Dinas hanesyddol yn nhalaith Hatay yn ne-orllewin Twrci, ger y Môr Canoldir, yw Antakya. Tyfodd ar safle dinas hynafol Antiochia (Antochia ar Orontes), ar lannau afon Orontes, nepell o'r ffin â Syria heddiw. Y ddinasoedd cyfagos yw Iskenderun yn Nhwrci i gyfeiriad y gogledd, Aleppo yn Syria i'r dwyrain a Latakia, hefyd yn Syria, i'r de. Mae gan y ddinas le arbennig yn hanes y Gristnogaeth fel y lle y galwyd dilynwyr Iesu o Nasareth yn Gristnogion am y tro cyntaf.

Antakya
Mathdinas fawr, district of Turkey Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAntiochus Edit this on Wikidata
Poblogaeth377,793 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAalen, Kiel Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tyrceg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHatay Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Uwch y môr67 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDefne, Altınözü, Samandağ, Arsuz, Belen, Kırıkhan, Kumlu, Reyhanlı, Harem District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.2025°N 36.1606°E Edit this on Wikidata
Cod post31000 Edit this on Wikidata
Map
Afon Orontes yn llifo trwy Antakya

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.