Anghydfod Ynysoedd Senkaku

Dadl diriogaethol dros Ynysoedd Senkaku, ynysfor anghyfannedd ym Môr Dwyrain Tsieina, yw anghydfod Ynysoedd Senkaku. Mae'r anghydfod yn ymglymu Japan (sy'n rheoli'r ynysoedd), Gweriniaeth Tsieina, a Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Anghydfod Ynysoedd Senkaku
Enghraifft o'r canlynoldadl diriogaethol Edit this on Wikidata
Rhan oQ114451801 Edit this on Wikidata
LleoliadYnysoedd Senkaku Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffotograff o Uotsuri-jima, un o'r ynysoedd, o'r awyr (1978).

Mae Ynysoedd Senkaku o bwys strategol ac economaidd, gan eu bod yn cynnwys dyfroedd llawn pysgod ac o bosib gwaddodion olew.[1]

Hawliad Japan golygu

Ar 14 Ionawr 1895 cododd Japan arwydd ar yr ynysoedd yn nodi sofraniaeth Japan drostynt. Ymgorfforwyd Ynysoedd Senkaku yn rhan o Ynysoedd Nansei Shoto, a elwir heddiw yn Ynysoedd Ryukyu (rhan o dalaith Okinawa). Wedi'r Ail Ryfel Byd, ildiodd Japan ei hawliadau i nifer o diriogaethau, gan gynnwys Taiwan, yng Nghytundeb San Francisco (1951). Yn ôl y cytundeb hwn daeth Ynysoedd Nansei Shoto yn diriogaeth ymddiriedol Americanaidd, a chafodd ei dychwelyd i Japan ym 1971.[1] Yn ôl Japan, mae'r Tsieineaid dim ond wedi ymddiddori yn Ynysoedd Senkaku ers i'r posibilrwydd o gronfeydd olew dod i'r amlwg yn y 1970au.[2]

Hawliad Tsieina golygu

Mae'r Tsieineaid, sy'n galw'r ynysoedd yn Ynysoedd Diaoyu, yn mynnu eu bod yn rhan o Tsieina ers oes yr henfyd, ac yn gysylltiedig â thalaith Taiwan yn hanesyddol. Cafodd Taiwan ei hildio i Japan gan Gytundeb Shimonoseki (1895) yn sgil Rhyfel Cyntaf Tsieina a Japan. Dadleua'r Tsieineaid y dylai Ynysoedd Senkaku wedi cael eu dychwelyd gyda thiriogaeth Taiwan o ganlyniad i Gytundeb San Francisco. Yn ôl Gweriniaeth Pobl Tsieina, ni wnaeth Chiang Kai-shek, arweinydd Gweriniaeth Tsieina, mynnu hyn ar y pryd gan iddo ddibynnu ar yr Unol Daleithiau am gefnogaeth i'w lywodraeth.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Q&A: China-Japan islands row. BBC (11 Medi 2012). Adalwyd ar 28 Tachwedd 2012.
  2. (Saesneg) Senkaku / Diaoyutai Islands. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2012.

Darllen pellach golygu