Anne Hyde

pendefig, boneddiges breswyl (1637-1671)

Aelod y teulu frenhinol Seisnig oedd Anne Hyde (12 Mawrth 1637 – 31 Mawrth 1671). Roedd hi'n Duges Efrog ac Albany fel gwraig gyntaf James, Dug Efrog (y Iago II/VII yn ddiweddarach). Mam i ddwy frenhines oedd hi.

Anne Hyde
Ganwyd12 Mawrth 1637 Edit this on Wikidata
Windsor Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 1671 Edit this on Wikidata
Palas Sant Iago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethpendefig, boneddiges breswyl Edit this on Wikidata
TadEdward Hyde, Iarll Clarendon 1af Edit this on Wikidata
MamFrances Hyde Edit this on Wikidata
PriodIago II & VII Edit this on Wikidata
PlantMari II, Anne, brenhines Prydain Fawr, James Stuart, Charles Stuart, Edgar Stuart, Charles Stuart, Henrietta Stuart, Catherine Stuart Edit this on Wikidata
Llinachy Stiwartiaid Edit this on Wikidata

Roedd Anne yn ferch i'r gwleidydd Edward Hyde (a grëwyd yn Iarll Clarendon yn ddiweddarach). Priododd hi â Iago ym 1660 ar ôl cwrdd yn yr Iseldiroedd. Roedd Anne yn feichiog ar adeg eu priodas. Roedd brawd Iago, Siarl II, brenin Lloegr, eisiau i'r briodas ddigwydd. Roedd gan Iago ac Anne wyth o blant, ond bu farw chwech yn ystod plentyndod cynnar. [1] Y ddau a oroesodd i fod yn oedolion oedd brenhinoedd y dyfodol, Mari II ac Anne. Roedd llawer o feistresi gyda Iago hefyd.

Bywyd golygu

Cafodd Anne ei geni yn Windsor, yn ferch i Edward Hyde a'i ail wraig, Frances. Enwyd eu merch ar ôl Anne Ayliffe, gwraig gyntaf Hyde. Cafodd ei magu yn yr Eglwys Loegr ond rhoddodd y gorau i fynychu yn 1669.[2] Dwedodd y brenin Siarl fod yn rhaid i'r plant gael eu magu fel Protestaniaid.[3]

Roedd ganddi Anne wyth o blant gan ei gŵr, Iago.

Bu farw o ganser, yn 34 oed, ym Mawrth 1671. Bu farw ei fab, Edgar, ym mis Mehefin yr un flwyddyn. Bu farw ei ferch ieuanc, Henrietta, ym mis Rhagfyr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Weir, Alison (2008). Britain's Royal Families: The Complete Genealogy (yn Saesneg). London: Vintage Books. tt. 259–60. ISBN 978-0-09-953973-5.
  2. Miller, John (2000). James II (yn Saesneg). New Haven: Yale University Press. tt. 58–59. ISBN 0-300-08728-4.
  3. Van der Kiste, John (2003). William and Mary (yn Saesneg). Gloucestershire: Sutton. t. 32. ISBN 0-7509-3048-9.