Anton Bruckner

cyfansoddwr a aned yn 1824

Cyfansoddwr Awstraidd oedd Josef Anton Bruckner (4 Medi 182411 Hydref 1896). Ystyrir ef yn un o gyfansoddwyr pwysicaf ei gyfnod.

Anton Bruckner
Ganwyd4 Medi 1824 Edit this on Wikidata
Ansfelden Edit this on Wikidata
Bu farw11 Hydref 1896 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Man preswylPriordy Sant Florian, Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Cisleithania Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Gerdd a Chelf Mynegiannol Fiena Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, athro cerdd, organydd, academydd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amSymffoni Rhif 3 (Bruckner), Symffoni Rhif 4 (Bruckner), Symffoni Rhif 5 (Bruckner), Symffoni Rhif 6 (Bruckner), Symffoni Rhif 7 (Bruckner), Symffoni Rhif 8 (Bruckner), Symffoni Rhif 9 (Bruckner), Symffoni Rhif 2 (Bruckner), Symffoni yn D leiaf (Bruckner), Symffoni Rhif 1 (Bruckner), Te Deum, Helgoland, Symffoni'r Astudiaeth Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, symffoni Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadRichard Wagner Edit this on Wikidata
Gwobr/auKnight's Cross of the Order of Franz Joseph, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Fienna Edit this on Wikidata
llofnod
Yr ail o dri gosodiad gan Bruckner o "Ave Maria"

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Ganed ef ym mhentref Ansfelden, yr hynaf o unarddeg o blant; roedd ei dad, hefyd Anton Bruckner, yn ysgolfeistr. Roedd canu'r organ yn rhan o ddyletswyddau ei dad fel ysgolfeistr, a dysgodd Anton yr organ yn ieauanc. Bu farw ei dad yn 1837. Wedi hyfforddi fel athro, bu Bruckner yn athro cynorthwyol ym mhentref Windhaag, ond aeth i drafferth trwy dreulio mwy o amser yn cyfansoddi cerddioriaeth nag yn gwneud ei waith, a symudwyd ef i Kronstorf.

Treuliodd ddeng mlynedd fel athro yn ysgol Sankt Florian o 1845 i 1855, ac yn raddol datblygodd o fod yn athro i fod yn gerddor proffesiynol. Ymhlith ei weithiau pwysig cynnar mae'r Requiem (1848). Yn 1855 bu farw organydd eglwys gadeiriol Linz, a chafodd Bruckner ei swydd. Yn y swydd yma, daeth i adnabod Otto Kitzler, a gyflwynodd gerddoriaeth Richard Wagner, a gafodd ddylanwad mawr arno. Perfformiwyd ei symffoni gyntaf am y tro cyntaf yn 1868.

Yn 1868, symudodd i Fienna i fod yn Athro yn y Konservatorium yno. Bu ar daith i roi perfformiadau ar yr organ yn Nancy a Paris yn 1869 a Llundain yn 1871. Cyfansoddodd gyfres o simffoniau, a gafodd dderbyniad cymysg, gyda rhai beiriniaid yn elyniaethus iawn. Cafodd ei 7fed Simffoni yn 1884 well derbyniad, a daeth nifer o anrhydeddau i'w ran yn y blynyddoedd nesaf. Bu farw yn Fienna yn 1896.

Gweithiau cerddorol golygu

Cerddorfaol golygu

Lleisiol golygu

Crefyddol:

  • Messe C-Dur für Alt, zwei Hörner und Orgel (WAB 25), 1842
  • Requiem d-Moll (WAB 39), 1848/49
  • Missa solemnis B-Dur (WAB 29), 1854
  • Messe d-Moll (WAB 26), 1864
  • Messe e-Moll für achtstimmigen Chor und Bläser (WAB 27), 1866
  • Messe f-Moll (WAB 28), 1868
  • Psalm 114, 1852
  • Psalm 146, 1858
  • Psalm 150 (WAB 38), 1892
  • Te Deum (WAB 45), 1881, 1884
  • Magnificat (WAB 24), 1852
  • 4 Graduale (1869):
    • Christus factus est
    • Locus iste
    • Os justi meditabitur sapientiam
    • Virga Jesse floruit
  • zahlreiche Motetten, darunter:
    • Ave Maria
    • Ecce sacerdos magnus
    • Tota pulchra es Maria
    • Vexilla regis prodeunt

Arall:

  • Germanenzug für Männerchor und Bläser (WAB 70), 1864
  • Helgoland für Männerchor und Orchester (WAB 71), 1893
  • weitere (vorrangig Männer-) Chorstücke sowie einige Klavierlieder

Offerynnol golygu

  • Streichquartett c-Moll (WAB 111), 1862
  • Rondo c-Moll für Streichquartett, 1862
  • Abendklänge für Violine und Klavier (WAB 110), 1866
  • Streichquintett F-Dur (WAB 112), 1879
  • Intermezzo d-Moll für Streichquintett (WAB 113), 1879