Gweithiau ysgrifenedig o awduraeth anhysbys neu darddiad amheus yw apocryffa. Mae'r gair yn cyfeirio'n amlaf at destunau crefyddol, yn enwedig Apocryffa'r Beibl, ond mae hefyd wedi ei roi ar weithiau llenyddol eraill, er enghraifft Apocryffa Shakespeare neu Apocryffa Siôn Cent.

Apocryffa'r Beibl golygu

Bathwyd yr enw Apocryffa (Groeg: apokryphos, sef "cudd") gan Sant Sierôm yn y 5g i ddisgrifio'r llyfrau a gynhwysir yng nghyfieithiad Groeg yr Hen Destament, y Deg a Thrigain, ond nas cynhwysir yn y Beibl Hebraeg. Yn sgil twf ysgolheictod Beiblaidd a beirniadaeth hanesyddol yn y 19g, daeth testunau'r Apocryffa yn bwysig fel ffynonellau o'r cyfnod rhyngdestamentaidd (4g CC i'r 1g OC). Ceir ynddynt hefyd dealltwriaeth o'r datblygiadau mewn athrawiaeth a diwethafiaeth y crefyddau Iddewig a Christnogol, ar bynciau megis anfarwoldeb ac atgyfodiad yr Iesu.

Yr Hen Destament golygu

Cynnyrch yr Iddewon Helenistaidd oedd cyfieithiad y Deg a Thrigain. Y llyfrau yma a ystyriwyd yn anghanonaidd gan Iddewon eraill yw Llyfr Jwdith, Doethineb Solomon, Llyfr Tobit, Llyfr Eclesiasticus (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), Llyfr Baruch, a llyfrau'r Macabeaid (1 a 2). Gweithiau hanesyddol neu ffug-hanesion yw Jwdith a Tobit, a llên ddoethineb yw Doethinebau Solomon a Sirach, yn debyg i Lyfr y Diarhebion, Llyfr Job, a Llyfr y Pregethwr. Ychwanegiad at Lyfr Jeremeia yw Baruch, o safbwynt ysgrifennydd y proffwyd hwnnw. Hanesion yn nhraddodiad llyfrau Samuel (1 a 2), y Brenhinoedd (1 a 2), a'r Croniclau (1 a 2) yw llyfrau'r Macabeaid.

Yn ogystal â'r llyfrau apocryffaidd a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae sawl gwaith arall a ystyrir yn Apocryffa'r Hen Destament: llyfrau Esdras (1 a 2), yr Ychwanegiadau at Lyfr Esther (Esther 10:4-10), Cân y Tri Llanc (Daniel 3:24-90), Swsanna (Daniel 13), Bel a'r Ddraig (Daniel 14), a Gweddi Manase. Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn dilyn trefn y Deg a Thrigain, ac yn ystyried holl Apocryffa'r Hen Destament yn ganonaidd, ac eithrio dau lyfr Esdras a Gweddi Manase. Cyfeirir at y testunau a ystyrir yn apocryffaidd gan y Protestaniaid, ond nid gan y Pabyddion a'r Uniongredwyr, yn llyfrau isganonaidd,[1] ailganonaidd,[2] neu'n ddewteroganonaidd.

Rhoddir yr enw ffugysgrifeniadau (Groeg: pseudepigraphos) ar y testunau nas cynhwysir yn y canon Beiblaidd gan unrhyw o'r prif enwadau, na chan yr Iddewon. Ymhlith y gweithiau hyn mae Llyfr y Jiwbilïau, Salmau Solomon, Pedwerydd Llyfr y Macabeaid, Llyfr Enoc, Pedwerydd Llyfr Esra, Apocalyps Baruch, a Thestamentau'r Deuddeg Patriarch. Priodolir y rhain i gyd i awduron a sonir amdanynt yng nghanon yr Hen Destament, ac maent yn dyddio o'r cyfnod rhyngdestamentaidd, a ni cheir ffynonellau Hebraeg nac Aramaeg gwreiddiol ohonynt. Cafwyd hyd i ragor o ffugysgrifeniadau, yn Hebraeg ac Aramaeg, yn Sgroliau'r Môr Marw.

Y Testament Newydd golygu

Rhwng yr 2g a'r 4g, ysgrifennwyd mwy na chant o lyfrau gan awduron Cristnogol a ystyrir yn Apocryffa. Nodai'r fath weithiau gan eu ffurf gyffredin, sydd yn debyg i genres y Testament Newydd (efengyl, actau, epistolau, ac apocalyps), a'r ffaith nad ydynt yn perthyn i ganon y Testament Newydd nac i ysgrifau Tadau'r Eglwys. Ysgrifennwyd nifer ohonynt gan y Gnostigiaid, a chawsant yn rhannu ymhlith y rhai a ynydwyd yn unig. Cafodd eraill eu hysgrifennu ar gyfer yr eglwysi cyffredinol, ond na chawsant eu derbyn yn rhan o'r canon Beiblaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1.  isganonaidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2018.
  2.  ailganonaidd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Medi 2018.