Bardd a dychanwr o Sais oedd Andrew Marvell (31 Mawrth 162118 Awst 1678) sy'n nodedig fel un o'r Metaffisegwyr a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn yr 17g.

Andrew Marvell
Engrafiad o Andrew Marvell o lyfr o 1681.
Ganwyd31 Mawrth 1621 Edit this on Wikidata
Winestead Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1678 Edit this on Wikidata
o malaria Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, y Deyrnas Unedig, Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, gwleidydd, ysgrifennwr, dychanwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the Third Protectorate Parliament, Member of the April 1660 Parliament, Member of the 1661-79 Parliament Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHoratian Ode upon Cromwell’s Return from Ireland Edit this on Wikidata
TadAndrew Marvell Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Nwyrain Swydd Efrog, yn fab i glerigwr, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hull ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Treuliodd ryw bedair blynedd yn teithio'r cyfandir. Yn 1651–2 bu'n diwtor i Mary, merch yr Arglwydd Fairfax, pencadlywydd y Seneddwyr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, ac yn cyflawni'r swydd honno yn Nun Appleton, Swydd Efrog. Yno, cyfansoddodd ei gerddi "Upon Appleton House" a "The Garden" a'i gylch Mower.

Yn ystod cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr, cyfansoddodd Marvell sawl cerdd yn clodfori'r Arglwydd Amddiffynnyd Oliver Cromwell, gan gynnwys "An Horatian Ode upon Cromwell's Return from Ireland" (1650). O 1653 i 1657, gweithiodd yn diwtor i William Dutton, yr hwn a oedd dan ofal Cromwell, ac yn 1657 penodwyd Marvell yn gynorthwy-ydd i John Milton wrth ei swydd yn ysgrifennydd Lladin yn y swyddfa dramor. Gwasanaethodd hefyd yn Aelod Seneddol dros Hull, tref ei fagwraeth, o 1659 hyd nes ei farwolaeth.

Yn sgil yr Adferiad yn 1660, trodd Marvell at ddychangerddi gwleidyddol, megis "The Last Instructions to a Painter" am yr Arglwydd Clarendon, a rhyddiaith ddychanol, er enghraifft "The Rehearsal Transpros’d" (1672–73). Ysgrifennodd gerdd gymeradwyol ar gyfer ail argraffiad Paradise Lost gan Milton. Cyhoeddodd hefyd ysgrifeniadau gwleidyddol a oedd yn dadlau dros oddefiad crefyddol ac yn lladd ar gamddefnydd grymoedd y frenhiniaeth.

Bywyd cynnar ac addysg (1621–47) golygu

Teulu a magwraeth (1621–33) golygu

Roedd y teulu Marvell yn hanu o ffermwyr o bentrefi Meldreth a Shepreth yn ne Swydd Gaergrawnt. Andrew Marvell yr hynaf (bedyddiwyd 12 Ebrill 1580 – 23 Ionawr 1641) oedd y sgolor cyntaf o'r teulu pan aeth i Goleg Emmanuel, Caergrawnt yn 1601. Astudiodd yno am saith mlynedd i ennill ei radd meistr, a symudodd i weinidogaethu yn Nwyrain Swydd Efrog am weddill ei oes.[1]

 
Cerflun o Marvell yn King Street, Hull, tref ei fagwraeth.

Ganwyd Andrew Marvell ar 31 Mawrth 1621 yn rheithordy Winestead yn ardal Holderness, Swydd Efrog, yn fab i'r Parchedig Andrew Marvell, a'i wraig Anne (Pease gynt), ac yn frawd i dair chwaer hŷn, Anne, Mary, ac Elizabeth. Cawsant fab arall, John, a fu farw yn flwydd oed. Yn 1624 symudodd y teulu i Kingston upon Hull, pan penodwyd Andrew'r hynaf yn ddarlithydd yn Eglwys y Drindod Lân ac yn Feistr Tŷ'r Siartr. Capel anwes ym mhlwyf Hessle oedd Eglwys y Drindod Lân, ac elusendy a chartref newydd y teulu oedd Tŷ'r Siartr.[1] Er nad oedd y Parchedig Marvell yn weinidog ar blwyf ei hun, enillodd enw fel pregethwr a chafodd ei gynnwys gan Thomas Fuller fel un o'r gwroniaid o fri yn The Worthies of England (1662). Cedwir cyfrol o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Ganolog Hull, pregethau ac ysgrifeniadau sy'n nodweddiadol o uniongrededd ei Anglicaniaeth a'i ffyddlondeb at y Llyfr Gweddi Gyffredin a Choron Loegr.[2]

Addysg (1633–41) golygu

Mynychodd Andrew Ysgol Ramadeg Hull, ysgol a chanddi gysylltiadau clos â Phrifysgol Caergrawnt. Cafodd ei dderbyn yn seisar i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan arwyddo'r gofrestr fatricwleiddiol ar 14 Rhagfyr 1633, yn 12 mlwydd ac wyth mis oed. Mae'n debyg taw efe oedd y bachgen 12 oed cyntaf i fatricwleiddio o Goleg y Drindod ers Francis Bacon yn 1573.[3] Yn 1637, cyfranodd at y gyfrol Musarum Cantabrigiensium Concentus et Congratulatio a gyhoeddwyd gan feirdd Caergrawnt i ddathlu geni'r Dywysoges Anne, merch y Brenin Siarl I ac Henrietta Maria. Penillion Marvell oedd addasiad o awdl Horas i Octavian i ddathlu buddugoliaeth Brwydr Actium ac epigram gwreiddiol ganddo yn Roeg.[4] Derbyniodd ysgoloriaeth ar 13 Ebrill 1638, ac yn ddiweddarach y mis hwnnw bu farw ei fam Anne yn Hull. Ailbriododd y Parchedig Andrew Marvell â Lucy Alured ar 27 Tachwedd 1638. Enillodd Andrew'r ieuaf ei radd baglor yn y celfyddydau ym Mawrth 1639.[5]

