Anthony Keck

pensaer o Sais

Pensaer o Sais oedd Anthony Keck (17261797). Ychydig a wyddys am ei wreiddiau, ond o 1768 hyd ddiwedd ei oes bu’n byw yn King's Stanley, Swydd Gaerloyw. Fe’i disgrifiwyd gan ei ysgrif goffa yn y Hereford Journal ar 11 Hydref 1797, fel y "pensaer enwocaf" yn Swydd Gaerloyw, Swydd Gaerwrangon, Swydd Henffordd, a De Cymru.[1]

Anthony Keck
Ganwyd1726 Edit this on Wikidata
Bu farw1797 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata
Arddullclasuriaeth Edit this on Wikidata
Mudiadpensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd Edit this on Wikidata

Ymhlith ei weithiau yng Nghumru mae Castell Pen-rhys ar Benrhyn Gŵyr (1775–80) a'r orendy ym Mharc Gwledig Margam, Castell-nedd Port Talbot (1787–93).

Cyfeiriadau golygu

  1. Nigel R. Jones (2005). Architecture of England, Scotland, and Wales. Greenwood Publishing Group. t. 137. ISBN 978-0-313-31850-4. (Saesneg)