Athronydd, llenor, gwleidydd, a damcaniaethwr gwleidyddol o Eidalwr oedd Antonio Gramsci (IPA: [ˈɡramʃi]) (22 Ionawr 189127 Ebrill 1937), ac un o gydsefydlwyr Plaid Gomiwnyddol yr Eidal yn 1921. Carcharwyd ef gan Mussolini yn 1926 a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes dan glo. Yn 1929 dechreuodd ysgrifennu ei lyfrau nodiadau yn y ddalfa, y rheiny nas cyhoeddid tan y 1950au dan y teitl Quaderni del carcere. Ynddynt traethodai ei holl syniadaeth wleidyddol ac economaidd, gan gynnwys ei ddamcaniaeth o hegemoni a'i gred bod angen addysg radicalaidd ar y dosbarth gweithiol i berswadio iddynt ymwrthod â chyfalafiaeth a phrynwriaeth. Rhyddhawyd ef yn 1935 mewn iechyd gwael, a bu farw ymhen dwy flynedd. Yn ail hanner yr 20g, dylanwadodd ei waith yn gryf ar yr adain chwith gwrth-Stalinaidd yn Ewrop.

Antonio Gramsci
Ganwyd22 Ionawr 1891 Edit this on Wikidata
Ales Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1937 Edit this on Wikidata
o gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, gwleidydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, economegydd, beirniad llenyddol, hanesydd, cymdeithasegydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, adolygydd theatr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPrison Notebooks Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorg Hegel, Karl Marx, Benedetto Croce, Francesco De Sanctis, Giovanni Gentile, Niccolò Machiavelli, Friedrich Engels, Vladimir Lenin, Georges Sorel, Antonio Labriola, Amadeo Bordiga, Vilfredo Pareto, Gaetano Mosca Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Eidal Edit this on Wikidata
Mudiadcontinental philosophy, Western Marxism, Neo-Marxism, Marxist humanism Edit this on Wikidata
PriodJulia Schucht Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Viareggio Edit this on Wikidata
llofnod


Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.