Mae'n bosib iddo ddod dan ddylanwad cenhadwyr Catholig yn niwedd ei flynyddoedd yn y brifysgol. Yn ôl un stori, aeth i Lundain tua 1639 gyda chriw o Gatholigion, a bu'n rhaid i'w dad mynd i'w hebrwng yn ôl i Gaergrawnt.[6] Yn ôl hanes Fuller, bu farw Andrew Marvell yr hynaf ar 23 Ionawr 1641, wedi ei foddi tra'n croesi moryd Humber o Barton i Hull. Ni chafwyd hyd i'w gorff. Ar y pryd, roedd ei fab yn astudio am ei radd meistr yng Nghaergrawnt, ac ymddengys na dychwelodd at ei astudiaethau wedi marwolaeth ei dad. Mae'n bosib iddo weithio'n glerc yn Hull yn 1641.[7]

Teithiau (1642–47) golygu

Erbyn Chwefror 1642, roedd Marvell yn trigo yn Llundain, ac ar ei ben-blwydd yn 21 oed etifeddodd rywfaint o arian a llyfrau o'i dad yn ogystal ag ystâd ei dad-cu ym Meldreth, yr hwn a werthwyd ganddo yn 1647.[7] Treuliodd Marvell ryw bedair blynedd, o 1643 i 1647, yn teithio ar gyfandir Ewrop. Crwydrodd yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Eidal, a Sbaen, yn dysgu pedair prif iaith y gwledydd hynny ac yn cleddyfa.[6] Yn draddodiadol, dywed iddo hebrwng rhyw fab i ŵr bonheddig ar draws y cyfandir a gweithio'n diwtor iddo i ennill ei damaid. Mae ysgolheigion modern wedi bwrw amheuaeth ar y honiad yma, gan gredu bod digon o arian ganddo o'i etifeddiaeth a'i gyfeillion i allu teithio'n annibynnol.[8] Credir iddo gwrdd â'r offeiriad a llenor Richard Flecknoe, yr hwn oedd yn destun y ddychangerdd Horasaidd "Fleckno, an English Priest at Rome", yn Rhufain adeg y Grawys 1646, a hefyd magu cyfeillgarwch â'r Arglwydd Francis Villiers, brawd Dug Buckingham, yn yr un ddinas. Dwyflwydd yn ddiweddarach, pan laddwyd Villiers mewn brwydr, cyfansoddodd Marvell "An Elegy upon the Death of my Lord Francis Villiers" er cof amdano.[9] Erbyn iddo ddychwelyd i Loegr yn 1647, roedd yn medru saith iaith: ei famiaith Saesneg, yr ieithoedd clasurol Lladin a Groeg, a chrap ar Iseldireg, Ffrangeg, Eidaleg, a Sbaeneg; ac roedd y galluoedd hynny, ei addysg, a'i brofiadau yn ddigon iddo gychwyn ar yrfa wleidyddol.

Rhyfel a'r Rhyngdeyrnasiad (1647–60) golygu

Marvell a'r rhyfeloedd cartref (1647–50) golygu

Pan ddychwelodd i Loegr yn 1647, yn ystod y seibiant rhwng Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr ac Ail Ryfel Cartref Lloegr, ymunodd Marvell â chylchoedd llenyddol a llysol Llundain, a bu'n gyfeillgar â nifer o'r beirdd Cafaliraidd.[6] Treuliodd y cyfnod 1648–50 yn byw yn y brifddinas ar yr arian a enillodd o werthu ystâd ei dad-cu ym Meldreth yn niwedd 1647, am £40–80.[10] Ar ddechrau cyfnod y Werinlywodraeth, yn sgil dienyddio'r Brenin Siarl ar 30 Ionawr 1649, mae'n debyg i Marvell wrthwynebu llywodraeth Oliver Cromwell. Yn ogystal â'i gyfaill yr Arglwydd Francis Villiers, a fu farw mewn gwrthryfel gan y Brenhinwyr yn Kingston upon Thames yn 1648, roedd Marvell yn adnabod sawl Cafalîr a fuont farw yn brwydro'n erbyn y Seneddwyr, yn eu plith yr Arglwyddi John a Bernard Stuart, a astudiasant yng Ngholeg y Drindod yr un pryd â Marvell. Bu'n rhaid iddo gyhoeddi ei alargan i Villiers yn breifat, siwr o fod gan deulu ei chwaer yn Richmond, gan na fyddai'r Trwyddedwyr Seneddol wedi caniatáu llinellau megis:

Much rather thou I know expectst to tell

How heavy Cromwell gnasht the earth and fell.

