Angus Charles Graham

sinologist o Gymru

Roedd Angus Charles Graham (8 Gorffennaf 1919 - 26 Mawrth 1991) yn ysgolhaig Gymreig a Sinolegydd a oedd yn Athro Tseineaidd Clasurol yn Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd, Prifysgol Llundain (SOAS).[1]

Angus Charles Graham
Ganwyd8 Gorffennaf 1919 Edit this on Wikidata
Penarth Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 1991 Edit this on Wikidata
Nottingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, academydd, ysgrifennwr, hanesydd, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig, Prix Stanislas Julien Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Fe'i ganed ym Mhenarth, yn fab i Charles Harold a Mabelle Graham, yr hynaf o ddau blentyn. Yn wreiddiol, roedd ei dad yn fasnachwr glo a symudodd i Malaya i ddechrau planhigfa rwber, a bu farw ym 1928 o falaria. Mynychodd Graham Colage, Ellesmore, Swydd Amwythig, rhwng 1932 a 1937, ac aeth ymlaen i ddarllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen gan raddio ym 1940. Astudiodd Tsieineaidd yn yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd, Prifysgol Llundain gan raddio ym 1949 ac ennill PhD ym 1953.[2]

Gwasanaeth Rhyfel golygu

Ymunodd a’r Awyrlu Brenhinol ar gyfer ei wasanaeth milwrol orfodol yn ystod Yr Ail Ryfel Byd. Ym 1944 cafodd ei ddanfon gan yr Awyrlu i Brifysgol Llundain ar gwrs i ddysgu Japaneaidd cyn cael ei benodi yn gyfieithydd Japaneaidd ym Malaya a Gwlad Tai. Ymadawodd a’r RAF ar ddiwedd y rhyfel gyda rheng Swyddog Hedfan[3]

Gyrfa golygu

Ym 1950 cafodd ei benodi'n Ddarlithydd mewn Tseiniaidd Clasurol yn SOAS, a’i dyrchafu’n Athro ym 1971, ac yn Athro Emeritws ar ôl iddo ymddeol ym 1984. Bu'n byw yn Borehamwood.

Bu hefyd yn athro ymweld ym Mhrifysgolion Hong Cong a Yale, Prifysgol Michigan, Cymdeithas y Dyniaethau ym Mhrifysgol Cornell, Sefydliad Athroniaeth Dwyrain Asiaidd ym Mhrifysgol Singapôr, y Brifysgol Tsing Hua Genedlaethol yn Nhaiwan, Prifysgol Brown, a Phrifysgol Hawaii. Etholwyd ef yn Gymrawd yr Academi Brydeinig ym 1981.

Bywyd personol golygu

Ar 23 Ionawr 1956 Priododd Der Pao Chang, merch Yuan-po Chang, marsiandw cyffredinol. Bu iddynt un ferch.[2]

Marwolaeth golygu

Bu farw o gancr yn Ysbyty y Ddinas Nottingham yn 71 mlwydd oed.[1]

Cyhoeddiadau golygu

  • Later Mohist Logic (ail argraffiad - Hong Cong: Chinese University Press, 2003)
  • Chuang-tzu: The Inner Chapters (ail argraffiad - Indianapolis: Hackett Publishing, 2001)
  • The Book of Lieh-tzu (ail argraffiad - Efrog Newydd: Columbia University Press, 1990)
  • Disputers of the Tao: philosophical argument in ancient China (La Salle, Illinois: Open Court, 1989) [Cyfieithwyd i Tsieinëeg gan Zhang Haiyan "Lun dao zhe: Zhongguo gudai zhexue lun bian", Beijing: Zhongguo shehui kexue chubanshe, 2003)
  • Poems of the West Lake, translations from the Chinese (Llundain: Wellsweep, 1990)
  • Chuang-tzu: The Inner Chapters and other Writings from the Book of Chuang-tzu (Llundain: Unwin Paperbacks, 1986)
  • Divisions in early Mohism reflected in the core chapters of Mo-tzu (Singapore: Institute of East Asian Philosophies, 1985)
  • Chuang-tzu: textual notes to a partial translation (Llundain: SOAS, 1982)
  • Later Mohist Logic, Ethics and Science (Hong Cong a Llundain, 1978)
  • Poems of the Late T'ang (Baltimore, Penguin Books, 1965)
  • The Book of Lieh-tzu, a new translation (Llundain: John Murray, 1960)
  • The Nung-Chia ‘School of the Tillers’ and the Origin of the Peasant Utopianism in China // Bulletin of the School of Oriental and African Studies, *University of London, Vol.42 no.1, 1978, pp. 66–100. ail gyhoeddwyd yn Graham A.C. Studies in Early Chinese Philosophy and Philosophical Literature. SUNY Press, 1986.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gold, A (23 Medi 2004). "Graham, Angus Charles (1919–1991), Sinologist and philosopher". Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2018.
  2. 2.0 2.1 "Graham, Prof. Angus Charles, (8 July 1919–26 March 1991), Professor of Classical Chinese, School of Oriental and African Studies, London University, 1971–84, retired". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. 1 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2018.
  3. Rosemont, Henry (1992). "Remembering A C Graham". JSTOR. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2018.