Antoninus Pius

ymerawdwr Rhufeinig (86-161) (r. 138–161)

Caesar Titus Aelius Hadrianus Antoninus Augustus Pius neu Antoninus Píus (19 Medi 86 - 7 Mawrth 161) oedd Ymerawdwr Rhufain o 10 Gorffennaf 138 hyd ei farwolaeth. Ganwyd Titus Aurelius Fulvius Boionus Arrius Antoninus Pius.

Antoninus Pius
GanwydTitus Aurelius Fulvus Edit this on Wikidata
19 Medi 0086 Edit this on Wikidata
Lanuvium Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 161 Edit this on Wikidata
Lorium Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadTitus Aurelius Fulvus, Hadrian Edit this on Wikidata
MamArria Fadilla Edit this on Wikidata
PriodFaustina yr Hynaf Edit this on Wikidata
PartnerGaleria Lysistrate Edit this on Wikidata
PlantMarcus Aurelius, Lucius Verus, Faustina yr Ieuengaf, Marcus Galerius Aurelius Antoninus, Aurelia Fadilla, Marcus Aurelius Fulvus Antoninus Edit this on Wikidata
LlinachAntonines Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Aurelio Fulvo, conswl Rhufeinig o deulu oedd yn hannu o Nemausus (Nimes). Ganed Antoninus Píus ger Lanuvium. Dilynodd yrfa arferol uchelwr Rhufeinig, gan ddod yn quaestor, praetor a dwywaith yn gonswl. Roedd yn un o bedwar cyn-gonswl a benododd yr ymerawdwr Hadrian i weinyddu'r Eidal. Daeth Hadrian i ymddiried ynddo, ac fe'i mabwysiadodd fel mab ac fel olynydd iddo. Ar farwolaeth Hadrian yn 138 daeth Antoninus Pius yn ymerawdwr.

Dywedir fod Antoninus Pius yn ymerawdwr poblogaidd iawn oherwydd ei allu a'i hynawsedd. Amddiffynnodd y Cristionogion yn yr ymerodraeth ac yr oedd yn nodedig o drugarog wrth ddelio a chynllwynion yn ei erbyn. Roedd yn gyfrifol am lawer o adeiladu, yn enwedig yn ninas Rhufain.

Yn ystod ei deyrnasiad bu gwrthryfel yn Mauritania, Judea a Prydain lle gwrthryfelodd y Brigantes, ond nid oedd yr un ohonynt yn ddifrifol iawn. Antoninus Pius oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Mur Antonaidd yn Yr Alban, tua 160 km i'r gogledd o Fur Hadrian. Priododd a Faustina yr Hynaf a bu ganddynt ddau fab a dwy ferch, ond yr oedd y rhain i gyd wedi marw cyn iddo ddod yn ymerawdwr ac eithrio Faustina yr Ieuengaf, a briododd Marcus Aurelius. Penododd Marcus Aurelius fel ei olynydd.

Bu farw yn Lorium (Etruria) ar 7 Mawrth 161. Ystyrir ei deyrnasiad, ynghyd â Trajan a Hadrian o'i flaen a Marcus Aurelius ar ei ôl, yn oes aur yr ymerodraeth Rufeinig.

Rhagflaenydd:
Hadrian
Ymerawdwr Rhufain
10 Gorffennaf 1387 Mawrth 161
Olynydd:
Marcus Aurelius
Lucius Verus
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato