Apostol

(Ailgyfeiriad o Apostolion)

Yn ei ystyr llythrennol, mae'r gair apostol yn golygu "cennad", o'r Hen Roeg ἀπόστολος (apóstolos, "un sy'n cael ei anfon i ffwrdd"). Yn y Testament Newydd rhoddir yr enw i Ddeuddeg Apostol Iesu (gan gynnwys Pedr, Iago, ac Ioan), yn ogystal â grŵp ehangach o ffigurau yr Eglwys Fore, gan gynnwys Paul, Andronicus, Apolos, Barnabas, Jwnia, Silas, a Timotheus.

Defnyddir yr enw "apostol" weithiau fel teitl:

  • Adnabyddir Sant Boniffas (tua 680–754), fel "Apostl yr Almaenwyr".
  • Adnabyddir y gweinidog a gwleidydd Henry Richard (1812–88) fel "Yr Apostl Heddwch".

Gweler hefyd golygu