Antoon van Dyck

arlunydd Baróc Fflemaidd (1599-1641)

Arlunydd o Fflandrys a ddaeth yn arlunydd y llys brenhinol yn Lloegr oedd Antoon van Dyck, hefyd wedi ei Seisnigo i Anthony van Dyck ac amrywiadau eraill (22 Mawrth 15999 Rhagfyr 1641).[1]

Antoon van Dyck
GanwydAnthonio Edit this on Wikidata
22 Mawrth 1599 Edit this on Wikidata
Antwerp Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 1641 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Iseldiroedd Sbaenaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, ysgythrwr, dramodydd, cyfarwyddwr theatr, cyfieithydd, dramodydd, arlunydd llys, drafftsmon, drafftsmon Edit this on Wikidata
Swyddarlunydd llys Edit this on Wikidata
Adnabyddus amJupiter ac Antiope, Siarl Iaf yn Hela, Siarl iaf mewn 3 safle Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, alegori, peintio hanesyddol, portread, peintio lluniau anifeiliaid Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPeter Paul Rubens Edit this on Wikidata
Mudiadpaentiadau Baróc Edit this on Wikidata
TadFranchois Van Dyck Edit this on Wikidata
MamMaria Cuypers Edit this on Wikidata
PriodMary Ruthven Edit this on Wikidata
PartnerMargaret Lemon Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Van Dyck yn Antwerp i rieni cefnog. Astudiodd arlunio dan Hendrick van Balen, a daeth yn arlunydd annibynnol erbyn tua 1615. O fewn ychydig flynyddoedd daeth yn brif gynorthwydd i Peter Paul Rubens.

Aeth i Loegr am gyfnod yn 1620, lle bu'n gweithio i Iago I, brenin Lloegr a'r Alban, yna bu yn yr Eidal o ddiwedd 1621 hyd 1627, gan weithio yn Genova yn bennaf. Dychwelodd i Lundain yn 1632, lle bu'n gweithio i'r brenin Siarl I fel prif arlunydd y llys. Mae'n adnabyddus am ei bortreadau o Siarl I a'i deulu.

Cymerwyd ef yn wael ym Mharis yn 1641, a bu farw yn fuan ar ôl dychwelyd i Lundain.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Anthony van Dyck". Netherlands Institute of Art (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.