Or how slow Death farre from the sight of day

The long-deceived Fairfax bore away.[11]

Yn 1649 cyhoeddodd ei gerddi moliant "To his Noble Friend, Mr. Richard Lovelace, upon his Poems", sy'n dathlu barddoniaeth y Cafalîr a gafodd ei garcharu dwywaith gan ei elynion. Yn yr un flwyddyn cyfansoddodd "Upon the Death of Lord Hastings", galargan anwleidyddol er cof am Henry, yr Arglwydd Hastings, bonheddwr ifanc fu farw o'r frech wen y noson cyn iddo fwriadu priodi Elizabeth, merch i Syr Theodore Mayerne, meddyg y llys brenhinol.[12] Yn y cyfnod hwn hefyd mae'n debyg iddo ysgrifennu'r sawl o'i gerddi sy'n nodweddiadol o'r traddodiad Cafaliraidd: "The Fair Singer", "Young Love", "Daphnis and Chloe", "The Match", "The Definition of Love", "The Nymph complaining for the death of her Faun", "The unfortunate Lover", "The Gallery", a'r fersiwn cyntaf o "To his Coy Mistress".[13]

Yn ddiweddarach, newidiodd Marvell ei farn ynghylch "yr Hen Achos" a sbardunodd y rhyfeloedd cartref, ac ymochrodd â Cromwell a'r Seneddwyr. Cyfansoddodd "An Horatian Ode upon Cromwell's Return from Ireland" yng Ngorffennaf 1650, i ddathlu concwest Iwerddon a chymharu'r Werinlywodraeth newydd â gogoniant Gweriniaeth Rhufain.[10] Yn Nhachwedd neu Ragfyr 1650, ysgrifennodd Marvell "Tom May's Death", dychangerdd sy'n gwneud hwyl ar ben y bardd a dramodydd Thomas May, un o'r cyntaf i fradu achos y Brenhinwyr ac ymuno â'r Seneddwyr yn nechrau'r 1640au. Er yr oedd Marvell ei hunan bellach wedi ymochri â'r drefn newydd, roedd efe a nifer o feirdd eraill wedi hen ddiflasu ar May am iddo droi ei gefn ar y Brenin Siarl wedi iddo golli mas ar ffafriaeth y llys i William Davenant yn sgil marwolaeth Ben Jonson yn 1637.[14]

Nun Appleton (1651–52) golygu

Gadawodd Marvell Lundain yn Ionawr 1651, a symudodd i Nun Appleton, Swydd Efrog, i weithio'n diwtor ieithoedd i Mary, merch 12 oed Syr Thomas, yr Arglwydd Fairfax, pencadlywydd y Seneddwyr yn ystod y rhyfeloedd cartref, yr hwn a gyfeirid ato yn "An Elegy upon the Death of my Lord Francis Villiers". Am ddwy flynedd, hyd at yr wythnos cyn Nadolig 1652, addysgodd Ffrangeg ac Eidaleg i Mary Fairfax tra'n byw ar ystâd ei thad.[13] Yno, cyfansoddodd sawl gerdd yn ei amser rhydd, gan gynnwys cerddi cymeradwyol yn Saesneg a Lladin ar gyfer y gyfrol Popular Errors (1651) gan y Dr Robert Witty, yr hwn oedd yn isathro Ysgol Ramadeg Hull yn ystod blwyddyn olaf Marvell yno yn 1632.[15] Ysgrifennodd o leiaf tair cerdd i'r Arglwydd Fairfax: "Upon the Hill and Grove at Bill-borow", y gerdd plasty "Upon Appleton House", a'r gwaith Lladin "Epigramma in Duos montes Amosclivum et Bilboreum".[13] Yng ngwanwyn 1651, cychwynnodd ar waith Lladin arall, "Hortus", cerdd natur ramantaidd a addaswyd ganddo ar ffurf "The Garden", un o gerddi Saesneg enwocaf yr 17g. Credir iddo hefyd ysgrifennu'r cylch Mower (neu o leiaf y tair cerdd olaf yn y pedwarawd hwnnw), yr eclog "Ametas and Thestylis making Hay-Ropes", a "Musicks Empire" yn ystod ei gyfnod yn Nun Appleton.[16]

Tiwtoriaeth William Dutton (1653–57) golygu

Wedi iddo adael ei swydd dan yr Arglwydd Fairfax, daeth Marvell i adnabod John Milton, y bardd a gweriniaethwr a wasanaethai yn Ysgrifennydd Materion Tramor yng Nghynor y Wladwriaeth (neu Gyfrin Gyngor yr Amddiffynnydd) ers sefydlu'r Werinlywodraeth yn 1649. Mae'n debyg iddo gwrdd drwy gysylltiad Cyriack Skinner, yr hwn a gyfeirir ato dwy o sonedau Milton ("Cyriack, whose Grandsire on the Royal Bench" a "Cyriack, this three years day these eys, though clear") a hefyd yn fab i Bridget Skinner (Coke gynt) o Thornton Curtis, cyfaill agos i Andrew Marvell yr hynaf a gredir iddi oroesi'r daith dros y Humber pan fu farw'r Parchedig Marvell.[5][17] Bwriad Marvell wrth wneud cymwynas â Milton oedd ymofyn gwaith drwy ei ddylanwad gwleidyddol, ac yn Chwefror 1653 arddywedodd Milton, a fu'n ddall ers y flwyddyn gynt, lythyr i'w ddanfon at John Bradshaw, Arglwydd Lywydd y Cyngor, yn cymeradwyo Marvell ar gyfer swydd gyhoeddus. Yn Ebrill, penderfynodd Cromwell ddiddymu Senedd y Gweddill a Chyngor y Wladwriaeth a llywodraethu'n unben am dri mis nes sefydlu Senedd y Saint.[18] Nid oedd cyfle felly i Marvell gymryd swydd lywodraethol, ond cafodd ei benodi'n diwtor gan Cromwell ei hunan i addysgu William Dutton, disgybl yng Ngholeg Eton a oedd dan ofal ei ewythr yr Aelod Seneddol John Dutton. Roedd Cromwell am i William briodi ei ferch Frances, ac yn dymuno felly iddo dderbyn addysg dda. Dan dâl Cromwell, trigasant Marvell a William Dutton yn nhŷ John Oxenbridge, yr hwn a oedd yn un o gymrodyr yr ysgol ac yn gomisiynydd dros Ynysoedd Bermwda, yn Windsor.[19] Ymdrechodd Marvell i wneud argraff dda ar Cromwell wrth roi gwersi ieithoedd i'w ddarpar fab-yng-nghyfraith, ac mae ei lythyr huawdl a chain at "Ei Ardderchogrwydd, yr Arglwydd Gadfridog Cromwell" yng Ngorffennaf 1653 yn dystiolaeth o'i barch tuag ato.[17]

