Anhwylder Hunaniaeth Datgysylltiol

Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol (Dissociative Identity Disorder – DID) byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.

Anhwylder Hunaniaeth Datgysylltiol
Enghraifft o'r canlynolafiechyd meddwl, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylderau Datgysylltol, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolSeiciatreg edit this on wikidata
AchosPsychological trauma, childhood trauma edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arferai Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol gael ei alw’n ‘Anhwylder Personoliaeth Luosog’ (Multiple Personality Disorder).

Gall rhywun sydd â DID ‘weld’ eu hunan fel petai wedi ei wneud o nifer o ‘rannau’ (‘alters’ neu ‘parts’) sydd i gyd yn gweithredu, meddwl, profi a rhyngweithio â’r byd yn annibynnol ac ar wahân i’w gilydd.

Rhwng y ‘rhannau’ yma mae yna amnesia ar raddau amrywiol. Mae hyn yn achosi dryswch difrifol ac yn arwain at gael meddyliau, hoffterau, cas bethau a theimladau sy’n gwrthdaro â’i gilydd o fewn y person yn ei gyfanrwydd. Gall bobl canfod eu bod wedi dweud neu wneud rhywbeth, neu wedi teithio i lefydd, heb unrhyw atgof o wneud hynny o ganlyniad i’r amnesia a achoswyd gan y datgysylltu.

Symptomau Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol golygu

  • Gwahanol agweddau ar eich hunaniaeth yn rheoli’ch ymddygiad a’ch meddyliau ar adegau gwahanol
  • Mae gan bob un o’ch hunaniaethau batrymau meddwl gwahanol
  • Mae eich hunaniaethau yn ymddangos fel oedrannau a rhyweddau gwahanol
  • Teimlo bod gennych un ‘brif’ rhan o’ch hunaniaeth sy’n teimlo mwy fel ‘chi’
  • Mae gan wahanol rannau o’ch hunaniaeth atgofion neu brofiadau sy’n gwrthdaro â’i gilydd.
  • Nid oes gennych reolaeth dros pryd fydd gwahanol rannau o’ch hunaniaeth yn cymryd drosodd
  • Profi amnesia sy’n golygu nad ydych yn cofio beth sy’n digwydd pan fo rhan arall o’ch hunaniaeth yn rheoli[1][2][3]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylderau Datgysylltol ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall

  1. "Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol". meddwl.org. 2021-05-16. Cyrchwyd 2022-05-04.
  2. "See Me is Scotland's Programme to tackle mental health stigma and discrimination". www.seemescotland.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.
  3. "What are dissociative disorders?". www.mind.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.