-31.
  2. "Andrej Pejic Is Not A Person | Lela London – Style Guide and Fashion Blog". 2011-12-15. Cyrchwyd 2011-12-31.