Rhywbryd yn y chwe mis rhwng ei swyddi yn Nun Appleton ac Eton, yn ystod y rhyfel cyntaf ar y môr rhwng Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd (1652–54), cyfansoddodd Marvell y ddychangerdd "The Character of Holland" i watwar cymeriad cenedlaethol y gelyn, gan dynnu ar ei brofiadau yn yr Iseldiroedd rhyw ddeng mlynedd ynghynt. Ni chyhoeddwyd y gwaith hwnnw'n gyflawn nes ei gynnwys yn Ffolio 1681, er i ddarnau ohono ymddangos ar ddechrau'r ail ryfel yn erbyn yr Iseldirwyr yn 1665 a'r trydydd rhyfel yn 1672.[20] Yn Awst 1654, symudodd Marvell a Dutton, gyda'r teulu Oxenbridge, i fyw mewn tŷ yn nhref Eton ei hun, ar brydles o'r ysgol.[20] Yn Chwefror 1654, danfonodd Marvell lythyr at ei gyfaill Nathaniel Ingelo, cymrawd arall o Eton, a oedd ar daith yn Sweden. Yn y llythyr hwn mae 67 o gwpledi elegeiog yn Lladin, a argraffwyd yn Ffolio 1681 dan y teitl "A Letter to Doctor Ingelo, then with my Lord Whitlock, Ambassador from the Protector to the Queen of Sweden". Galwodd Cromwell ar Marvell i ysgrifennu dau epigram Lladin i gyd-fynd â'r portread o'r Arglwydd Amddiffynnydd a ddanfonwyd i Cristin, brenhines Sweden, yn Ebrill 1654 i nodi'r cytundeb rhwng Lloegr a Sweden.[20] Dyma'r adeg daeth Marvell yn fardd llawryfog answyddogol i Cromwell.

Yn ystod ei gyfnod yn Eton, ysbrydolwyd Marvell drwy ei gysylltiad ag Oxenbridge i gyfansoddi'r gerdd "Bermudas" sy'n dathlu'r Saeson a hwyliasant i wladychu'r ynysoedd hynny ar ben draw Cefnfor yr Iwerydd. Dan ddylanwad duwioldeb y teulu Oxenbridge, a phiwritaniaeth Cromwell, dechreuodd Marvell ymdrin â themâu crefyddol yn ei farddoniaeth, ac yn aml yn lliwio cysylltiadau rhwng y ffydd Gristnogol a gwladgarwch y Saeson. Yn ogystal â "Bermudas", sy'n cyfeirio at Dduw a'r Efengyl, ysgrifennodd "A Dialogue, between the Resolved Soul, and Created Pleasure", y delyneg "On a Drop of Dew", y gerdd Ladin "Ros", "The Coronet", "Eyes and Tears" (sy'n cynnwys un pennill yn Lladin), "Clorinda and Damon", ac "A Dialogue between the Soul and Body" (o bosib yn waith anorffenedig).[21] Yn Eton hefyd cyfansoddodd y gerdd "The First Anniversary of the Government under Oliver Cromwell" i ddathlu blwyddyn ers sefydlu'r Ddiffynwriaeth ar 16 Rhagfyr 1653.[22] Cyflwynodd y gerdd wladwriaethol hon i Cromwell, a gytunodd i'w chyhoeddi yn y papur newydd wythnosol swyddogol Mercurius Politicus, heb enwi'r bardd, yn Ionawr 1655.[21]

 
Portread o Marvell gan arlunydd anhysbys, tua 1655–1660.

Yn 1655, teithiodd Marvell a Dutton i Ffrainc am flwyddyn. Mae'n sicr iddynt dreulio'r cyfnod o Ionawr i Awst 1656 yn Saumur, Touraine. Bu farw John Dutton, ewythr William, yn Ionawr 1657, ac mae'n debyg yr oedd efe a'i diwtor Marvell yn ôl yn Lloegr erbyn hynny. Yn y pen draw, ni phriododd William â Frances Cromwell.[23]

