Angkor Wat

Deml Hindŵaidd/Bwdhaidd cymhleth yn Cambodia

Teml yn Angkor, ger dinas Siem Reap, Cambodia, yw Angkor Wat (neu Angkor Vat). Cafodd ei chodi ar orchymyn y Brenin Suryavarman II yn gynnar yn y 12g fel ei deml wladol ym mhrifddinas newydd y wlad. Dim ond un o sawl teml ar safle Angkor yw Angkor War, ond dyma'r unig un ohonynt sy'n aros yn ganolfan grefyddol, wedi'i sefydlu yn wreiddiol fel teml Hindŵaidd, wedi'i chysegru i'r duw Vishnu, ac wedyn yn deml Bwdhaidd. Mae'n cynrychioli uchafbwynt arddull clasurol pensaernïaeth Khmer. Mae wedi tyfu yn symbol o Cambodia ei hun, gan ymddangos ar ei baner genedlaethol, ac mae'n brif atyniad twristaidd y wlad hefyd.

Angkor Wat
Enghraifft o'r canlynolBuddhist temple, safle archaeolegol, Hindu temple, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
CrëwrSuryavarman II Edit this on Wikidata
Rhan oAngkor, Angkor Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu12 g Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolអង្គរវត្ត Edit this on Wikidata
RhanbarthTalaith Siem Reap Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Fideo am y deml Angkor Wat yn Cambodia
Prif fynedfa Angkor Wat

Cynlluniwyd Angkor Wat i gynrychioli Mynydd Meru, cartref y devas ym mytholeg Hindŵaidd. Edmygir y deml am fawredd ei chynllwyn a chydbwysedd ei elfennau pensaernïol a'i cherfluniau bas-relief niferus o dduwiau a duwiesau.

Mae'n ganolfan pererindod.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Cambodia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato