Ardal Malvern Hills

ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Malvern Hills.

Ardal Malvern Hills
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Gaerwrangon
PrifddinasMalvern Edit this on Wikidata
Poblogaeth81,024 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerwrangon
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd577.071 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0837°N 2.3437°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000235 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Malvern Hills District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 577.1 km², gyda 78,113 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cwmpasu'r rhan fwyaf o hanner gorllewinol Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Wyre Forest, Ardal Wychavon a Dinas Caerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw.

Ardal Malvern Hills yn Swydd Gaerwrangon heddiw

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 fel rhan o sir newydd Henffordd a Chaerwrangon. Pan ddiddymwyd y sir honno ym 1998, ac ailgyhoeddwyd hen ffiniau sirol Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, collodd Malvern Hills ran sylweddol o'i arwynebedd gorllewinol i Swydd Henffordd, ond ychwanegodd Tenbury Wells i'r gogledd, ac roedd yr ardal gyfan wedi'i chyfyngu o fewn ffiniau Swydd Gaerwrangon.

Ardal Malvern Hills yn Henffordd a Chaerwrangon yn ystod y cyfnod 1972–98

Pencadlys yr awdurdod yw Great Malvern. Tenbury Wells ac Upton-upon-Severn yw trefi eraill yr ardal.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020