Yr Ail Ddiffynwriaeth a diwedd y Werinlywodraeth (1657–60) golygu

Gellir nodi'r flwyddyn 1657 yn annus mirabilis Marvell.[23] Ym Mehefin ysgrifennodd "On the Victory obtained by Blake over the Spaniards", cerdd ar fodel "The First Anniversary" sy'n dathlu buddugoliaeth y Llyngesydd Robert Blake yn erbyn llongau trysor Sbaen ym Mrwydr Santa Cruz de Tenerife ar 20 Ebrill 1657. Cyflwynwyd y gerdd i Cromwell i nodi'r diolchgarwch cyhoeddus yn Llundain ar 3 Mehefin.[24] Ar 2 Medi, penodwyd Marvell yn Ysgrifennydd Lladin i'r Cyfrin Gyngor, a oedd bellach yn llywodraethu Lloegr fel yr Ail Ddiffynwriaeth. Er dywed yn aml yr oedd Marvell yn cynorthwyo Milton wrth ei waith, yn wir roedd yn gweithio i Ysgrifennydd y Cyngor, John Thurloe, ac yn gyfrifol am ysgrifennu gohebiaeth rhwng y llywodraeth a gwledydd tramor, drwy gyfrwng Lladin, iaith y diplomydd. Cafodd ei dalu £200 y flwyddyn, fesul rhandal pob trimis.[25]

Ar 11 Tachwedd 1657 cynhaliwyd priodas Robert Riche, ŵyr i Iarll Warwick, a Frances Cromwell, yr honno oedd ar un pryd yn ddisgwyliedig i briodi William Dutton. Ar 19 Tachwedd, priododd Mary Cromwell, chwaer hŷn Frances, â Thomas Belasyse, Iarll Fauconberg, ac ar gyfer y seremoni hon cyfansoddodd Marvell ddwy fugeilgerdd, a rhaid tybio iddynt gael eu perfformio gyda cherddoriaeth. Cyhoeddwyd y rheiny yn Ffolio 1681 dan y teitl "Two Songs". Cefnder i'r teulu Fairfax o Nun Appleton oedd Iarll Fauconberg, ac roedd gan ei deulu gysylltiadau ag ardal Hull yn ogystal. O bosib roedd Marvell yn gyfarwydd â'r priodfab, felly.[26] Bu farw Oliver Cromwell ar 3 Medi 1658, a chafodd ei olynu yn swydd yr Arglwydd Amddiffynnydd gan ei fab Richard. Mynychodd Marvell gynhebrwng Cromwell a mynegodd ei edmygedd ohono unwaith eto yn yr alargan "Upon the Death of His late Highness the Lord Protector" (1658).

Penderfynodd y Cyfrin Gyngor alw senedd newydd yn Ionawr 1659 ar sail hen drefn yr etholaethau. Enwebwyd Marvell a John Ramsden yn Aelodau Seneddol dros Hull gan Gorfforaeth Hull, yn hytrach na'r hen aelod Syr Henry Vane. Etholwyd Ramsden a Marvell, a pharhaodd y senedd honno, Trydedd Senedd y Ddiffynwriaeth fel y'i gelwir, dan Richard Cromwell am dri mis yn unig. Adalwyd Senedd y Gweddill ym Mai 1659 a dychwelodd Henry Vane yn Aelod Seneddol dros Hull. Ymddiswyddodd Cromwell o safle'r Arglwydd Amddiffynnydd ar 25 Mai, ac am y flwyddyn nesaf llywodraethid Lloegr ymysg brwydrau dros rym gan Senedd y Gweddill, y Senedd Faith, a'r Fyddin Fodel Newydd. Diddymwyd y senedd unwaith eto ym Mawrth 1660, ac ail-etholwyd Ramsden a Marvell yn Aelodau Seneddol dros Hull ar 2 Ebrill. Ymgynulliodd y Senedd Gonfensiwn ar 25 Ebrill, heb i'r aelodau dyngu llw i'r Werinlywodraeth na'r frenhiniaeth, a chyhoeddwyd Siarl Stiwart yn Siarl II, Brenin Lloegr, ar 8 Mai.[27] Trwy gydol y cyfnod hwn, arhosodd Marvell yn ei swydd yn Ysgrifennydd Lladin, er i Milton a Thurloe colli eu safleoedd llywodraethol ar ddechrau'r Senedd Gonfensiwn a'u herlyn am eu rhan yn y Werinlywodraeth. Amddiffynnodd Milton yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae'n debyg taw ymdrechion Marvell a lwyddodd i achub ei hen gyfaill rhag y gyfraith yn y pen draw.[28]

Oes yr Adferiad (1660–78) golygu

 
Portread o Marvell a briodolir i Godfrey Kneller.

Gyrfa wleidyddol a diplomyddol (1660–65) golygu

Diddymwyd y Senedd Gonfensiwn gan y brenin newydd yn niwedd 1660, ac yn Ebrill 1611 etholwyd Marvell a'r Cyrnol Anthony Gilby i gynrychioli Hull. Daliodd Marvell y sedd honno, yn Senedd y Cafaliriaid, am weddill ei oes. Cafodd ei dalu 6s. 8d. gan Gorfforaeth Hull am bob diwrnod byddai'r senedd wrth ei gwaith. Mae rhyw 300 o lythyrau gan Marvell at Faer Hull a'r Gorfforaeth yn goroesi o'r cyfnod Tachwedd 1660 i Orffennaf 1678, ac yn tystio iddo gyflawni ei swydd o hysbysu ei etholwyr am newyddion seneddol.[29]

