Mae Aramaeg yn iaith Semitaidd sy'n perthyn i gangen orllewinol y grŵp hwnnw o ieithoedd.

Aramaeg
Enghraifft o'r canlynolgenetic unit Edit this on Wikidata
MathNorthwest Semitic Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOld Aramaic Edit this on Wikidata
Olynwyd ganChaldean Neo-Aramaic Edit this on Wikidata
Enw brodorolܠܫܢܐ ܐܪܡܝܐ Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 445,000
  • System ysgrifennuAramaic alphabet Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Llawysgrif ddwyieithog o ysgrythurau Hebraeg â chyfieithiad Aramaeg (ar y chwith) - Irac, 11g

    Roedd gan yr iaith Aramaeg wyddor 22 llythyren, neu gymeriad, a osododd y cynseiliau ar gyfer gwyddorau'r Hebraeg ac Arabeg.

    Daeth Aramaeg i gael ei defnyddio ar raddfa eang yng nghyfnod olaf yr Ymerodraeth Fabilonaidd. Erbyn amser yr ymerodr Darius I Aramaeg oedd iaith swyddogol yr Ymerodraeth Bersiaidd ac yn lingua franca y rhan fwyaf o'r Dwyrain Canol, o orllewin Persia i Alecsandria yn yr Aifft.

    Yn ystod y cyfnod rhwng yr Alltudiaeth yn Babilon (tua 605 CC) hyd at ddechrau'r cyfnod Islamaidd, cymerodd Aramaeg le'r Hebraeg fel iaith lafar yr Iddewon. Aramaeg felly oedd iaith Iesu o Nasareth a'i ddisgyblion.