Fel gwleidydd amlieithog a chanddo brofiad o ddiplomyddiaeth, cafodd Marvell ei ddanfon ar i'r cyfandir ddwywaith ar fusnes y Goron, o bosib yn cynnwys ysbïwriaeth, yn hanner cyntaf y 1660au. Ym Mai 1662, aeth i'r Iseldiroedd am ddeng mis ar gais Iarll Caerliwelydd, un o'r Cyfrin Gynghorwyr. Er iddo ddim ond esgeuluso ei bresenoldeb yn y senedd am ddeufis o'r cyfnod hwnnw, aeth pwysigion Hull ati i ganfod aelod arall os nad oedd Marvell am ddychwelyd. Yn y cyfnod o Orffennaf 1663 i Ionawr 1665, teithiodd Marvell, yn swydd ysgrifennydd i Iarll Caerliwelydd, mewn llysgenhadaeth ar grwydr i Tsaraeth Rwsia, Sweden, a Denmarc. Y tro hwn, ymofynnodd am ganiatâd oddi ar Dŷ'r Cyffredin a Chorfforaeth Hull i fod yn absennol. Wedi iddynt hwylio i Arkhangelsk, cyraeddasant Moscfa mewn ceir llusg i gyd-drafod cytundeb masnach rhwng Lloegr a Rwsia. Wedi pum mis ym Moscfa, methiant a fu'r trafodaethau, ac aeth y genhadaeth i Riga i hwylio am Stockholm. Treuliasant chwe wythnos yno, a saith wythnos arall yn Copenhagen. Gwaith Marvell oedd i ysgrifennu holl anerchiadau a llythyrau Iarll Caerliwelydd yn Saesneg neu Ladin ac i baratoi'r holl drefniadau lleol. Ar ddiwedd y genhadaeth, teithiodd y criw i Hamburg, dros y cyfandir i Calais, a chroesi Môr Udd i Lundain.[29]

Dychan a chrefydd (1667–74) golygu

Yn sgil Adferiad y frenhiniaeth yn 1660 a chwymp y Werinlywodraeth, llaciwyd ar y deddfau piwritanaidd yn erbyn mynegiant gwleidyddol a chrefyddol, ac roedd llenorion yn hawlio rhyddid creadigol unwaith eto ar ddychan a'r ddrama. Blodeuai oes o ffraethineb a gogan brathog yn llenyddiaeth Saesneg a barodd am ganrif gyfan. Fel aeth teyrnasiad y Brenin Siarl II yn ei blaen a sefydlogodd hinsawdd wleidyddol Lloegr, efelychodd Marvell ei gyfoedion drwy droi at ddychan, hoff genre'r cyfnod. Yn 1667, ysgrifennodd "Clarindon's House-Warming" a "Directions to a Painter", dwy ddychangerdd a argraffwyd gyda'i gilydd, y cyntaf yn ddi-enw a'r ail wedi ei phriodoli ar gam i'r bardd Eingl-Wyddelig Syr John Denham, a hynny ar bwrpas. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cychwynnodd Marvell ar "The Last Instructions to a Painter", dychangerdd hir am yr Arglwydd Clarendon, a ni chyhoeddwyd y gwaith hwn nes 1689. Cyflawnodd "The Kings Vowes" yn 1670 a "Further Advice to a Painter" yn 1671. Wedi i'r Cyrnol Thomas Blood geisio cipio Tlysau'r Goron ym Mai 1671, ysgrifennodd Marvell epigram Lladin o'r enw "Bludius et Corona", a chynhwysodd addasiad Saesneg o'r pennill hwnnw yn ei ddychangerdd "The Loyall Scot" (1667–73).[30]

Cafodd Senedd Lloegr ei gohirio o Ebrill 1671 i Chwefror 1673, ac yn y cyfnod hwnnw dechreuodd Marvell ysgrifennu rhyddiaith ar bynciau crefyddol. Ei fwriad wrth gychwyn yn y maes hwn oedd dadlau'n erbyn tri chyhoeddiad o 1670–72 gan Samuel Parker, Archddiacon Caergrawnt, yr hwn oedd yn ffefryn yr Archesgob Gilbert Sheldon. Dadleuodd Parker bod gan y wladwriaeth awdurdod dros gydwybod yr unigolyn, a rhennid y farn hon gan y mwyafrif o aelodau Senedd y Cafaliriaid. Er yr oedd Marvell yn gwrthwynebu presenoldeb yr Eglwys Gatholig yn Lloegr, roedd o blaid rhyddid yr anghydffurfwyr i addoli. Yn 1668, anerchodd Tŷ'r Cyffredin i ddadlau'n gryf yn erbyn adnewyddu Deddf y Confentiglau (1664) a oedd yn gwahardd cêl-gyfarfodydd y rhai oedd yn gwrthod trefn Eglwys Loegr.[31] O ran ei ffydd bersonol, roedd Marvell yn ddigon hapus i gydymffurfio â'r eglwys wladol, a dychwelyd at Anglicaniaeth ei fagwraeth, yn sgil yr Adferiad. Ond ni ellir anwybyddu'r dylanwad ysbrydol cryf a wnaed arno gan daliadau'r piwritaniaid oedd mor bwysig yn ei fywyd, Milton, Cromwell, a'r teulu Oxenbridge, yn ogystal â'i ddarlleniad personol o'r Beibl. Edmygodd frwdfrydedd a duwioldeb arweinwyr anghydffurfiol yr oes, John Owen a Richard Baxter, ac nid oedd yn fodlon gweld y fath ddynion yn dioddef sarhad yr Archddiacon Parker.[32]

Mewn ymateb i Parker, felly, ysgrifennodd Marvell y pamffled The Rehearsal Transpros'd (1672–73) a fe'i argraffwyd yn ddi-enw, heb drwydded a heb ei gofrestru â Chymdeithas y Safwerthwyr. Mae teitl y gwaith, a'r enw "Mr Bayes" a ddefnyddir am Parker, yn cyfeirio at y ffars The Rehearsal gan George Villiers, Dug Buckingham, brawd hŷn Francis Villiers a oedd yn destun un o gerddi cynnar Marvell. Yn y ddrama honno, Mr Bayes ydy'r cymeriad sy'n gwatwar John Dryden, Bardd Llawryfog cyntaf Lloegr. Ym mhamffled Marvell, cafodd Parker ei wneud yn gyff gwawd mewn modd tebyg a gogenir pob un o'i ddadleuon fesul un. Cafodd y gwaith ei ganmol gan y Brenin Siarl, a oedd o'r un farn â Marvell parthed goddefiad crefyddol, a rhoddwyd caniatâd y Goron i'w drwyddedu a'i ailargraffu.[31] Dyma oedd oes gythryblus y pamffled dadleuol, ac erbyn haf 1673 cyhoeddwyd o leiaf chwech ymateb i The Rehearsal Transpros'd, gan gynnwys ymateb hir gan Parker ei hunan dan y teitl A Reproof to the Rehearsal Transprosed. Tybiodd Parker ac eraill taw Marvell a Milton oedd cyd-awduron y gwaith, a chafodd Milton ei ddilorni gan bamffledwyr eraill er nad oedd yn gyfrifol am The Rehearsal Transpros'd.[33] Yn Rhagfyr 1673, cyhoeddodd Marvell gwrthateb arall, The Rehearsal Transpros'd: The Second Part, gydag enw'r awdur yn glir, er mwyn hawlio'i ddadleuon a rhyddhau Milton o'r bai. Enillodd Marvell enw fel rhyddieithwr ffraeth, ac efe oedd yn drech yn y ffrae hon, yn ôl barn y cyhoedd o leiaf.[32] Er nad oedd Marvell wedi cydweithio â Milton wrth ei bamffledi, nid oedd y ddau hen gyfaill hwn wedi torri cysylltiadau. Ysgrifennodd Marvell gerdd gymeradwyol Saesneg ar gyfer ail argraffiad Paradise Lost (1674) gan Milton, a argraffwyd cyferbyn un yn Lladin gan Samuel Barrow, meddyg y Brenin Siarl. Bu farw Milton yn Nhachwedd 1674, a Marvell yn ddiau oedd un o'r rhai a fu'n galaru wrth ei gladdu ym mynwent St Giles-without-Cripplegate.[34]

Digio'r awdurdodau (1674–78) golygu

Ysgrifennodd Marvell ragor o ddychangerddi yn 1674–75: "The Statue in Stocks-Market" (1674), "The Statue at Charing-Cross" (1675), "A Dialogue between the Two Horses" (1675), ac "Upon his Majesties being made free of the City" (1674–75). Ni chawsant eu cyhoeddi nes ar ôl marwolaeth y bardd, ond ar y pryd cafodd llawysgrifau'r cerddi eu cyflwyno i ddigon o bobl. Y brenhinoedd Siarl II a'i dad Siarl I oedd yn destun sbort "Two Horses", ond yn ôl Daniel Defoe cafodd y gerdd ei darllen, ei gwerthfawrogi, a'i dwyn i'r cof mewn darnau gan y Brenin Siarl ei hunan. Er gwaethaf, ymdrechodd Marvell gadw ei enw oddi ar un o'i weithiau arall am y brenin: parodi amharchus o Araith y Brenin i'r Senedd yn Ebrill 1675.[35]

Cyhoeddodd Marvell bamffled arall o blaid goddefiad crefyddol, a hwnnw yn ateb i Animadversions upon a late Pamphlet entitled the Naked Truth gan Francis Turner, Meistr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt a chaplan Dug Efrog. Argraffwyd y gwaith hwnnw yn 1676, yn ddi-enw, i ddadlau'n erbyn The Naked Truth, pamffled di-enw arall a ysgrifennwyd gan Herbert Croft, Esgob Henfford, yn 1675. Ymunodd Marvell â'r ffrae ar ochr yr Esgob Croft, yr unig esgob yn Eglwys Loegr i siarad o blaid goddefiad, yn Ebrill neu Fai 1676 gyda'i bamffled Mr Smirke; or, The Divine in Mode: being Certain Annotations, upon the Animadversions on the Naked Truth. Together with a Short Historical Essay, concerning General Councils, Creeds, and Impositions, in Matters of Religion dan y ffugenw "Andreas Rivetus, Junior, an anagram of Res Nuda Veritas". Er i'r sarhadau yn y gwaith ddenu sylw'r sensoriaid a'r Eglwys, a roedd enw'r awdur yn hysbys iddynt, ni chafodd Marvell ei gosbi, er i'w gyhoeddwr Nathaniel Ponder gael ei garcharu am argraffu heb drwydded.[36] Yn 1678, cyhoeddodd Marvell bamffled arall ar bwnc crefydd, Remarks Upon a Late Disingenuous Discourse, Writ by one T.D., y tro yma gyda chaniatâd yr awdurdodau. Amddiffyniad o John Howe, hen gaplan Presbyteraidd Cromwell, yn erbyn syniadaeth Galfinaidd Thomas Danson ynghylch rhagarfaeth yw'r gwaith hwnnw. Trwy gydol y traethawd, mae llais dirmygus yr awdur dim ond yn cyfeirio at Danson drwy gyfrwng rhagenw di-genedl y trydydd person unigol, hynny yw It.[37]

Yn wythnos olaf y flwyddyn 1677, cyhoeddodd ei bamffled hiraf, An Account of the Growth of Popery and Arbitrary Government in England. Er i'r clawr honni iddo gael ei argraffu yn Amsterdam, yn Llundain cafodd ei gyhoeddi.[37] Yn y traethawd hwnnw mae portread pesimistaidd o safle grefyddol Lloegr a pholisïau'r llywodraeth ers 1667, a lladd ar gêl-Gatholigion Seisnig, Louis XIV, brenin Ffrainc, a'r holl arweinwyr yn y trydydd rhyfel rhwng Lloegr a'r Iseldiroedd (1672–74). Dadleuodd o blaid ymochri â'r Iseldirwyr, gan fod hwy a'r Saeson ill dau yn genhedloedd Protestannaidd. Bu hefyd yn condemnio ymyrraeth gan y llywodraeth a'r Goron ym musnes Tŷ'r Cyffredin.[38] Cyhoeddwyd hysbyseb yn y London Gazette ym Mawrth 1678, ar gais yr awdurdodau gwleidyddol, yn cynnig gwobr ariannol am enwau'r awdur a'r argraffwr. Ymddangosodd sawl ymateb i Growth of Popery, gan gynnwys The Growth of Knavery a ysgrifennwyd gan y Prif Drwyddedwr ei hunan, Syr Roger L'Estrange.[37]

Diwedd ei oes a helynt yr howsgiper (1678) golygu

Yn 1677 rhentodd dŷ yn Great Russell Street, Llundain, i lochesu dau fethdalwr o Hull oedd ar ffo o'r gyfraith. Bu farw Andrew Marvell yn y tŷ hwnnw ar 16 Awst 1678 o falaria, yn 57 oed. Cleddid ym mynwent St Giles in the Field ar 18 Awst. Ni adawodd ewyllys.[39]

Wedi ei farwolaeth, hawliodd ei forwyn yn Great Russell Street, Mary Palmer, ei bod yn weddw i Marvell. Derbyniwyd yn ddiweddarach taw celwydd oedd hwn.[40] Er iddi dystio ar gam taw Mary Marvell oedd hi, siwr o fod i gael gafael ar ei etifeddiaeth, y feistres Palmer sydd i ddiolch am gasglu llawysgrifau'r bardd a'u cyflwyno i'r argraffwr Roger Boulter, i'w cyhoeddi ar ffurf Miscellaneous Poems (Ffolio 1681).[39]

Hanes cyhoeddi ei waith a'i dderbyniad golygu

Yn y canmlwydd a hanner wedi ei farwolaeth, nid oedd barddoniaeth Andrew Marvell cyn enwoced ag enw gwleidyddol y dyn. Charles Lamb oedd yr awdur cyntaf i dynnu sylw at delynegion Marvell, a hynny yn nechrau'r 19g. Fe'i ystyrir yn fardd sydd wedi arfer â sawl mesur ac arddull: mae "To His Coy Mistress" yn glasur o draddodiad y Metaffisegwyr, a'i gerddi serch eraill yn adlewyrchu'r beirdd Cafaliraidd, ei awdlau i Cromwell yn nodweddiadol o glasuriaeth, a'i gerddi natur yn debyg i farddoniaeth Blatonaidd y Piwritaniaid.[40]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Michael Craze, The Life and Lyrics of Andrew Marvell (Llundain: The Macmillan Press, 1979), t. 3.
  2. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 3–4.
  3. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 4.
  4. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 4–5.
  5. 5.0 5.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 5.
  6. 6.0 6.1 6.2 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 634–5.
  7. 7.0 7.1 Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 6–7.
  8. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 9.
  9. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 8.
  10. 10.0 10.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 11.
  11. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 10.
  12. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 10–11.
  13. 13.0 13.1 13.2 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 12.
  14. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 11–12.
  15. Robert H. Ray, An Andrew Marvell Companion (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2014), t. 173.
  16. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 12–13.
  17. 17.0 17.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 14.
  18. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 13.
  19. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 13–14.
  20. 20.0 20.1 20.2 Craze, Life and Lyrics (1979), t.15.
  21. 21.0 21.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 16.
  22. A. J. N. Wilson, "Andrew Marvell's "The First Anniversary of the Government under Oliver Cromwell": The Poem and Its Frame of Reference", The Modern Language Review cyfrol 69, rhif 2 (1974), tt. 254-73. doi:10.2307/3724572.
  23. 23.0 23.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 17.
  24. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 17–18.
  25. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 18–19.
  26. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 19.
  27. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 20.
  28. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 20–21.
  29. 29.0 29.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 21.
  30. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 21–22.
  31. 31.0 31.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 22.
  32. 32.0 32.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 23.
  33. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 22–23.
  34. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 23–24.
  35. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 24.
  36. Craze, Life and Lyrics (1979), t. 25.
  37. 37.0 37.1 37.2 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 26.
  38. Craze, Life and Lyrics (1979), tt. 26–27.
  39. 39.0 39.1 Craze, Life and Lyrics (1979), t. 27.
  40. 40.0 40.1 (Saesneg) Andrew Marvell. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach golygu

  • Michael Craze, The Life and Lyrics of Andrew Marvell (Efrog Newydd: Barnes & Noble Books, 1979).
  • Patsy Griffin, The Modest Ambition of Andrew Marvell: A Study of Marvell and His Relation to Lovelace, Fairfax, Cromwell, and Milton (Newark, Delaware: University of Delaware Press, 1995).
  • John Dixon Hunt, Andrew Marvell: His Life and Writings (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1978).